Skip to main content Skip to footer
7 Chwefror 2025

“Hoffwn roi hyder i bobl ifanc eraill i gyhoeddi cerddoriaeth yn Gymraeg.”

ADD ALT HERE

Ar Ddydd  Miwsig Cymru mae prif ganwr y band Dim Gwastraff, Olivia Williams o’r Rhondda, yn adlewyrchu ar flwyddyn arbennig wedi iddi ennill Gwobr Addysg Bellach William Salesbury 2024 y Coleg Cymraeg. 

Yn ôl Olivia,

“Mae’r Gymraeg wedi trawsnewid popeth, mae wedi rhoi platfform i mi. Hoffwn i nawr roi hyder i bobl ifanc eraill i gyhoeddi cerddoriaeth yn Gymraeg.”

Mae Olivia yn dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg y Cymoedd, a gwobrwywyd hi gan y Coleg Cymraeg am “gyfrannu’n aruthrol” at fwrlwm diwylliant Cymraeg o fewn ei choleg addysg bellach trwy ei cherddoriaeth a’i gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Meddai Olivia,

“Roedd ennill y wobr wedi fy ngyrru i ymlaen i fanteisio ar bob cyfle a oedd yn agored i mi trwy gyfrwng y Gymraeg, a dwi’n lwcus iawn o’r profiadau a'r llwyddiant dwi wedi eu derbyn.”

Dim Gwastraff

Ffurfiwyd Dim Gwastraff yn Ionawr 2024 fel band uniaith Saesneg i ddechrau o dan yr enw General Waste. Yn fuan wedi hynny, cafodd Olivia ei hysbrydoli gan ei thiwtoriaid yn y coleg i berfformio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Ers hynny mae Olivia a’i band wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cael cryn dipyn o lwyddiant gan gynnwys ennill Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Meddai:

“Roedd creu band dwyieithog yn gam pwysig i mi fel siaradwraig Cymraeg, a dyma oedd y peth gorau wnaethom ni! Ers i ni ddechrau perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg, rydym wedi agor ein cynulleidfa, ac mae’r ymateb wedi bod yn amazing!”

Roedd cael y cyfle i berfformio ym Maes B yn brofiad fythgofiadwy fydd yn aros gyda Olivia am amser hir iawn. Meddai,

“Roedd perfformio yn fy ardal enedigol i i dorf enfawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn brofiad byddaf byth yn ei anghofio. Mae’r profiad hynny wedi arwain at lawer mwy o gyfleoedd, ac mae llawer o bethau cyffrous ar y gweill.”

 

Gyda chefnogaeth Coleg y Cymoedd, bydd Dim Gwastraff yn rhyddhau ei sengl newydd, Breuddwydion Machlud ar Ddydd Miwsig Cymru, (7 Chwefror 2025), ac mae dwy gan arall ar y gweill. Meddai,

“Rwy’n edrych ymlaen at berfformio’r sengl newydd ar Ddydd Miwsig Cymru ar gampysau Coleg y Cymoedd. Mae’n bwysig i mi ddangos i bobl ifanc eraill bod y Gymraeg yn cŵl. Yn fy ardal i mae’n eich gwneud chi’n wahanol. Rwy’n gyffrous iawn am y dyfodol.”

Dywedodd Liam Higgins, Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd y Coleg y Cymoedd:

“Heb os, byddai bywyd myfyrwyr y Coleg a thîm y Gymraeg yn dlotach heb gyfraniad Olivia. Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant a’i dylanwad positif ar eraill i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Mae modd enwebu dysgwyr am Wobr Addysg Bellach William Salesbury cyn 10 Mawrth 2025 ar wefan y Coleg