Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 16 o lysgenhadon prentisiaethau newydd ledled Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025.
Cafodd cynllun llysgenhadon prentisiaethau’r Coleg ei sefydlu yn 2020 er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n gwneud prentisiaeth hyrwyddo pwysigrwydd dwyieithrwydd yn y gweithle ac annog eraill i ddilyn prentisiaeth yn ddwyieithog.
Un o’r llysgenhadon sy’n falch iawn o gael dilyn ei brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ydy Thomas Lindsey-Jones, sy’n 16 oed ac yn dod o Lanfair Caereinion.
Mae Thomas yn brentis mecanydd loris a cherbydau trwm gyda chwmni Wynnstay yn eu pencadlys yn Llansanffraid. Dywedodd Thomas,
“Pan glywodd cwmni Wynnstay mod i yn un o lysgenhadon y Coleg Cymraeg, mi oedden nhw yn falch iawn. Mae’r iaith yn bwysig iddyn nhw ac mi oedd y ffaith mod I'n siarad Cymraeg yn sicr o fantais pan oeddwn i’n gwneud cais am y brentisiaeth. Mae cyd-weithwyr, a finnau, yn gwerthfawrogi cael siarad a rhoi gwasanaeth Cymraeg.
“Dw i hefyd yn falch iawn mod ’ yn cael gwneud y gwaith cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg gan bod fy holl addysg wedi bod yn Gymraeg hyd yn hyn, a mi fyddwn i wedi gweld hi’n anodd iawn i wneud gwaith cwrs yn Saesneg.”

Un arall o lysgenhadon y Coleg yw Lara Condy o’r Barri, sy’n brentis gyda chwmni Deloitte yng Nghaerdydd.
Cychwynnodd Lara gwrs gradd yn y brifysgol, ond sylweddolodd yn eithaf buan mai nid dyna’r llwybr gorau ar ei chyfer hi. Meddai Lara,
“Yn y chweched dosbarth, mae’n hawdd iawn cael dy ddylanwadu gan dy ffrindiau, a dilyn y dorf i’r brifysgol. Ond mae’n bwysig iawn fod pobl ifanc yn dilyn eu greddf, ac os nad ydy prifysgol yn teimlo’n iawn iddyn nhw, mi fyddwn I'n eu hannog i edrych pa opsiynau eraill sydd allan yna.
“Nes i gychwyn cwrs yn y brifysgol, ond doedd hynny ddim yn gweddu fy ffordd i o ddysgu – ro’n i angen dysgu wrth wneud.
“Felly nes i chwilio am ffordd arall a llwyddo i gael prentisiaeth gyda chwmni rhyngwladol Deloitte. Mae gwneud elfennau o’r brentisiaeth yn Gymraeg yn golygu mod i yn dal i ddefnyddio’r iaith ar ôl gadael yr ysgol.”

Prentis yn adran gyfrifeg Cyngor Gwynedd ydy Enlli Jones, sy’n 21 oed ac yn wreiddiol o Lanrug. Mae Enlli yn gweld hi’n fantais fawr cael trafod gwaith yn y Gymraeg, ac yn teimlo ei fod yn gwneud y profiad o ddysgu lawer mwy cartrefol iddi.
“Gan mai Cymraeg ydy fy iaith gyntaf, a bod fy holl addysg wedi bod trwy gyfrwng y Gymraeg, mi oedd hi’n bwysig i mi ddod o hyd i weithle oedd yn cynnig prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fyddai wedi bod yn annaturiol i mi wneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Saesneg.
“Mae’n grêt yng Nghyngor Gwynedd gan fod pawb yn siarad Cymraeg.
“Wrth wneud prentisiaeth, dw i’n gallu gweld pam mod i’n dysgu pethau yn y coleg ac yn gallu rhoi enghreifftiau o’r byd gwaith go iawn mewn arholiadau. Dwi’n deall cwestiynau yn well o fod yn gwneud y gwaith o ddydd-i-ddydd, ac yn gwybod pam bod nhw’n eu gofyn.”
Mae nifer y prentisiaid sy’n gwneud gweithgaredd yn ddwyieithog wedi mwy na dyblu ers i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddechrau gweithio yn y sector, gan gynyddu o 10% yn 2016 i 25.3% yn 2022.
Mae’r Coleg wedi cefnogi nifer o brosiectau strategol gyda 51 grant yn cael eu dyfarnu i golegau ac 11 grant i ddarparwyr prentisiaethau yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/2023.
Yn ogystal â’r grantiau sydd wedi galluogi colegau a darparwyr prentisiaethau i gyflogi staff cyfrwng Cymraeg, mae’r Coleg wedi datblygu nifer o adnoddau dysgu gan gynnwys adnodd V.R Fferm Diogel ac adnodd rhyngweithiol Prentisiaith i wella dealltwriaeth prentisiaid o ddwyieithrwydd.
Dilynwch cyfrifon cymdeithasol y Coleg Cymraeg ar Instagram, Tik Tok, Facebook, Linked In a Bluesky i ddarllen am y llysgenhadon prentisiaethau newydd. Am fwy o wybodaeth am fanteision y Gymraeg yn y byd gwaith, ewch i colegcymraeg.ac.uk.