Skip to main content Skip to footer
13 Gorffennaf 2022

Myfyrwyr a darlithwyr yn derbyn gwobrau gan rai o sêr amlycaf Cymru

ADD ALT HERE

Darlithwyr ar draws Cymru yn dod ynghyd mewn fideo i ddweud ‘DIOLCH’ i ddysgwyr a myfyrwyr yn dilyn dwy flynedd heriol.

 

Yn ystod blwyddyn o ddathliadau i nodi deng mlynedd ers sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, heno (nos Fercher 13 Gorffennaf) mae rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru o’r byd perfformio, teledu ac o’r byd academaidd, gan gynnwys Dafydd Iwan ac Angharad Mair, wedi cyflwyno gwobrau i’r myfyrwyr Cymraeg mwyaf disglair ac i ddarlithwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22.

Mewn dathliad arbennig yng Nghanolfan S4C, Yr Egin, roedd y Coleg yn falch o gyhoeddi enwau’r enillwyr ar draws pum categori o Wobrau Myfyrwyr eleni:

1.      Gwobr Goffa Dr John Davies am y traethawd estynedig gorau ym maes Hanes Cymru. Cyflwynwyd y wobr gan merch Dr John Davies, Anna Brychan, i’r enillydd, William Charles Lewis Roberts, Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor am ei draethawd hir, “Effaith Pandemig 1918 ar Gymunedau  Gogledd-orllewin a Gogledd-ddwyrain Cymru.”

2.    Gwobr Goffa Gwyn Thomas am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg. Cyflwynwyd y wobr gan aelod o’r panel dyfarnu, yr awdur a’r cyfieithydd, Dr Elin Meek, i’r enillydd, Catrin Eleri Huws, Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor am ei thraethawd ar “Y defnydd o adeiladau a nodweddion pensaernïol yng ngwaith Dafydd ap Gwilym ac Iolo Goch.” 

3.    Gwobr Norah Isaac ar gyfer y myfyriwr sy’n derbyn y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Enillydd y wobr eleni ydy Catrin Llwyd o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyflwynwyd y wobr gan y cynghorydd Peter Hughes-Griffiths oedd hefyd yn perthyn i Norah Isaac.

4. Mae’r Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth. Enillydd y wobr eleni ydy Ffion Llewellyn, Coleg Caerdydd a’r Fro am ei chyfraniad brwdfrydig fel llysgennad yn codi proffil y Gymraeg ar draws y coleg, ac yn cefnogi bobl i ddysgu Cymraeg mewn ffordd creadigol, dyfeisgar a hwyliog.

5. Mae Gwobr Meddygaeth William Salesbury yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth. Enillydd y wobr eleni ydy Dwynwen Spink, Yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

Cyflwynwyd y ddwy wobr William Salesbury gan un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Williams Salesbury, ac un o arwyr Cymru, Dafydd Iwan.

Mae pob enillydd wedi derbyn tlws a gwobr ariannol o £200 neu £500.

Yn ystod y seremoni dangoswyd fideo arbennig a grëwyd gan y Coleg mewn cydweithrediad â rhai o ddarlithwyr y prifysgolion a’r colegau i ddweud ‘DIOLCH’ i'r holl fyfyrwyr, dysgwyr a phrentisiaid am eu dyfalbarhad yn dilyn dwy flynedd heriol.

Yn addas iawn, roedd cyfle hefyd i wobrwyo darlithwyr mewn tri chategori gwahanol yng Ngwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg:

1.      Gwobr y Myfyrwyr, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau yn y brifysgol. Enillydd y wobr hon eleni ydy Dr Gethin Thomas, Uwch-ddarlithydd Biowyddorau, Prifysgol Abertawe am yr effaith gadarnhaol mae ei waith yn ei gael ar brofiad myfyrwyr yn yr adran yn ystod cyfnod heriol, ac roedd hyn yn glir iawn yn sylwadau’r myfyrwyr hynny. 

2.      Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol er mwyn cydnabod darlithydd neu ymarferydd sydd wedi arwain ar greu adnodd cyfrwng Cymraeg sydd o ansawdd uchel ac sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Enillydd y wobr hon eleni ydy Dr Llŷr Roberts, Uwch-ddarlithydd Busnes a Marchnata, Prifysgol De Cymru am ddatblygu'r e-Lyfr ‘Cyflwyniad i Farchnata’, sef y gwerslyfr Cymraeg cyntaf erioed ym maes marchnata. Cyflwynwyd y wobr gan cyflwynydd rhaglen Heno, S4C, a Chyfarwyddwr Gweithredol cwmni Tinopolis, Angharad Mair.

3. Dyfernir y Wobr Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg i unigolyn sydd yn haeddu cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol i addysg uwch tu hwnt i'w rôl broffesiynol. Enillydd y wobr hon eleni ydy Dr Gwenan Prysor, Uwch-ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor am arwain cwrs MA Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor sy’n cael ei ddarparu 100% drwy gyfrwng y Gymraeg, ac am ei gwaith yn cefnogi myfyrwyr a gweithwyr i ddysgu am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn gwaith cymdeithasol. Cyflwynwyd y wobr gan Sandie Grieve, o Gofal Cymdeithasol Cymru ac aelod o Banel Gwaith Cymdeithasol y Coleg.

Y newyddiadurwr Owain Evans, oedd yn arwain y noson o’r Egin, ac roedd cerddoriaeth byw gan y cyfansoddwr, Steffan Rhys Williams. Mae ganddo stiwdio gerddoriaeth yng nghanolfan yr Egin sy’n denu mawrion cerddorol y byd ac sydd wedi ei leoli’n addas ger Prifysgol y Drindod Dewi Sant i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o dalent creadigol.ê

Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews: “Mae’r enillwyr heno yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith academaidd o’r safon uchaf ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn y prifysgolion a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny godi proffil y Gymraeg yn y sefydliadau.

“Mae’n braf ein bod yn medru cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb eleni i ddathlu ymroddiad myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr. Nhw sydd wrth galon llwyddiant y Coleg dros y degawd ac rydym yn ymfalchïo heno yn eu llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Roedd y seremoni ymlaen rhwng 18:00 a 20:00 yng Nghanolfan yr Egin, S4C, a ffrydiwyd y digwyddiad yn fyw ar sianel YouTube y Coleg ac mae hefyd modd gwylio yn ôl.

Bydd enillydd Gwobr Merêsy’n cydnabod cyfraniad myfyriwr i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn prifysgol, a Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan sy’n cydnabod blaengarwch ymchwil ymysg y gwyddorau a chyfraniad i addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch yn cael eu cyhoeddi ym Mhabell y Coleg Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.