Skip to main content Skip to footer
21 Mehefin 2024

Gwobrwyo myfyrwyr, prentisiaid a darlithwyr disglair yn noson wobrau’r Coleg Cymraeg

ADD ALT HERE

Uchafbwyntiau'r Noson

Ar nos Iau 20 Mehefin mewn dathliad arbennig yng Nghanolfan S4C yr Egin, cyhoeddwyd enillwyr gwobrau ar gyfer myfyrwyr, prentisiaid a staff o’r sector addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Gwobr Mered

Rhai o uchafbwyntiau’r noson oedd datgelu Priya Dodiya, myfyrwraig Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe fel enillydd Gwobr Merêd sy’n cydnabod cyfraniad myfyriwr i fywyd a diwylliant Cymraeg yn y brifysgol. Gwobrwywyd Priya am ei gwaith arbennig yn datblygu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ddefnyddio eu Cymraeg

Meddai Priya:

“Mae’r wobr hon yn golygu gymaint i mi oherwydd fel siaradwraig Cymraeg o dras Indiaidd, rwyf wedi wynebu gwahaniaethu o fewn y gymuned. Ond, trwy fy ymdrechion yn hyrwyddo’r iaith o fewn cymunedau amrywiol, rwy’n gobeithio creu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb.”

Gwobr Darlithydd Cysylltiol: Dathlu’r Darlithydd

Enillydd Gwobr Darlithydd Cysylltiol: Dathlu’r Darlithydd eleni oedd Rhian Griffiths, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Cyflwynwyd y wobr iddi ar y noson gan un o’i myfyrwyr, Gronw Ifan, a’i henwebodd, am ei “gwaith diflino a’i chymeriad heintus yn ysbrydoli darpar athrawon y dyfodol.”

Meddai Gronw sy’n astudio am ei Dystysgrif Addysg i Raddedigion:

“Mae Rhian Griffiths yn ddarlithwraig heb ei hail, rydych chi wastad yn dysgu rhywbeth wirioneddol o werth ac mae hi’n eu cynllunio mor drwyadl ac yn eu cyflwyno fel petai nhw’n ddramau llwyfan! Yn ogystal â bod yn fodel rôl gadarn i ddarpar athrawon y dyfodol, mae hefyd yn cymryd diddordeb ynddon ni ac yn poeni amdanon ni fel petawn ni’n blant iddi. Mae’n gwbl amlwg ei bod hi eisiau ni i lwyddo.”

Wrth dderbyn y wobr meddai Rhian:

“Mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi. Mae’r Gymraeg yn golygu popeth i mi. Os gallaf ysbrydoli athrawon y dyfodol i ymfalchïo yn y Gymraeg a’i defnyddio gyda’i disgyblion, rwy’n teimlo llawenydd mawr.”

Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury

Cyhoeddwyd mai Olivia Williams oedd enillydd Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury. Cyflwynwyd y wobr i iddi gan ei harwr, Dafydd Iwan, ac mae’r wobr yn cydnabod ei syniadau ffres yn defnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg siaradwyr Cymraeg newydd yng Ngholeg y Cymoedd. Meddai ‘Liv’, sy’n astudio Celfyddydau Perfformio, ac yn aelod o fand dwyieithog, General Waste:

“Fel person creadigol, pan ddechreuais i yn y coleg sylweddolais fod llawer o gyfleoedd i fod yn greadigol trwy defnyddio’r iaith Gymraeg. Nid oeddwn i’n hyderus iawn yn y Gymraeg ar ddechrau fy nghwrs, ond ers ymuno mewn clybiau Cymraeg y Coleg, trefnu gigs ar gyfer Dydd Miwsig Cymru ar y campws, a chreu fideos Tik Tok i gyfrif Coleg y Cymoedd, dwi nawr llawer mwy hyderus! Dwi hyd yn oed wedi dechrau canu yn y Gymraeg, ac yn gweld mwy o bobl ddi-hyder yn y Gymraeg yn dechrau cymryd cyfleoedd tebyg. Dwi’n cael gymaint o hwyl, ac mae hynny’n bwysig.”

Gwobr Talent Newydd

Enillydd Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce oedd Cerys Brown o Goleg Sir Benfro, sydd yn brentis gofal iechyd gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac wedi ei lleoli yn Ysbyty Glangwili. Mae’r wobr yn cydnabod prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle. Yn ôl adborth gan staff a chleifion am berfformiad Cerys ar y wardiau, mae hi’n cael ei disgrifio fel gweithwraig ddibynadwy a phroffesiynol sy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg wrth ymwneud â chleifion. Meddai Cerys,

“Mae’n fraint i mi dderbyn y wobr hon. Rwyf wrth fy modd yn fy swydd ac mae’r wobr yn cadarnhau fy mod yn rhoi fy ngorau yn academaidd ac yn y gweithle. Mae gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn medru bod yn heriol ar adegau, ond rwy'n mwynhau bob agwedd o'r gwaith sy'n dod a boddhad wrth i mi helpu cleifion sydd o dan fy ngofal.”

Ceir restr lawn o'r enillwyr ar waelod yr erthygl.

Lansio cynllun newydd i gefnogi myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig

Hefyd, yn ystod y seremoni, lansiwyd Cynllun Sbarduno’r Coleg yn swyddogol i fentora a chefnogi pobl ifanc rhwng 16-18 oed o gefndiroedd Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig i gyrraedd eu potensial.

Dywedodd Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg:

“Pwrpas Cynllun Sbarduno ydy sicrhau fod pobl ifanc o gefndiroedd Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael y cyfle i drafod eu dyfodol gyda mentor all gynnig cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar sut i wneud y mwyaf o’u sgiliau Cymraeg.

“Mae’r Gymraeg yn agor cymaint o ddrysau ac mae’n bwysig bod disgyblion o’r cefndiroedd dan sylw yn gallu gweld bod y cyfleoedd yma yn berthnasol iddyn nhw.”

Dangoswyd fideo arbennig ar y noson sy’n dangos profiadau’r disgyblion sydd wedi elwa o’r cynllun peilot eleni.

Cyflwynwyd y noson gan y cyflwynydd S4C adnabyddus, Trystan Ellis-Morris ac ar ddiwedd y seremoni rhoddodd Lloyd Lewis a Dom James berfformiad byw o Dacw ‘Nghariad.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:

“Mae pob enillydd heno yn haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith o’r safon uchaf a’u cyfraniad tuag at addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau. Maent yn codi proffil y Gymraeg yn eu sefydliadau ac yn arddel y safonau uchaf, a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.

“Rydym hefyd yn falch iawn i lansio cynllun newydd a phwysig, ‘Sbarduno’. Mae cryn dipyn o waith gyda ni fel Coleg ac fel sector i wneud yn y maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth ac mae’r cynllun Sbarduno yn enghraifft o sut ryn ni’n rhoi ein strategaeth ar waith er mwyn sicrhau bod addysg drydyddol Gymraeg a dwyieithog yn agored i bawb beth bynnag eu cefndir.”

Mae modd gwylio’r digwyddiad yn ôl ar sianel You Tube y Coleg

Enillwyr Gwobrau Addysg Bellach

Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury - Enillydd: Olivia Williams, Coleg y Cymoedd. Cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth.

Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce - Enillydd: Cerys Brown, Coleg Sir Benfro. Cydnabod cyfraniad Prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle. 

Gwobr Addysgwr Arloesol - Enillydd: Marion Evans, Coleg Penybont. Cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol.

Gwobr am Gyfraniad Arbennig - Enillydd: Amy Thomas, Grŵp Llandrillo Menai. Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi i aelod o’r tîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn ei sefydliad.  

Gwobr am gyfoethogi profiad y dysgwr/prentis - Enillydd: Sophia Randall, Coleg Cambria
Cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol. 

Enillwyr Gwobrau Addysg Uwch

Gwobr Meddygaeth William Salesbury - Enillwyr: Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes, Prifysgol Caerdydd. Cydnabod arloesedd prosiect ymchwil neu gyfraniad at weithgareddau cyfredol allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.

Gwobr Merêd - Enillydd: Priya Dodiya, Prifysgol Abertawe. Cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.  

Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol - Enillydd: Dr Alwena Morgan, Prifysgol Abertawe.  Am greu adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg. 

Gwobr Cyfraniad Eithriadol - Enillydd: Elen Mai Nefydd, Prifysgol Wrecsam. Am gyfraniad eithriadol i addysg uwch (tu hwnt i rôl broffesiynol).  Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.

Gwobr Dathlu’r Darlithydd - Enillydd: Rhian Griffiths, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r wobr yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.