Skip to main content Skip to footer
25 Gorffennaf 2023

Lansio adnodd VR newydd cyntaf o'i fath ar ddiogelwch fferm

ADD ALT HERE

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio ap diogelwch fferm dwyieithog, arloesol newydd sy’n harnesu pŵer VR a realiti estynedig i adnabod peryglon posib ac i leihau y risgiau sy’n gysylltiedig â ffermio.

Crewyd yr ap rhyngweithiol, 'Fferm Ddiogel' i addysgu ffermwyr y dyfodol ar sut i leihau damweiniau ac i wella diogelwch ar y fferm. Mae’n cludo defnyddwyr i amgylcheddau fferm realistig ar gyfer dysgu a hyfforddiant.

Wedi ei ddylunio i gefnogi darlithwyr ac aseswyr i addysgu mewn modd ymarferol , mae’r ap yn defnyddio senarios deinamig sy’n amlygu peryglon a sut i liniaru risg pan yn gweithio gydag anifeiliad, yn gyrru cerbydau, ac yn cyflawni tasgau ar y fferm.

Nododd ymchwil o’r sector gan y Coleg, yr angen am ap dwyieithog, hygyrch i addysgu dysgwyr, prentisiaid a sefydliadau am Iechyd a Diogelwch ar y fferm, fel rhan hanfodol o gymwysterau amaeth ac astudiaethau ar y tir o Lefelau 1 i 4.

Dywedodd Lisa O’Connor, Rheolwr Academaidd Addysg Bellach yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Rydym yn hynod falch o fod yn lansio’r adnodd arloesol hwn fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch fferm. Mae addysg yn allweddol i newid, ac mae cael adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog yn y sector yn hollbwysig i baratoi dysgwyr at y byd gwaith. Edrychwn ymlaen i lansio’r adnodd ac i’w rannu gyda cholegau sy’n darparu cyrsiau amaethyddiaeth a rheoli anifeiliaid ledled Cymru.”

Rhys Lewis

'Mae angen creu newid drwy addysg'

Mae Rhys Lewis o Fachynlleth, sy’n gyn-gyflwynydd ar y raglen Cefn Gwlad, S4C, ac sy’n defnyddio cadair olwyn wedi torri ei gefn mewn damwain fferm, yn gefnogol iawn i’r ap newydd. Meddai:

“Mae’r adnodd newydd yma yn arloesol ac rwy’n ei groesawu’n fawr,” meddai. “Rydym yn clywed yn rhy aml am ddamweiniau yn digwydd ar y fferm ac mae’n rhaid i hyn newid, drwy addysg, er mwyn sicrhau diogelwch ein ffermwyr.

 

“Mae’r dechnoleg ddiweddaraf VR yn arbennig, a theimlaf ei fod yn ffordd effeithiol iawn i addysgu’r genhedlaeth newydd o ffermwyr i adnabod peryglon posib ar y fferm a sut i’w hosgoi.”

Croesawyd yr ap newydd yn frwd gan Mark Needham a Sara Roberts, darlithwyr mewn amaethyddiaeth yng Nghampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr.

“Mae’r adnodd hwn yn berffaith ar gyfer pawb sy’n astudio neu’n gweithio mewn amaethyddiaeth, beth bynnag yw eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg,” meddai Mark.  “Mae’n ffantastig bod adnodd VR arloesol ar ddiogelwch fferm yn bodoli ac rydym yn hynod ffodus i allu dod â’r dechnoleg ddiweddaraf i’r dosbarth.”

Ychwanegodd Sara: “Mae’r adnodd yma yn berffaith i addysgu elfennau ymarferol o’r cwricwlwm. Mae dysgu am ddiogelwch ar y fferm yn hanfodol bwysig. Mae’n galluogi dysgwyr i nodi peryglon, deall y risgiau a sut i’w hosgoi mewn ffordd effeithiol a ‘real’ ond mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Rwy’n siŵr fydd yr adnodd yn boblogaidd iawn gyda’r dysgwyr.”

Cwmni Galactig, asiantaeth greadigol digidol dwyieithog wedi’i leoli ger Caernarfon sy’n gyfrifol am ddatblygu’r ap ar ran y Coleg Cymraeg.

Mae Derick Murdoch, o gwmni Galactig, yn gyffrous am effaith posib yr ap newydd. “Mae Fferm Ddiogel yn cludo defnyddwyr i amgylcheddau fferm realisting, gan harnesu pŵer VR a realiti estynedig i ddarparu platfform ar gyfer dysgu a hyfforddi sy’n rhagori ar ddulliau confensiynol,” meddai. 

“Trwy drochi defnyddwyr mewn profiadau ymgysylltiol a senarios deinamig, rydym yn grymuso unigolion i ddatblygu sgiliau diogelwch hanfodol ac i gynyddu eu hymwybyddiaeth, gan arwain at ostyngiad mewn damweiniau a gwell diogelwch fferm yn gyffredinol.

“Mae Fferm Ddiogel yn integreiddio’r iaith Gymraeg fel ei brif ddull cyfathrebu. Ac, ymhellach, er mwyn sicrhau cynhwysiant ar gyfer dysgwyr Cymraeg, mae’r ap yn darparu cefnogaeth yn y Saesneg, gan alluogi dysgwyr ar wahanol lefelau hyfedredd iaith i ymgysylltu’n llawn gyda’r cynnwys ac i gael gwerth ystyrlon.

“Trwy gyfuno technoleg, iaith ac addysg, anelwn i ysbrydoli newid cadarnhaol o fewn y gymuned ffermio, gan feithrin amgylcheddau diogelach i bawb.”

 

Bydd lansiad yr ap newydd ar stondin Coleg Sir Gâr yn Sioe Frenhinol Cymru ar 26 Gorffennaf am 11yb.