Skip to main content Skip to footer
17 Tachwedd 2022

Ifan Phillips o Grymych yn elwa ar ei brentisiaeth ddwyieithog

ADD ALT HERE

Mae Ifan Phillips wedi cwblhau ei brentisiaeth Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol yng Ngholeg Sir Benfro ac mae’n teimlo bod astudio rhan o’i brentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi rhoi sgiliau amhrisiadwy iddo yn y gweithle.  

Dechreuodd Ifan ei brentisiaeth yn 2019 ar ôl sylweddoli bod yn well ganddo ddysgu wrth weithio yn hytrach nag astudio cwrs yn y brifysgol neu gwrs addysg bellach. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel trydanwr i gwmni teuluol, D.E Phillips & Sons CYF yng Nghrymych, a gafodd ei sefydlu gan ei dad-cu, ac mae gallu rhoi gwasanaeth Cymraeg i’w gwsmeriaid yn yr ardal yn bwysig iawn iddo. Mewn fideo ar dudalen YouTube y Coleg Cymraeg sy'n trafod manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, dywedodd Ifan: 

”Mae tua wyth deg y cant o’r cwsmeriaid lle dwi'n gweithio yn siarad Cymraeg, ac maent yn gwerthfawrogi fy mod i’n gallu rhoi gwasanaeth Cymraeg iddyn nhw. Felly, mae astudio fy nghwrs yn ddwyieithog wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi yn y gweithle.” 

Addysg prifysgol oedd canolbwynt gwaith y Coleg yn y blynyddoedd cynnar, ond, ers 2019, mae gan y Coleg hefyd gyfrifoldeb dros ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn colegau addysg bellach ac ym maes prentisiaethau. Eleni, roedd y Coleg yn gyfrifol am ariannu 20 o swyddi darlithio mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, dau ym mhob un o’r 11 o golegau.  Ers cychwyn ar y gwaith yn y maes ôl-16, mae dros deng mil o ddysgwyr a phrentisiaid wedi elwa ar brosiectau’r Coleg. Eleni hefyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, lansiwyd Partneriaeth Strategol newydd rhwng y Coleg a Cymwysterau Cymru i gynyddu argaeledd cymwysterau galwedigaethol yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid. 

Nod y Coleg yw sicrhau bod pawb, pa faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw, yn gallu astudio elfen o’u cwrs addysg bellach neu brentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ifan Phillips

Fel llysgennad y Coleg, mae Ifan wedi bod yn annog pobl eraill i astudio prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, a llynedd yng ngwobrau blynyddol y Coleg, enillodd Ifan Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury am ei waith. Dywedodd: 

"Rwy’n angerddol iawn dros addysg cyfrwng Cymraeg i bawb – beth bynnag yw eich cefndir neu lefel yn y Gymraeg. Mae astudio rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy ngalluogi i astudio yn fy mamiaith, iaith rwy'n fwy cyfforddus yn ei siarad, ac rwyf hefyd wedi gwella fy Nghymraeg ac mae hyn wedi fy helpu i gyfathrebu â chwsmeriaid ar lefel broffesiynol. P'un a ydych chi'n astudio ar gyfer PhD yn y brifysgol neu brentisiaeth i fod yn drydanwr fel fi, dylai bod hawl gennym ni i gyd i astudio a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Am fwy o wybodaeth am brentisiaethau dwyieithog, cliciwch yma.