Skip to main content Skip to footer
4 Hydref 2022

Hunaniaethau: Cymreictod

ADD ALT HERE

'Hunaniaethau: Cymreictod" Cyfres newydd i drin a thrafod Cymru yn ei holl amrywiaeth

Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu (mis Hydref 2022), bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio cyfres o sgyrsiau ar-lein sy’n mynd i’r afael â hunaniaeth cenedlaethol o bersbectif amrywiol, megis crefydd, hil, rhywedd, a LHDTC+ yng Nghymru.

Wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno cwricwlwm newydd i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru sy’n gwneud dysgu am hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, ac addysg cydberthynas a rhywioldeb yn orfodol, bydd y gyfres ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yn trafod hunaniaethau yng Nghymru heddiw yn eu holl amrywiaeth. Bydd yn cynnwys sgyrsiau a thrafodaethau agored a gonest gydag unigolion o wahanol feysydd, cymunedau a sefydliadau gan gynnwys yr athrawes Natalie Jones, yr Athro Laura McAllister, a Joseph Gnagbo, y ffoadur o'r Arfordi Ifori sydd erbyn hyn yn gweithio fel athro Cymraeg.  

Bydd y sesiwn gyntaf ar ddydd Iau 13 Hydref 2022 am 18:00 er mwyn nodi Mis Hanes Pobl Ddu. Y cyfrannydd cyntaf fydd Natalie Jones, a bydd hi’n cyflwyno ‘Mae yn fy DNA’. Mae Natalie o dras Jamaicaidd a symudodd gyda’i theulu i Bwllheli o Firmingham i fyw pan oedd hi’n 9 oed.  

Erbyn hyn mae Natalie yn gweithio fel athrawes gyflenwi, yn golofnydd cyson i gylchgrawn Golwg, ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar y cwricwlwm newydd. Ac yn ôl Natalie, bydd y cwricwlwm newydd yn addysgu’r genhedlaeth nesaf yn ddyfnach am hunaniaeth Gymreig: 

“Mae addysgu hanes bobl Ddu, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol i blant yn yr ysgol yn allweddol er mwyn addysgu plant bod eu hil, eu crefydd a’u cefndir mor bwysig â'i gilydd. Fel plentyn yn tyfu i fyny yng Nghymru, roeddwn i’n teimlo’n unig iawn oherwydd doedd neb yn deall pam yr oeddwn i’n edrych yn wahanol. O hyn ymlaen, pan fydd plant o gefndir lleiafrifol ethnig yn ymadael â’r ysgol, mawr obeithiaf y byddant yn teimlo eu bod yn perthyn i gymdeithas yng Nghymru. 

Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, sy’n trefnu’r gyfres, o dan nawdd y Coleg Cymraeg. 

Roedd Dr Evans hefyd yn gyfrifol am y gynhadledd lwyddiannus, Y Ddraig Amryliw, a gynhaliwyd ym mis Chwefror eleni i gyd-fynd â mis Pride: 

“Mae ‘Cymreictod’ fel cysyniad yn un amlhaenog ac amlweddog,” meddai “ac yn parhau i esblygu."  

“Diben y gyfres ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yw cyflwyno sgyrsiau ysgogol am agweddau amrywiol ar yr hyn a olygir wrth ‘Cymreictod’ yn hanesyddol, yn gyfredol, a chyda golwg at y dyfodol.” 

Ymysg y siaradwyr eraill bydd yr ysgolhaig a’r cyn chwaraewraig bêl-droed ryngwladol, Yr Athro Laura McAllister, sydd hefyd wedi bod yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru, ac ar fwrdd UK Sport, ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Fel aelod ac ymgyrchydd yn y gymuned LHDTC+ yng Nghymru, bydd hi’n trin a thrafod hunaniaeth Gymreig yn y byd chwaraeon a chynrychiolaeth y gymuned LHDTC+ yn y maes. Yn ôl Yr Athro McAllister, mae tîm pêl-droed Cymru yn arwain y ffordd gyda’i ddelwedd fodern a chynhwysol, ac mae Cwpan y Byd yn gyfle amhrisiadwy i adlewyrchu hyn i weddill y byd: 

“Mae pêl-droed Cymru wedi llwyddo i ymgysylltu â chymunedau diwylliannol amrywiol, gan gysylltu'r lleol â'r cenedlaethol a'r byd-eang i bob pwrpas. Rydym wedi symud ymhell o'r ddelwedd hen ffasiwn a nawddoglyd sydd gan lawer o ddinasyddion y byd o'n cenedl. Felly, bydd y dirgelwch a'r diddordeb am Gymru yn ffres i gynulleidfaoedd yn Qatar 2022. Mae angen i'n naratif fod yn flaengar ac yn seiliedig ar werthoedd Cymru fel cenedl enfys, a dinesydd byd-eang da sydd â phobl gynhwysol a chroesawgar, ac ieithoedd a diwylliannau amrywiol.” 

Yn ogystal, bydd sgwrs gyda Joseph Gnagbo, ffoadur o Orllewin Affrica sydd bellach yn rhugl yn y Gymraeg, sgyrsiau gydag aelodau o Gyngor Mwslimiaid Cymru a Chyngor Bwdaidd Cymru i drafod rhyng-grefyddoldeb, a bydd rhai o awduron 'Welsh Plural: Essays on the Future of Wales' yn trafod y gyfrol sy’n herio’r stereoteip am Gymreictod.  

Dywedodd Noam Devey, a gafodd ei benodi i swydd newydd fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth o fewn y Coleg Cymraeg eleni: "Mae’r Coleg yn falch iawn o noddi’r gyfres bwysig hon. Ry'n ni’n cymryd yr agenda Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth o ddifri ac mae sicrhau bod materion sy’n ymwneud â holl agweddau ar fywyd, cymunedau a diwylliannau amrywiol yng Nghymru yn cael eu trafod drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig. 

“Mae’r Coleg yn ddiolchgar i Gareth Evans-Jones am drefnu’r gyfres oherwydd mae’n adlewyrchu gwaith pwysig y Coleg wrth amlygu amrywiaeth Cymru o ran cymunedau, hil a chrefydd a sicrhau bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn trafodaethau o’r fath. Mae croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan yn y gyfres.” 

Gwyliwch sesiwn Natalie Jones, ‘Mae yn fy DNA, a darllenwch fwy amdani yn ‘Dod i ‘nabod… Natalie Jones’. 

Mae’r sesiynau'n cael eu cynnal yn fisol ar-lein tan fis Mawrth ac maent ar agor i’r cyhoedd. Mwy o wybodaeth am yr holl sesiynau a’r manylion cofrestru.