Skip to main content Skip to footer
31 Mawrth 2022

Lansio adnoddau digidol Cymraeg i fyfyrwyr

ADD ALT HERE

Mae prosiect arloesol dan arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dod â phrifysgolion ar draws Cymru ynghyd i greu dros 130 o unedau dysgu digidol newydd sbon i gefnogi myfyrwyr ledled Cymru sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae’r prosiect wedi creu adnoddau arbenigol ac unigryw ar gyfer dysgu nifer o bynciau poblogaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, o Wyddorau Chwaraeon i Wyddorau Cymdeithas. Mae’r adnoddau yn darparu pecynnau dysgu anghydamserol, gan gynnwys darlithoedd fideo, pecynnau darllen a chynnwys rhyngweithiol o’r safon uchaf i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i’w defnyddio, lle bynnag yng Nghymru y maent yn astudio. 

Cydweithiodd y Coleg â Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru i gyflwyno cais cydweithredol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) am £2,730,000, i ddiogelu’r ddarpariaeth ddigidol gyfredol. Fel rhan o’r cais roedd y Coleg wedi adnabod yr angen am adnoddau digidol Cymraeg i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac ym mis Rhagfyr 2020 clustnodwyd £420,000 i ddatblygu’r prosiect adnoddau dan arweiniad y Coleg.

Yn ôl Dr Cynog Prys sy’n ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac yn rhan o’r tim cenedlaethol a oedd yn arwain y prosiect,  

“Mae’r pecynnau newydd wedi cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr, a hefyd yn cynyddu’r stôr o ddeunyddiau addysgu Cymraeg sydd ar gael i ddarlithwyr eu defnyddio.

“Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu pa mor bwysig yw cael adnoddau digidol wrth ddysgu ac addysgu, yn enwedig wrth i ni gyd orfod symud i ddysgu ac addysgu o gartref. Mae gan yr adnoddau ddefnydd gwirioneddol y tu hwnt i ddiwedd y pandemig Covid-19, wrth i ni ddatblygu modelau dysgu ac addysgu newydd i’r gymuned academaidd yng Nghymru.” 

Ar ôl ymgynghori â’r prifysgolion, penderfynwyd ar chwe phwnc blaenoriaeth, sef: Astudiaethau Busnes; Seicoleg; Gwyddorau Cymdeithas; y Gyfraith; Gwyddorau Chwaraeon; a Gwaith Cymdeithasol. Mae’r pecynnau hefyd yn darparu cyfleoedd i academyddion o brifysgolion Cymru i gydweithio ar greu cynnwys a all gael ei ddefnyddio ar draws y sefydliadau hynny, hyd yn oed ar ôl dychwelyd i’r ystafelloedd dosbarth. 

Mae Dione Leigh Rose sy’n fyfyrwraig doethur yn y maes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi datblygu uned newydd i’r pwnc Iechyd a Lles mewn ymateb i ddiwygiad ym mholisïau addysg Cymru ynghylch iechyd a lles i blant a phobl ifanc. 

“Mae wedi bod yn braf cael y cyfle i gydweithio â phrifysgolion ar draws Cymru i ddatblygu cynnwys newydd a chyfredol ar ffurf adnodd digidol sy’n ein galluogi ni i ryngweithio yn fwy gyda myfyrwyr yn yr iaith Gymraeg.’’  

Yn ddiweddar iawn mae Dr Siôn Llewelyn Jones sy’n ddarlithydd mewn Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyflwyno modiwl newydd sbon sy’n seiliedig ar rai o’r deunyddiau digidol, Astudio Cymru Gyfoes.

Dywedodd Siôn:  

“Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar gymdeithas yng Nghymru ac yn edrych ar sut mae cymdeithas Cymru yn wahanol ac yn debyg i gymdeithasau eraill yn y byd. Mae'r myfyrwyr yn cael y cyfle i archwilio gwahanol nodweddion o gymdeithas yng Nghymru gan gynnwys rhywedd, dosbarth cymdeithasol a hunaniaeth genedlaethol. Mae’r deunyddiau dysgu digidol wedi galluogi ni i gynyddu'r hyn rydyn ni'n ei gynnig yn Gymraeg a chyfoethogi profiadau myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. Dyma un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous yr Ysgol – ein bod ni'n gallu cynnig modiwl gyfan gwbl yn y Gymraeg.” 

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:  

Yn dilyn cyhoeddi’r cyfnod clo yn mis Mawrth 2020 aeth y Coleg ati i ymgynghori gyda phrifysgolion i ddeall pa gefnogaeth oedd ei hangen arnynt er mwyn parhau i gynnig darpariaeth Cymraeg ar-lein o safon, ac mae’r prosiect hwn yn ben llanw i’r gwaith hwnnw. Ryn ni’n ddiolchgar iawn i’r Athro Claire Taylor o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, am arwain ar y cais cyllido ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru ac wrth gwrs i’r CCAUC am gytuno bod y cais yn un oedd yn deilwng o gefnogaeth ariannol.  

 “O ganlyniad i’r prosiect bydd myfyrwyr Cymraeg o hyn allan yn gallu manteisio ar arbenigeddau staff academaidd o brifysgolion ledled Cymru; yn gallu manteisio ar sesiynau anghydamserol Cymraeg sydd wedi’u creu gan staff o brifysgolion eraill, yn ogystal â manteisio ar drafodaeth a mewnbwn rhagor o fyfyrwyr. Bydd hyn o gymorth yn arbennig i fyfyrwyr mewn adrannau lle y mae’r niferoedd sy’n dilyn modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol fach. Ryn ni hefyd yn obeithiol y bydd y prosiect yn arwain at fyfyrwyr yn cael cyfle na fyddai’n bodoli fel arall i astudio rhan o fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, ac o bosib, i astudio modiwl cyfan a ellid ei greu a’i gyflwyno am y tro cyntaf drwy’r prosiect hwn.” 

Penodwyd dau Dechnolegydd E-ddysgu, Bethan Wyn Jones a Siân Edwardson-Williams a gafodd eu secondio o Uned Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth Prifysgol Bangor. 

Ychwanegodd Dr Matthews:  

“Mae Bethan a Siân wedi darparu arweiniad technegol arbenigol a hyfforddiant i'r chwe thîm prosiect sydd wedi creu'r deunyddiau, ac wedi cefnogi’r staff academaidd i greu, pecynnu a llwyfannu’r adnoddau.”  

Mae’r adnoddau ar gyfer myfyrwyr israddedig yn bennaf, ond hefyd myfyrwyr Safon Uwch. Yn ogystal bydd staff academaidd yn defnyddio’r adnoddau i addysgu. Gellid dod o hyd i’r holl adnoddau newydd drwy’r Porth Adnoddau a bydd holl allbynnau'r prosiect wedi'u cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.