Skip to main content Skip to footer
18 Hydref 2024

Lois Jones o Finffordd yn ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd

ADD ALT HERE

Lois Jones, 18 oed o Finffordd ger Porthmadog, sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni gwerth £3,000.

Mae Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd yn cael ei rhoi yn flynyddol i gefnogi myfyriwr sy’n byw yng Ngwynedd ac sy’n dewis astudio 100% o’u cwrs gradd yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Lois, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy yn Harlech cyn mynd ymlaen i dderbyn ei lefel A mewn Cymraeg, Busnes a Seicoleg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Meddai:

“’Fi yw’r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol felly mae derbyn yr ysgoloriaeth yma yn golygu llawer i mi ac i fy nheulu.

“Hoffwn ddilyn gyrfa fel athrawes ar ôl cael fy ysbrydoli gan fy athrawon brwdfrydig yn yr ysgol a’r coleg.

“Mae gan athrawon swydd bwysig i fod yn fodel rôl i ysbrydoli ac i roi arweiniad i bobl ifanc. Gobeithio ryw ddydd gallaf i ysbrydoli pobl ifanc eraill.”

 

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).

 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Lois ar ennill yr ysgoloriaeth eleni a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd.”

 

Dywedodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg Cyngor Gwynedd:

 “Llongyfarchiadau i Lois am sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dymuniadau gorau iddi ar ei hastudiaethau pellach a’i gyrfa i’r dyfodol.

“Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gefnogi myfyrwyr o’r sir sy’n astudio a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolchwn i’r Coleg Cymraeg am eu gwaith pwysig yn y maes ac rydym yn falch o fedru cydweithio a hwy i hyrwyddo’r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.”

 

Ewch i wefan y Coleg am wybodaeth bellach ar sut i ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd 2025. Gellir defnyddio Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg er mwyn gwirio pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth.