Skip to main content Skip to footer
13 Mehefin 2023

Dysgwyr, prentisiaid a darlithwyr mwyaf disglair Cymru yn derbyn gwobrau gan rai o sêr Cymru!

ADD ALT HERE

Ar nos Fawrth 13 Mehefin mewn dathliad arbennig yng Nghanolfan S4C yr Egin, cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhai o uchafbwyntiau’r noson oedd datgelu Yvon-Sebastien Landais fel enillydd Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury. Mae’r wobr yn cydnabod ei gyfraniad brwdfrydig yn dysgu Cymraeg ac yn cefnogi ei gyd-ddysgwyr yng Ngholeg Sir Benfro i ddysgu’r iaith. Mae Seb, 21 oed, wedi dysgu Cymraeg mewn amser byr ac wedi ymdrochi ei hun yn llwyr yn yr iaith a diwylliant Cymraeg. Cyflwynwyd y wobr iddo gan ei arwr, Dafydd Iwan.

Dafydd Iwan yn cyflwyno gwobr i Seb Landais, Coleg Sir Benfro

Meddai Seb,

“Dwi wrth fy modd i dderbyn y wobr yma, ac ei dderbyn gan neb llai na Dafydd Iwan! Mae’r wobr yn bwysig i mi oherwydd mae’n dangos bod fy Nghymraeg yn gwella o fis i fis ac yn hwb enfawr i barhau ar fy nhaith i ddysgu Cymraeg. Mae’r wobr yn sicr yn mynd i godi fy hyder a chryfhau’r teimlad o Gymreictod ynof i. Rwy’n edrych ymlaen i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle pan fyddaf yn dechrau gweithio i gwmni adeiladu yn y dyfodol agos.”

 

Enillydd gwobr newydd er cof am cyn-gadeirydd y Coleg Cymraeg, Gareth Pierce, fu farw’n sydyn yn haf 2021 oedd y prentis Osian James o Goleg Ceredigion.  Roedd y wobr yn cydnabod prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle. Yn ôl tiwtor Osian, mae ei waith gyda’r gorau y mae’r Adran Gwaith Coed yn Aberteifi erioed wedi ei weld. Dechreuodd ddiddordeb Osian mewn gwaith coed yn ystod y cyfnod clo, pan syrthiodd mewn cariad â gwaith coed gan greu cwpwrdd i’w fam i’w roi yn y cyntedd, a hynny o’i fympwy ei hun, gan ddysgu o fideos YouTube. Ers hynny mae Osian wedi mynd o nerth i nerth.

Osian James yn derbyn ei wobr gan aelod o deulu Gareth Pierce

Dywedodd,

“Dwi’n ddiolchgar iawn i dderbyn y wobr newydd yma yn enw Gareth Pierce a gyfrannodd gymaint i’r sector addysg bellach a phrentisiaethau. Dwi wrth fy modd gyda gwaith coed. Edrychaf ymlaen at ddatblygu fy sgiliau ac i gyflawni fy mhrentisiaeth er mwyn parhau i weithio a gwasanaethu fy nghymuned yn ddwyieithog.”

Yn ogystal, cyhoeddwyd mai Sara Gwyn, Niamh Goodwin-Thomas a Branwen Jones oedd enillwyr Gwobr Meddygaeth William Salesbury sy’n cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu gyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth. Gwobrwywyd Sara, Niamh a Branwen am eu cyfraniad allweddol yn sefydlu Cymdeithas Feddygol Gymraeg Prifysgol Abertawe sydd wedi rhoi cyfleodd arbennig i fyfyrwyr meddygol gymdeithasu, a hefyd i ddatblygu sgiliau clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwy o'r enillwyr, Niamh Goodwin-Thomas a Branwen Jones

Meddai Sara,

“Rwy’n hynod falch i dderbyn y wobr yma ac yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth am fod yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn ymarferol yn y maes meddygol. Rwy’n edrych ymlaen at fwrw ymlaen gyda fy astudiaethau gan obeithio bod yn feddyg ar y diwedd er mwyn parhau i hybu’r Gymraeg a darparu gofal cyfrwng Cymraeg i gleifion yn y dyfodol.”

Enillydd Gwobr Cyfraniad Eithriadol i Addysg Cyfrwng Cymraeg oedd Dr Hywel Griffiths, darlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dr Hywel Griffiths yn derbyn ei wobr

Meddai,

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y wobr yma. Mae’r Coleg Cymraeg wedi bod yn rhan mawr o fy ngyrfa i ers i mi ddechrau ar fy noethuriaeth yn 2015, felly mae’r wobr yma yn golygu llawer i mi. Rwy’n gweithio gyda thîm o bobl sydd yn gwneud cyfraniadau eithriadol at addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth ac am y cydweithio.”

Cyflwynwyd y noson gan y gyflwynwraig S4C adnabyddus a chyfaill i’r Coleg Cymraeg, Melanie Owen. Ar ddiwedd y seremoni rhoddodd Dafydd Iwan berfformiad byw o Yma o Hyd i gydnabod ymdrech arbennig y dysgwyr yn y colegau addysg bellach, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg, a aeth ati llynedd yn ystod Cwpan y Byd i ddysgu geiriau’r gân a chreu fideos o’u perfformiadau.

 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:

“Mae’r enillwyr heno yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith o’r safon uchaf a’u cyfraniad tuag at addysg Gymraeg a dwyieithog ôl-orfodol. Mae eu dylanwad yn codi proffil y Gymraeg yn eu sefydliadau yn enfawr, a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.”

Roedd y seremoni ymlaen rhwng 19:00 a 20:30 yng Nghanolfan yr Egin, S4C, ac mae modd gwylio’r digwyddiad yn ôl ar sianel You Tube y Coleg.

 

 

Rhestr lawn o’r enillwyr:

 

Gwobrau Addysg Bellach

 

  • Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury - Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth. Enillydd y wobr hon eleni ydy Yvon-Sebastien Landais o Goleg Sir Benfro

 

  • Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce - Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad Prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle. Enillydd y wobr ydy Osian James o Goleg Ceredigion.

 

  • Gwobr Addysgwr Arloesol  - Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol. Enillydd y wobr eleni ydy Lowri Bugg o Goleg Sir Gâr am ei gwaith arbennig yn annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

 

  • Gwobr am Gyfraniad Arbennig  - Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi i aelod o’r tîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn ei sefydliad. Enillydd y wobr eleni ydy Carys Swain o Goleg Penybont.

   

  • Gwobr am gyfoethogi profiad y dysgwr/prentis - Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol. Enillydd y wobr eleni ydy Sian Chandler o Goleg Caerdydd a’r Fro.

 

Gwobrau Addysg Uwch

 

  • Gwobr Meddygaeth William Salesbury  - Mae'r wobr yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil neu gyfraniad at weithgareddau cyfredol allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.  Enillwyr y wobr eleni ydy’r myfyrwyr Sara Gwyn, Branwen Jones, a Niamh Goodwin-Thomas o Brifysgol Abertawe

 

  • Gwobr Merêd  - Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.  Yr enillydd eleni ydy Deio Owen o Brifysgol Caerdydd

 

  • Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol  - Am greu adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg a’r enillwyr eleni oedd y darlithwyr mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdiethasol o Brifysgol Bangor, Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges am ddatblygu Pecyn Aml-gyfrwng Cymdeithaseg

 

  • Gwobr Cyfraniad Eithriadol   - Am gyfraniad eithriadol i addysg uwch (tu hwnt i rôl broffesiynol).  Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg a’r enillydd eleni oedd Dr Hywel Griffiths, darlithydd yn adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth

 

  • Gwobr y Myfyrwyr  - Mae ‘Gwobr y Myfyrwyr’ yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg, a’r enillydd eleni oedd Gwyneth Hayward, darlithydd Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Roedd y seremoni ymlaen rhwng 18:00 a 20:00 yng Nghanolfan yr Egin, S4C, a ffrydiwyd y digwyddiad yn fyw ar sianel you tube y Coleg ac mae hefyd modd gwylio yn ôl.

 

Bydd enillwyr y gwobrau canlynol yn cael eu cyhoeddi ym mhabell y Coleg Cymraeg ar brynhawn Dydd Mercher yn yr Eisteddfod Genedlaethol:

  • Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan sy’n cydnabod blaengarwch ymchwil ymysg y gwyddorau a chyfraniad i addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch

 

  • Gwobr Goffa Dr John Davies sy’n cydnabod y traethawd estynedig gorau ym maes Hanes Cymru

 

  • Gwobr Goffa Yr Athro Gwyn Thomas sy’n cydnabod y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg

 

  • Gwobr Norah Isaac ar gyfer y myfyriwr sy’n derbyn y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.