Skip to main content Skip to footer
20 Mai 2024

Gwahodd ceisiadau ar gyfer Bwrsariaeth Goffa Dr Llŷr Roberts

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig ar gyfer Bwrsariaeth Goffa Dr Llŷr Roberts.

Mae’r bwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n  astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc er mwyn cefnogi  taith sy’n gysylltiedig a’u hastudiaethau.

Bydd y Coleg yn dyfarnu hyd at £2,000 yn flynyddol gyda hyd at bedwar dyfarniad o tua £500 i bob myfyriwr llwyddiannus.

Cyhoeddwyd y fwrsariaeth yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mawrth i gofio am Dr Llŷr Roberts, un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf a disgleiriaf y Coleg Cymraeg a fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:

 

Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gyd-weithwyr a’i fyfyrwyr.

Roedd yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio. Mae ei waddol yn glir, a dwi’n hynod o falch bod y Coleg wedi sefydlu’r fwrsariaeth yma, gyda chefnogaeth teulu Llŷr a Phrifysgol Bangor, i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda theithiau sy’n ymwneud a’u hastudiaethau Cymraeg.”

 

Mae’r manylion llawn am y fwrsariaeth ar wefan y Coleg Cymraeg, a dylid cyflwyno’r ffurflen gais i Gwobrau@colegcymraeg.ac.uk erbyn canol dydd, 17 Mehefin 2024. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ei cyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf yn mis Awst 2024. 

 

Roedd Llŷr yn un o’r Darlithwyr Cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg ac aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor. Derbyniodd Llŷr ganmoliaeth genedlaethol am ei waith, ac enillodd wobr, ‘Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol’ gan y Coleg am ddatblygu’r e-lyfr cyntaf erioed yn y maes marchnata yn yr iaith Gymraeg.