Skip to main content Skip to footer
25 Hydref 2022

Mae bod yn llysgennad ysgol y coleg Cymraeg wedi agor drysau!

ADD ALT HERE

Heddiw mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyhoeddi enwau 21 o lysgenhadon newydd o ysgolion uwchradd a choleg chweched dosbarth ar draws Cymru. Eleni gwelwyd y nifer fwyaf erioed o ysgolion yn ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun ers iddo ddechrau yn 2020.

Ers lansio’r cynllun, mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi dros 50 o lysgenhadon ysgol i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion ymhlith eu cyd-ddisgyblion, ac mae effaith hynny wedi bod yn gadarnhaol mewn sawl ffordd. 

Mae’r Coleg wedi elwa ar waith y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth a denu pobl ifanc i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i’r llysgenhadon eu hunain.

Yn ôl Tesni Hughes, a oedd yn lysgennad blwyddyn 13 yn Ysgol David Hughes, Sir Fôn y llynedd, mae’r profiad wedi agor drysau iddi. Meddai Tesni:  “Yn ogystal â datblygu fy sgiliau creadigol yn creu fideos a blogiau yn hyrwyddo’r Coleg Cymraeg, fe ges i’r cyfle i wneud Instagram byw o fy ngig. Roedd hyn yn brofiad hollol newydd a chyffrous i mi. Ers hyn rwy’n teimlo yn fwy hyderus wrth berfformio a dwi wedi gallu hyrwyddo fy ngherddoriaeth ar blatfform eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Dwi hefyd wedi perfformio’n fyw ar stondin y Coleg Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion. Mae bod yn llysgennad wedi rhoi cyfloedd anhygoel i mi.” 

Yn ogystal, cafodd Tesni a chriw o lysgenhadon israddedig ac ôl-raddedig gyfle i gydweithio gyda’r gantores adnabyddus, Kizzy Crawford, i gyfansoddi a pherfformio can wreiddiol, ‘10’ i nodi deng mlwyddiant y Coleg Cymraeg a gafodd ei pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion 2022. Cafodd y geiriau eu hysgrifennu gan Alpha Evans, llysgennad o Brifysgol Abertawe a chyfrannodd Tesni ei llais. Ychwanegodd Tesni bod y cyfle i gydweithio gyda Kizzy yn brofiad “bythgofiadwy”. 

Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, bydd y 21 o lysgenhadon ysgol newydd yn dechrau ar eu gwaith y mis yma a’u prif rôl fydd codi ymwybyddiaeth o fanteision addysg cyfrwng Cymraeg tu hwnt i’r ysgol, ac am bwysigrwydd defnyddio’r iaith yn gyffredinol ymhlith bobl ifanc 

Am y tro cyntaf eleni ymgeisiodd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed i gymryd rhan yn y Cynllun Llysgenhadon, sef yr ysgol cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghasnewydd a agorodd ei drysau yn ddiweddar. Mae Efa Maher ym mlwyddyn 13 ac fel llysgennad mae hi’n gobeithio rhoi Casnewydd ar y map ac annog mwy o bobl o’i hardal i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol neu’r coleg. 

Meddai Efa: “Fel llysgennad byddaf yn gwneud fy ngorau glas i fod yn fodel rôl i adlewyrchu fod unrhyw beth yn bosib trwy gyfrwng y Gymraeg. Blwyddyn nesa dwi’n bwriadu astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg a dwi’n  hapus y byddaf yn medru parhau i feithrin fy sgiliau Cymraeg yn y brifysgol ac yna defnyddio fy sgiliau dwyieithog yn y gweithle yn y dyfodol. Hefyd fel disgybl yn ysgol uwchradd Cymraeg gyntaf Casnewydd, rwy’n awyddus i adlewyrchu bod diwylliant, hanes a Chymreictod yn bwysig i ni a dwi’n edrych ymlaen at annog pobl ifanc yn yr ardal i barhau â’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl iddyn nhw adael yr ysgol.” 

Fel rhywun a fagwyd ar aelwyd ddi-gymraeg, mae Aneirin Thomas sy’n astudio Technoleg Cerdd yng Ngholeg Catholig Dewi Sant yn edrych ymlaen at ddefnyddio ei greadigrwydd ac i ehangu ei brofiadau wrth fod yn llysgennad newydd y Coleg: “Mae’r rôl yn berffaith i mi oherwydd byddaf yn medru lledaenu ymwybyddiaeth am gyfleoedd addysgiadol Cymraeg gan ddefnyddio fy sgiliau creadigol, technolegol a cherddorol. Edrychaf ymlaen at ddechrau ar fy nhaith fel llysgennad y Coleg Cymraeg.” 

 Mae Sophia Haden sy’n lysgennad o Ysgol Gyfun Gwyr, yn teimlo bod y cyfleoedd y mae’r Coleg Cymraeg yn eu cynnig yn werthfawr iawn i bobl ifanc. Meddai Sophia, sy’n cael gwersi hedfan awyren tu allan i’r ysgol er mwyn bod yn beilot yn y dyfodol:  “Nid yn aml mae cyfle yn codi i fod yn lysgennad dros achos sydd mor bwysig i mi yn bersonol. Dwi mor gyffrous i ddechrau’r gwaith o hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a chael profiadau a meithrin sgiliau newydd.” 

Bydd y Coleg yn cyd-weithio gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Coleg Catholig Dewi Sant, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Gyfun Llanhari, Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Preseli, Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Gyfun Gwyr, Ysgol Calon Cymru, Ysgol Godre’r Berwyn, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen ac Ysgol y Creuddyn. 

Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:  “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r criw o lysgenhadon. Mae’n nhw mor frwdfrydig am y Gymraeg a trwyddyn nhw byddwn yn gallu  ysbrydoli eu cyfoedion yn yr ysgol i barhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ryn ni’n gyffrous iawn yn arbennig i gydweithio gyda’r ysgolion sydd wedi ymgeisio am y tro cyntaf eleni ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein perthynas. Mae’r cynllun Llysgenhadon Ysgol yn ffordd gwerthfawr o ddod i adnabod disgyblion ledled Cymru yn ogystal â rhoi profiadau a sgiliau gwerthfawr iddyn nhw.” 

Dyma lysgenhadon ysgol 2022-23:

  • Elen Morlais Williams Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
  • Hannah Williams Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
  • Aneurin John Eddison Thomas Coleg Gatholig Dewi Sant
  • Katrin Rosina Dean Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
  • Magdalena Lacey-Hughes Ysgol Uwchradd Caerdydd
  • Cerys Hulse Ysgol Gyfun Llanhari
  • Arianwen Thomas Ysgol Gyfun Llanhari
  • Efa Maher Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
  • Martha Haf Thomas Ysgol Bro Pedr
  • Ifan Meredith Ysgol Bro Pedr
  • Fflur Haf James Ysgol Bro Preseli
  • Manon John Ysgol Bro Preseli
  • Swyn Elfair Dafydd Ysgol Gyfun Aberaeron
  • Sophia Haden Ysgol Gyfun Gwyr
  • Alice Mai Jewell Ysgol Gyfun Gŵyr
  • Carwyn Hardiman Ysgol Calon Cymru
  • Elain Rhys Ysgol Godre’r Berwyn
  • Enlli Llwyd Davies Ysgol Godre’r Berwyn
  • Sara Mai Roberts Ysgol Gyfun Llangefni
  • Cerys Elen Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen
  • Elliw Fflur Newsham Ysgol y Creuddyn

 

I wybod mwy amdanyn nhw ac i ddilyn y cynllun drwy'r flwyddyn dilynwch ni ar ein gwefannau cymdeithasol:

Instagram: @dyddyfodoldi, Trydar a Facebook: @colegcymraeg #llysgenhadonysgol23