Skip to main content Skip to footer
6 Awst 2024

“Mae gennym ni gyd yr hawl i siarad Cymraeg o’r crud i’r bedd.”

ADD ALT HERE

Ar ddydd Mawrth, 6 Awst, sef “Ddiwrnod Gofal” yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod at ei gilydd ar y maes i drafod y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am waith y ddau sefydliad i ddatyblgu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector a datblygu gweithluoedd dwyieithog er mwyn rhoi’r gofal gorau i bobl Cymru o’r crud i’r bedd.

Fel rhan o’r digwyddiad bydd cyfle i glywed profiadau go iawn gan weithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth am bwysigrwydd y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal, o ofal plant a bydwreigiaeth, i ofal lliniarol.

 

Ar y panel bydd Mari Emlyn yn rhannu ei atgofion anodd, a’i gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth Cymraeg amhrisiadwy dderbyniodd ei diweddar dad pan oedd yn dioddef o gyflwr difrifol a oedd wedi effeithio ar ei system nerfol. Meddai:

“Pan ryda chi’n siarad yn eich mamiaith, ryda chi’n meddwl ac yn siarad yn yr un iaith, ond munud ‘da chi’n gorfod siarad gyda riwyn sydd ddim yn medru’r iaith yna ‘da chi’n meddwl yn Gymraeg yn eich pen, yna cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg yn eich pen, cyn ymateb.

"Mae’r broses hono yn anodd i berson sydd yn holliach heb sôn am riwyn sydd mewn gwaeledd.”

“Mi roedda ni’n hynod ffodus fod ein meddyg teulu oedd yn dod i weld Dad yn wythnosol, oedd yn egluro’r broses diwedd bywyd iddo fo, WEDI dysgu’r iaith, ac er nad oedd yn gwbwl rhugl, roedd yn gallu cynnal sgwrs oedd yn gwneud i Dad ymlacio ac yna byddai’n troi i’r Saesneg i egluro’r broses. 

"Allai ddim deud wrtha chi pa mor amrhisiadwy oedd hyn i Dad ac i nina.”

 

Ychwanegodd,

“Mae angen sensitifrwydd a dealltwriaeth o amgylch yr iaith yn y sector. Mae hyd yn oed ambell air yn y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth amhrisiadwy i’r unigolyn. Mi fu Dad farw yn nwy fil ac 19 wedi blynyddoedd o frwydo, ond ‘da ni’n trysori’r ffaith ei fod wedi cael marw fel y Cymro y buodd erioed.”

 

Dywedodd Gwenllian Owen, Uwch Reolwr Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,

“Mae’n hanfodol bod darpariaeth a chefnogaeth addas ar gael ar lefel addysg bellach, prentisiaethau ac addysg uwch i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd a gofal i fod yn hyderus wrth ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle. Mae’r Coleg yn gweithio gyda darparwyr a phartneriaid ar draws y sector ôl-orfodol i gynllunio, sbarduno a datblygu’r cyfleoedd hyn ers dros 10 mlynedd a gwelwyd twf aruthrol yn y ddarpariaeth yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae’r Coleg yn annog pob dysgwr i astudio cyfran o’u cwrs yn Gymraeg yn y sectorau blaenoriaeth hyn ac wedi datblygu adnoddau i gefnogi’r dysgwyr a’r staff sy’n eu haddysgu gan gynnwys Prentis-Iaith ac adnodd Mwy Na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal

Mae gwaith y Coleg yn parhau, ac yn unol â Chynllun Mwy Na Geiriau Llywodraeth Cymru, mae  camau priodol y cael ei gymryd i sicrhau bod darpariaeth ddwyieithog yn cael ei chynnig ar bob cwrs iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd cenedlaethol ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar ac yn arwain ar reoleiddio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.

Dywedodd Sandie Grieve, Swyddog Arweiniol Datblygu a Chysylltu’r Sector i Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Ar ‘Ddiwrnod Gofal’ yn yr Eisteddfod eleni, rydyn ni’n edrych ymlaen at ein sesiwn drafod er mwyn sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r iaith, a’i phwysigrwydd i bobl sy’n derbyn gofal a chymorth.”

Bydd y digwyddiad, ‘Iechyd, gofal a’r Gymraeg’ yn cael ei gynnal ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod, dydd Mawrth, 6 Awst am 3pm.  Yn ymuno gyda Mari Emlyn, Gwenllian Owen, a Sandie Grieve yn y digwyddiad, bydd Myfanwy Harman, Rheolwr Cylch Meithrin Y Gurnos, Sharon Jones, Hwylusydd Clinigol mewn Bydwreigiaeth, ac eraill.