Skip to main content Skip to footer
7 Ionawr 2021

Effaith covid-19 a hiliaeth ar blant yng Nghymru I’w trafod mewn cynhadledd hawliau plant

ADD ALT HERE

Bydd effaith Covid-19 ar blant yng Nghymru, profiadau plant o hiliaeth, eiriolaeth plant yn Gymraeg a sut i sicrhau fod llais y plentyn yn cael ei ganfod ymhlith y pynciau o dan sylw mewn Cynhadledd Hawliau Plant i’w chynnal ar-lein ddydd Mercher 24 Chwefror.

 

Yn ôl yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, fydd yn traddodi’r araith allweddol, mae’r anghyfartaleddau oedd yn bodoli cyn y pandemig wedi eu hatgyfnerthu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda phlant sy’n byw mewn tlodi, plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phlant anabl, yn profi mwy o anhawster yn cael mynediad at eu hawliau na’u cyfoedion.

Yn ystod y gynhadledd bydd Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu canfyddiadau dau arolwg mawr ar safbwyntiau plant a phobl ifanc ar adegau allweddol yn ystod y pandemig, ac yn darparu asesiad o ddigonolrwydd ymateb y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.  

Meddai’r Athro Holland:  

“Mae plant wedi wynebu heriau enfawr yn sgil y pandemig bydeang. Bydd gan gyfranogwyr y gynhadledd heddiw rôl bwysig i chwarae wrth gefnogi plant dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod ganddynt gyfle cyfartal i oresgyn eu profiadau a gwireddu eu potensial llawn. Rydw i’n hynod o falch o gael y cyfle i rannu syniadau gyda nhw.” 

Dyma gynhadledd gyntaf Panel Astudiaethau Addysg, Plant a Gofal Ieuenctid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a drefnir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Grant Cydweithredol gan y Coleg Cymraeg. Mae’r digwyddiad wedi ei dargedu at fyfyrwyr Prifysgol, dysgwyr mewn colegau addysg bellach a gweithwyr yn y maes.

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Pro-Is Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

“Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o allu trefnu’r gynhadledd rithiol hon gyda chymorth grant o du’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i groesawu addysgwyr, myfyrwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru i’r digwyddiad cydweithredol ac amserol hwn.”

Mae Dr Siân Lloyd Williams o Brifysgol Aberystwyth yn gadeirydd Panel Astudiaethau Addysg, Plant a Gofal Ieuenctid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ynghyd â chydweithwyr bydd Dr Williams yn cynnal sesiwn ar sut i ganfod llais y plentyn yn ystod Covid-19 ac yn ystyried y rhwystrau a’r atebion. Meddai:

"Dyma gynhadledd gyffroes a chyfredol sy’n delio gyda pwnc pwysig iawn ac mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn i fod yn rhan ohono.  Mae'n hollbwysig trafod, deall a chanfod llais plant Cymru cyn, ac yn ystod cyfnod COVID, ac mae’r gynhadledd yma yn ein galluogi i ystyried a thrafod hynny yn y Gymraeg ac mewn cyd-destun Cymreig".

Mae Gareth Hicks yn Swyddog Cyfranogiad gyda’r elusen Plant yng Nghymru ac yn arbenigo mewn addysgu pobl a sefydliadau ar hiliaeth, cynyddu ymwybyddiaeth ddiwylliannol, amrywiaeth a chynhwysiant, a bydd yn cynnal sesiwn ar brofiadau plant yng Nghymru o hiliaeth. Meddai:

“Trwy fy ngwaith gyda Plant yng Nghymru dwi’n gweithio i godi dyheadau, adeiladu gwytnwch ymhlith pobl ifanc a gwneud gwahaniaeth o ran yr anhegwch sy’n bodoli yng Nghymru.”

Bydd Nia Gwynfor o National Youth Advocacy Service yn cynnal sesiwn ar eiriolaeth plant yn y Gymraeg. Mae Nia wedi bod yn gweithio ar Brosiect Undod ar ran NYAS Cymru, prosiect sy’n cynnig cefnogaeth dwys ac holistaidd ar gyfer merched ifanc beichiog a mamau ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Meddai Nia:

“Rwy’n falch fy mod yn gweithio i NYAS Cymru ac yn benodol ar y Prosiect Undod. Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon pa mor werthfawr yw eiriolaeth a'r gefnogaeth hon a’r budd i'r bobl ifanc y mae NYAS yn eu cefnogi. Mae llwyddiant y prosiect yn ganlyniad i gyfranogiad y menywod ifanc rydyn ni'n eu cefnogi a dwi’n edrych ymlaen gallu rhannu hynny gyda phawb yn y gynhadledd bwysig hon.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a'i rannu ar Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg gan greu adnodd ddefnyddiol i bobl mewn sawl maes addysgu. Mae'r sesiwn ar eiriolaeth yn bwysig er mwyn denu diddordeb siaradwyr Cymraeg yn y maes o hawliau plant sy'n siarad Cymraeg, yr heriau a denu rhagor i weithio yn y maes.