Skip to main content Skip to footer
15 Ebrill 2025

Gwahodd ceisiadau ar gyfer Bwrsariaeth Goffa Dr Llŷr Roberts

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig ar gyfer Bwrsariaeth Goffa Dr Llŷr Roberts.

Mae’r fwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc er mwyn cefnogi taith sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau.

Sefydlwyd y fwrsariaeth llynedd er cof am Dr Llŷr Roberts un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg a fu farw’n sydyn yn haf 2023 yn 45 mlwydd oed.

Roedd chwe myfyriwr wedi elwa o’r fwrsariaeth llynedd.

 

 

Teithiodd tair myfyrwraig Bydwreigiaeth o Brifysgol Bangor i Sri Lanka er mwyn cael profiad o weithio ar wardiau geni’r ysbytai mewn gwlad sy’n datblygu.

Meddai Mia Owen:

“Fy hoff ran oedd mynd o gwmpas y ward a chyflwyno fy hun i'r holl fenywod a chael sgwrs gyda nhw er mwyn cael ychydig o’u hanes. 

“Roedd bod yn Sri Lanka yn brofiad bythgofiadwy ym mhob ffordd.

“Cefais gyfle i drio bwyd newydd, cwrdd â phobl newydd, a dysgu a gweld rhan o'r byd doeddwn i ddim yn meddwl y byswn i'n gweld. Felly rwy'n ddiolchgar iawn cael y cyfle i wneud hyn o fewn fy ngradd.

“Byddwn i’n sicr yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb i ymgeisio am yr ysgoloriaeth yma i fynd amdani.”

Enillydd arall oedd Gwernan Brooks a deithiodd i Batagonia yn ddiweddar. Mae Gwernan yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a theimlai fod y cyfle wedi bod yn “hynod o fuddiol” i’w hastudiaethau. Meddai:

“Roedd gweld gymaint o bobl yn ymfalchïo yn y diwylliant Cymraeg yn arbennig. Fel rhywun sy’n dod o gymuned ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol, sylweddolais fy mod i’n gallu cymryd yr iaith yn ganiataol i raddau. Roedd hi’n ddifyr iawn gweld diwylliant Cymraeg wedi ei blethu â diwylliant Archentaidd.

“Cefais brofiadau arbennig yn addysgu yn yr ysgolion cynradd lleol ac ysgol uwchradd ddwyieithog, Coleg Camwy, ble mae Cymraeg yn cael ei gynnig fel pwnc.

"Dysgais lawer o dechnegau dysgu a chaffael iaith hefyd fydd yn ddefnyddiol iawn i mi gan fy mod â diddordeb i addysgu yn y dyfodol.”

 

Yn ogystal, aeth Megan Broom sy’n astudio Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth i Bergen i astudio tirffurfiau arbennig y wlad; a bydd Shayla Virgo sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru, yn teithio i America mis nesa. Bydd hi’n archwilio’r system gyfreithiol a gwella ei dealltwriaeth o egwyddorion y gyfraith gyffredin yno.

 

Wrth siarad am yr ysgoloriaeth, meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg,

“Roedd Llŷr yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio.

“Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod yn cynnig y fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg. Mae’n amlwg bod enillwyr llynedd wedi elwa yn fawr ac felly edrychwn ymlaen at dderbyn rhagor o geisiadau eleni.

“Hoffwn gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i deulu Llŷr am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth wrth sefydlu’r ysgoloriaeth ac i Brifysgol Bangor ble roedd Llŷr yn darlithio.

Gellir mynd i wefan y Coleg am ragor o wybodaeth.