Skip to main content Skip to footer
30 Ionawr 2025

Datganiad yn ymateb i newyddion Prifysgol Caerdydd ynghylch gwaith trawsnewid, wythnos 27 Ionawr 2025

ADD ALT HERE

Mewn ymateb i newyddion Prifysgol Caerdydd ynghylch gwaith trawsnewid, meddai llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae’r newyddion diweddaraf am waith trawsnewid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r cynigion ynghylch adrefnu adrannau academaidd a’r cynnig i ddiswyddo nifer o staff yn amlwg yn bryderus ac yn adlewyrchu heriau dybryd sy’n wynebu’r sector addysg uwch yn ei gyfanrwydd yng Nghymru. Mae’n amser gofidus dros ben i staff, myfyrwyr a darpar fyfyrwyr. Mae’n hollbwysig bod Prifysgol Caerdydd yn gwneud popeth yn ei allu i warchod y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog helaeth sydd wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd gyda chefnogaeth y Coleg. Byddwn yn cwrdd gyda swyddogion y brifysgol yn yr wythnosau nesaf i ddeall yn well beth yn union yw’r sefyllfa er mwyn diogelu darpariaeth Cymraeg a dwyieithog.”