Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi rhifyn arbennig o Gwerddon sy’n cynnwys pum erthygl ar hanes y Wladfa Gymreig o bersbectifau newydd.
Mae’r erthyglau yn benllanw ar flynyddoedd o gydweithio a chyd-drafod rhwng ysgolheigion o Gymru ac o’r Ariannin, ac yn cynnwys cyfraniadau newydd sydd wedi eu cyfieithu o’r Sbaeneg i’r Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i Gwerddon gyhoeddi cyfieithiadau.
Mae Sara Borda Green sydd yn enedigol o Drevelin, Cwm Hyfryd ym Mhatagonia, wedi cyfrannu erthygl sy’n archwilio elfennau o’r portread o’r Wladfa a gyflwynir yn Separado!, y rhaglen ddogfen gan Gruff Rhys a Dylan Goch. Mae gan Sara ddoethuriaeth mewn Ieithoedd Modern ac ar hyn o bryd mae’n darlithio yn adran Sbaeneg, Prifysgol Bangor.
Meddai: “Fel ymchwilydd sydd wedi bod yn dyst i ddatblygiad y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia ers y 90au, rwy'n credu ei bod yn hen bryd gofyn cwestiynau newydd ynglŷn â rôl Patagonia yn y dychymyg Cymreig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyhoeddwyd sawl erthygl sy'n mynnu ‘ailddehongli’ hanes Y Wladfa er mwyn brwydro yn erbyn ei ‘rhamanteiddio’. Ac eto, ynddynt, mae'n bosibl sylwi ar fan dall allweddol: os yw Cymru yn delfrydu'r fenter yn Ne America, i ba raddau y mae’r broblem yn ymwneud â ‘methiannau’ ieithyddol, gwleidyddol, neu foesol – yn dibynnu ar y cyfnod – y gornel honno o'r byd yn hytrach nag â'r dychymyg Cymreig Ewropeaidd sy'n gweithredu’r rhamanteiddio?”
Un o’r awduron o’r Ariannin ydy Guillermo Williams o Brifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco sydd wedi ysgrifennu erthygl ar y testun ‘Dadleuon am hanes a chof yn ymsefydliad Cymreig Chubut.’ Meddai:
“Mae'r erthygl hon yn crynhoi’r ymchwil doethurol yr wyf yn ei ysgrifennu ar hyn o bryd, lle rwy'n dadansoddi'r ffyrdd y cynhyrchwyd ac yr adroddwyd hanes ‘swyddogol’ Talaith Chubut gan y llywodraeth daleithiol, ond gyda chefnogaeth glir gan y gymuned Gymreig. Ar y naill law, roedd cymunedau fel y Cymry yn cael eu hedmygu am eu rhinweddau, ond roedden nhw hefyd yn fygythiad, yn enwedig gan eu bod yn mynnu hawl i hunanlywodraethu. Ar y llaw arall, mae eraill yn gweld dyfodiad y Cymry yn 1865 yn foment pan ‘sefydlwyd’ y dalaith, mewn cyfnod pan ystyriwyd y bobl frodorol yn ‘rhwystr’ i ddatblygiad yr ‘Ariannin newydd.’ Roedd y Cymry felly yn cynrychioli delfryd, a datblygwyd yr hanes swyddogol hwn, a'i addysgu mewn ysgolion. Mae'r darlleniad hegemonig hwn yn parhau hyd heddiw, er ei fod yn cael ei drafod fwyfwy gan haneswyr, yn ogystal â chan aelodau eraill o’r Dalaith.”
Yn ôl Dr Iwan Wyn Rees, uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sydd wedi cyfrannu erthygl yn ogystal â golygu’r rhifyn arbennig, mae’r cyhoeddiad yn ystyried lleisiau ffres ac amrywiol o ddwy ochr yr Iwerydd ac yn herio naratifau traddodiadol sydd wedi eu beirniadu am fod yn unochrog gan rai ysgolheigion.
Meddai:
“Mae'n destun balchder i mi fod gan ddarllenwyr Cymraeg, o'r diwedd, gyfle i bori mewn casgliad amrywiol, amlddisgyblaethol o erthyglau sy'n ymdrin â'r Wladfa, pwnc cymhleth sydd o ddiddordeb yng Nghymru ac ymhlith y diaspora Cymreig fel ei gilydd. Rwy'n ddyledus i'r Athro Anwen Jones a'i Bwrdd Golygyddol am eu parodrwydd i dorri tir newydd drwy gynnwys dau gyfieithiad – o'r Sbaeneg i'r Gymraeg yn uniongyrchol – am y tro cyntaf yn hanes Gwerddon. Gobeithio nawr y bydd y rhifyn hwn yn darbwyllo sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru – heb anghofio am y 'Cwricwlwm i Gymru' newydd – i roi sylw haeddiannol i wladychu Cymreig fel rhan annatod o hanes Cymru (a chenedlaetholdeb Cymreig), ond hefyd o safbwynt cyfraniad y diaspora Cymreig i'r famwlad ac i’r byd.”
Dyma'r pum erthygl sydd ar gael i'w darllen ar wefan Gwerddon:
'Heb ei fai, heb ei eni: 'Disgwrs' a Moeseg y Wladfa' - Huw L. Williams, Prifysgol Caerdydd
Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd rhyngddisgyblaethol Cymraeg, ac yn croesawu erthyglau i'w cyhoeddi ar bob pwnc. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen hon.