Mari Williams, 19 oed o Flaenau Ffestiniog sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000.
Mae Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies yn cael ei rhoi i unigolyn sy’n astudio o leiaf 66% o’i gwrs gradd ym maes y Gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n dod o ardaloedd Meirionydd neu Rondda Cynon Taf.
Mae Mari, oedd yn ddisgybl yn Ysgol y Moelwyn cyn mynd ymlaen i dderbyn ei lefel A mewn Cymraeg, Busnes a Hanes yng Ngholeg Meirion Dwyfor, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai Mari:
“Cefais gymaint o sioc i glywed fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies eleni!
“Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg am yr arian y byddaf yn ei dderbyn bob blwyddyn o’m cwrs, ond yn fwy na hynny mae’n anrhydedd derbyn y gydnabyddiaeth yn enw Gwilym Prys Davies.
“Rwy’n mwynhau fy nghwrs ym Mhrifysgol Bangor ers i mi ymgartrefu yma. Rwy’n edrych ymlaen at barhau gyda fy astudiaethau ac yna rwy’n gobeithio magu profiadau a sgiliau tramor, cyn dod yn ôl i Gymru i weithio fel cyfreithwraig ddwyieithog yn y dyfodol.”
Sefydlwyd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies yn 2018 yn enw'r cyfreithiwr nodedig, yr Arglwydd Gwilym Prys Davies o Lanegryn, Meirionnydd. Mae’r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:
“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Mari ar ennill yr ysgoloriaeth eleni a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol wrth iddi astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Hoffwn fynegi ein gwerthfawrogiad hefyd i deulu Gwilym Prys Davies am eu cefnogaeth hael dros y blynyddoedd.”
Am wybodaeth bellach ac i ymgeisio am Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies ar gyfer 2025, ewch i wefan y Coleg.