Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dathlu ugain mlynedd ers sefydlu Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil sy’n cefnogi myfyrwyr i astudio doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ers sefydlu’r cynllun mae dros 180 o bobl wedi cyflawni doethuriaeth (PhD) dan nawdd y Coleg mewn meysydd amrywiol sydd wedi agor drysau iddynt i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, fel darlithwyr neu fel ymchwilwyr.
Mae’r cynllun wedi cyfrannu at greu darlithwyr ac ymchwilwyr cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi bod yn allweddol i ddatblygu a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr mewn prifysgolion ledled Cymru.
Fe gyflawnodd Seren Evans o’r Bala ddoethuriaeth ym maes Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn 2023, gan ddefnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i ymchwilio i anafiadau mewn gemau rygbi. Arweiniodd hyn at gyfleoedd “nad oedd hi erioed wedi’i ddychmygu.” Meddai Seren:
“Fel rhywun sydd wedi cael magwraeth lwyr drwy’r Gymraeg, faswn i byth wedi ystyried gwneud doethuriaeth heblaw am y cyfle i’w gyflawni trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg am y cyfle.
“Fy mreuddwyd ers yn ifanc oedd gweithio fel Ffisiotherapydd Chwaraeon, ac ers cyflawni’r ddoethuriaeth, mae fy nghymhwyster wedi agor llawer o ddrysau i mi.
"Nid yn unig dwi’n cael y cyfle i ysbrydoli pobl ifanc, a merched yn enwedig, i’r maes fel Darlithydd Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, ond dwi hefyd yn Ymchwilydd Cysylltiol ac yn Ffisiotherapydd i World Rugby.”

Mae Cai Ladd o Beulah yn ddaearyddwr arfordirol erbyn hyn ac yn treulio ei amser rhwng yr ystafell ddosbarth yn darlithio ym maes Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn teithio’r byd yn gwneud ymchwil arloesol yn astudio gwlyptiroedd arfordirol. Cyflawnodd Cai ei ddoethuriaeth dan nawdd y Coleg yn 2018. Meddai:
"Fel academydd, mae pob diwrnod yn wahanol.
“Mae’r iaith Gymraeg a Daearyddiaeth wedi bod o ddiddordeb i mi ers yn grwt ifanc, a theimlaf yn lwcus erbyn hyn fy mod yn gallu arwain ar ymchwil yn rhyngwladol a dod â’r ymchwil hynny yn ôl i Gymru er mwyn dysgu a deall mwy am arfordiroedd Cymru, a datblygu cyrsiau dwyieithog i fyfyrwyr.”
Cafodd Cennydd Jones o Aberystwyth ei ysbrydoli i gyflawni doethuriaeth dan nawdd y Coleg ym maes Amaeth ar ôl i’w fferm deuluol gael ei effeithio gan TB. Derbyniodd ei ddoethuriaeth yn 2023 ac erbyn hyn mae Cennydd yn Ddarlithydd Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Meddai:
“Does dim angen egluro pam fod y pwnc yma yn bwysig – mae’n effeithio cymaint o ffermydd ar lawr gwlad.
“Roeddwn eisiau dysgu mwy am sut oedd yr haint yn aros yn fyw yn yr amgylchedd a sut mae ffermwyr yn ceisio ei reoli yn yr amgylchedd.
“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n angerddol dros eu pwnc i wneud doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg dan nawdd y Coleg. Gewch chi gefnogaeth arbennig, a’r cyfle i geisio gwneud gwahaniaeth - i fywyd academaidd cyfrwng Cymraeg, ac i bobl ar lawr gwlad.”

Mae Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg, wrth ei fodd yn gweld effaith positif y cynllun ar yr unigolion, ac ar addysg cyfrwng Cymraeg yn ehangach. Meddai:
“Nod sefydlu’r cynllun oedd datblygu ymchwilwyr o’r safon uchaf sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’n braf gweld bod y cynllun wedi bod mor llwyddiannus, ac mae gennym ni griw brwdfrydig o academyddion cyfrwng Cymraeg newydd yn gweithio mewn prifysgolion ar draws Cymru erbyn hyn, yn gwneud gwaith arloesol, ac yn cynyddu a datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr.”
I nodi’r ugain mlwyddiant bydd Cennydd, Cai a Seren yn ymddangos mewn fideo arbennig wedi ei gomisiynu gan y Coleg a fydd yn cael ei ryddhau ar gyfryngau cymdeithasol neu You Tube y Coleg
Dilynwch y Coleg ar Instagram, Tik Tok, Facebook, Linked In a Bluesky i weld cynnwys ar y myfyrwyr PhD.