Skip to main content Skip to footer
3 Awst 2022

Kizzy Crawford a myfyrwyr yn dod ynghyd i roi perfformiad ecscliwsif o gân wreiddiol i ddathlu deng-mlwyddiant y Coleg Cymraeg

ADD ALT HERE

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, bydd y gantores enwog jazz-pop, Kizzy Crawford, yn ymuno â chriw o lysgenhadon talentog y Coleg Cymraeg i roi perfformiad ecscliwsif o gân wreiddiol, ‘10’, gafodd ei gyfansoddi a’i ysgrifennu ar y cyd i ddathlu carreg filltir y Coleg wrth iddo droi’n 10 oed.

 

Yn ystod blwyddyn brysur a chyffrous yn dathlu degawd y Coleg Cymraeg, bydd y dathliadau yn parhau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, ac un o’r uchafbwyntiau bydd perfformiad arbennig gan Kizzy a’r llysgenhadon ar brynhawn dydd Mercher, 3 Awst am 16:00 ar stondin y Coleg Cymraeg (M01).

I nodi’r deng mlwyddiant, comisiynwyd Kizzy a chriw o lysgenhadon talentog i gyfansoddi ac ysgrifennu can arbennig, ‘10’, a fideo cerddorol i gyd-fynd. Cyfansoddwyd ac ysgrifennwyd y geiriau gan gyn-lysgennad israddedig ac ôl-raddedig o Brifysgol Abertawe, Alpha Evans. Mae Elen Jones, llysgennad o Brifysgol Abertawe yn cyfrannu’n lleisiol, a Tesni Hughes, llysgennad o Ysgol David Hughes, Ynys Môn, yn cyfrannu’n lleisiol ac offerynnol. Celyn Jones-Hughes, llysgennad meddygaeth o Brifysgol Caerdydd sydd yn gyfrifol am y ddawns greadigol.

Meddai Alpha Evans sydd yn astudio doethuriaeth yn y Gymraeg, ac yn cyfansoddi cerddi yn ei hamser hamdden: “Dwi wrth fy modd a cherddoriaeth Kizzy, felly roedd bod yn rhan o’r prosiect yma drwy’r Coleg Cymraeg, a chael y cyfle bythgofiadwy o gyd-gyfansoddi cân gyda rhywun mor enwog a thalentog a Kizzy yn brofiad anhygoel!”

Dechreuodd Alpha ysgrifennu cerddi ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020 pan roedd hi’n astudio modiwlau Cymraeg creadigol yn y brifysgol. Mae hefyd wedi bod yn lysgennad gweithgar i’r Coleg ers y cyfnod hynny, a phan gododd y cyfle arbennig i nodi carreg filltir bwysig y Coleg mewn ffordd greadigol, roedd Alpha wrth ei bodd i gymryd rhan:

“Fe wnes i ddechrau’r broses drwy ysgrifennu rhestr o holl gyflawniadau’r Coleg dros y degawd, ac yna sylweddoli byddai’r geiriau yma yn gweithio’n dda ar ffurf rap er mwyn adlewyrchu’r stori mewn ffordd bwerus. Anfonais i fy syniadau at Kizzy ac ymatebodd yn bositif a dechrau creu cerddoriaeth yn ei harddull adnabyddus i gyd fynd. Pan glywais i’r gân orffenedig, roeddwn i mor gyffrous ac yn hollol starstruck i glywed Kizzy yn canu fy ngeiriau i!”

Fel wyneb a llais newydd i’r sîn gerddorol Gymraeg mae’n hynod o gyffrous bod Tesni Hughes, llysgennad ysgol sydd ym mlwyddyn 13 yn Ysgol David Hughes, Ynys Môn hefyd yn cymryd rhan. Nid yn unig fydd hi’n perfformio ym Maes B eleni, mae hi hefyd wedi cyfrannu’n lleisiol ac yn offerynnol i’r gân ‘10’ ac mae’n edrych ymlaen at gyd-berfformio gydag un o’i arwyr cerddorol:

Meddai:“Mae Kizzy yn sicr wedi bod yn ddylanwad ac yn ysbrydoliaeth fawr i mi yn fy ngherddoriaeth fel cerddor ifanc Cymraeg, a dwi methu credu y byddaf yn cael y cyfle i rannu llwyfan gyda hi ar stondin y Coleg Cymraeg i berfformio ein cân arbennig. Mae hefyd yn anrhydedd i fod yn rhan o garreg filltir fawr y Coleg, a dwi mor ddiolchgar am y cyfle. Bydd yn foment fawr i mi.”

Yn wreiddiol daeth Kizzy i Gymru o Rydychen yn dair oed a chael ei thrwytho yn yr iaith Gymraeg yn Ysgol Gynradd Aberaeron yng Ngheredigion. Yn ddiweddarach symudodd i Ferthyr a mynychu Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr. Yn 26 oed, mae Kizzy wedi cyflawni llawer: enillodd gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2013, ac ers hynny mae’n berfformiwr cyson ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, a BBC Radio 4. Yn ogystal mae wedi cyd-berfformio gyda’r Manic Street Preachers, a pherfformio ar lwyfan yn Glastonbury.

Meddai Kizzy,“Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o’r prosiect yma i ddathlu pen-blwydd y Coleg Cymraeg yn 10 oed. Mae addysg Gymraeg mor bwysig i mi yn bersonol ac felly mae’n fraint cael y cyfle i gyfansoddi a chyfleu’r neges yma mewn darn cerddorol gwreiddiol gyda myfyrwyr talentog.

“Yn dilyn wythnosau prysur o gydweithio, rwy’n edrych ymlaen at gyd-berfformio’r gân yn fyw am y tro cyntaf ar stondin y Coleg ar faes yr Eisteddfod, a bydd croeso cynnes i bawb ddod draw.”

I gyd-fynd â’r gerddoriaeth, mae Cymru yn gefndir gweledol mewn fideo cerddorol arbennig sydd wedi ei gynhyrchu a’i ffilmio ar y cyd gan Kizzy a’r llysgenhadon mewn ardaloedd gwahanol ar draws Gymru.

Gwyliwch clip o’r gân yma a bydd y fideo gyfan ar gyfryngau cymdeithasol a thudalen YouTube y Coleg yn fuan.

Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un pwysig a phrysur i’r Coleg wrth inni ddathlu’r garreg filltir o droi’n ddeg oed. Rydym yn hynod o falch i fod yn dychwelyd i faes y Brifwyl eleni er mwyn parhau i ddathlu gyda chi i gyd. Un o’n digwyddiadau mwyaf cyffrous yw'r perfformiad ecscliwsif am hanes degawd cyntaf y Coleg. Mae’n fraint i gael cyfraniad un o  gerddorion mwyaf poblogaidd Cymru, Kizzy Crawford, a chriw o lysgenhadon talentog mewn cân arbennig. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i fyfyrwyr a cherddorion, felly mae’n braf cael dathlu fel hyn, a chreu atgofion.”

Bydd perfformiad Kizzy Crawford a’r llysgenhadon yn digwydd ar brynhawn dydd Mercher, 3 Awst, 16:00 ar stondin y Coleg Cymraeg (M01)

Mae’r rhaglen gyfan o ddigwyddiadau'r Coleg yn ystod yr wythnos i’w gweld yma