Skip to main content Skip to footer
20 Chwefror 2024

Cynllun newydd i gynyddu’r gweithlu addysg Gymraeg

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu cynllun, ‘Dysgu’r Dyfodol’, i fentora myfyrwyr sydd â diddordeb i wybod mwy am yrfa fel athro ysgol a’u hannog i ddilyn cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a’i nod yn y pendraw ydy cynyddu’r niferoedd sy’n ymuno â’r gweithlu addysg Gymraeg.

Mae’r cynllun yn cynnig sesiynau mentora gan athrawon sydd wedi ymuno â’r gweithlu yn ddiweddar a phrofiad gwaith i fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig i roi mewnwelediad iddynt i yrfa fel athro ysgol.

Cafodd Morgan Ward o Ben-y-bont ei annog i ddilyn gyrfa fel athro ar ôl cael profiad arbennig ar y cynllun llynedd tra oedd yn astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai, Morgan, sydd erbyn hyn yn astudio cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd:

“Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn bod yn athro, ond roeddwn i hefyd ychydig yn ansicr oherwydd nad oeddwn i’n gwybod llawer iawn am y swydd a doeddwn i heb fod mewn ysgol ers oeddwn i’n blentyn. Trwy ymuno â’r cynllun yma, ges i gyfle i dreulio amser mewn ysgol, a chael mentor personol a oedd yn gyfle gwych i mi holi bob math o gwestiynau a dysgu mwy am fod yn athro. Hefyd rwy’n teimlo bod y cynllun wedi rhoi’r hyder a’r wybodaeth i mi ymgeisio’n llwyddiannus ar gwrs Addysg Gychwynnol Athrawon, ac am hynny rwy’n ddiolchgar iawn.”

Morgan Ward

Cwblhaodd Catrin Davies y cynllun llynedd tra oedd hi’n astudio gradd mewn Cerddoriaeth a Drama ym Mhrifysgol Bangor. Yn dilyn y cynllun aeth ymlaen i astudio cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon addysg uwchradd mewn Cerddoriaeth, a theimlai fod ei phrofiad ar y cynllun wedi atgyfnerthu ei hangerdd i fod yn athro yn y dyfodol. 

Meddai Catrin:

“Heb os nac oni bai, mae’r cynllun ‘Dysgu’r Dyfodol’ wedi bod yn hynod werthfawr i mi ac wedi agor fy llygaid i bosibiliadau a chyfleoedd newydd. Cefais fentor arbennig a oedd yn athro Cerddoriaeth, felly cefais fewnwelediad perffaith i yrfa benodol sydd o ddiddordeb i mi, a braint oedd cael y cyfle i ofyn cwestiynau a chlywed am ei phrofiadau. Byddaf yn sicr yn argymell unrhyw un sydd â diddordeb i ddysgu mwy am yrfa fel athro i ymuno â’r cynllun yma.”

Catrin Davies

Mae pob myfyriwr sy’n cwblhau’r cynllun yn cael dau ddiwrnod o brofiad gwaith mewn ysgol cyfrwng Cymraeg a thri sesiwn mentora ar-lein gydag athro gyrfa gynnar.

Yn ogystal â recriwtio myfyrwyr, mae’r Coleg yn recriwtio mentoriaid mewn ysgolion Cymraeg ar hyd a lled Cymru sydd â diddordeb i fentora myfyrwyr.

 

 

“Rwyf wrth fy modd â bod yn athro”

 

Mae Siriol Elis, athro Sbaeneg yn Ysgol Tryfan wedi dychwelyd i’r cynllun eto eleni oherwydd iddi fwynhau’r profiad o fentora myfyriwr llynedd ar y cynllun.

Meddai Siriol:

“Baswn i wedi bod wrth fy modd i gael mentor pan oeddwn i’n fyfyriwr ifanc nerfus yn dechrau meddwl am yrfa yn y dyfodol. Gobeithio bod rhannu fy mhrofiadau wedi bod o gymorth i’r myfyriwr dwi wedi ei fentora, nid yn unig i gryfhau ei dealltwriaeth o’r swydd, ond hefyd i roi’r hyder iddynt geisio am gwrs Addysg Gychwynnol Athrawon.”

 

Cafodd Jack Griffiths, athro Bioleg yn Ysgol Llangynwyd brofiad positif iawn o fod yn fentor llynedd yn annog eraill i ddechrau gyrfa sydd yn rhoi llawer o foddhad iddo.  Meddai:

“Fe wnes i fwynhau bod yn fentor yn fawr oherwydd fe wnaeth y profiad ail-sbarduno'r rheswm pam es i mewn i addysg yn y lle cyntaf. Rwyf wrth fy modd â bod yn athro, a gweld y cynnydd a thwf yn y disgyblion o flwyddyn 7 i pan maent yn gadael yr ysgol. Mae’n fraint chwarae rhan yn eu siwrne yn cynnig syniadau a rhoi arweiniad, ac mae’r cynllun mentora yma wedi bod yn estyniad o hynny. Cefais gymaint allan o’r profiad a byddwn i’n annog bob athro i ystyried ymuno â’r cynllun.”

 

Mae Rebecca Williams, sy’n Uwch Reolwr Sgiliau Iaith a Chynllunio Gweithlu yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn bositif am effaith hirdymor y cynllun ar y gweithlu addysg.

Meddai Rebecca:

“Mae’r sector addysg yn wynebu heriau wrth ddenu a chadw athrawon. Trwy roi’r cyfle i fyfyrwyr gael blas go iawn ar y profiad o fod yn athro, a hynny gan bobl sy’n gwneud y swydd o ddydd i ddydd, rydym yn anelu at gynyddu diddordeb yn y proffesiwn, a chynnig cefnogaeth wrth ymgeisio am gwrs.

“Mae swydd athro’n un sy’n rhoi cymaint o foddhad – mae’n rhoi’r cyfle i chwarae rôl gwbl allweddol yn ein cymdeithas, gan gynnwys cyfrannu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, os ydych chi am gael gwybod mwy, ewch amdani ac ymunwch â chynllun Dysgu’r Dyfodol.”

I ddarganfod mwy am gynllun ‘Dysgu’r Dyfodol’ ac i ymgeisio am le fel myfyriwr neu fentor, cysylltwch â Hannah Davies ar h.davies@colegcymraeg.ac.uk