Ar ddydd Mawrth 5 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal sgwrs banel i drafod dyfodol y Gymraeg fel pwnc.
Mae data yn dangos bod llai yn astudio Cymraeg hyd Lefel A, a llawer llai yn astudio Cymraeg Ail Iaith i’r un lefel*. Yn ogystal mae llai o ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yn cynnig Lefel A mewn Cymraeg Ail Iaith**.
Gyda llawer o ysgolion yn gofyn am isafswm dysgwyr er mwyn cynnig y pwnc, nid yw’r Gymraeg ar amserlenni rhai dosbarthiadau chweched. Mae Alison Lloyd yn athrawes Gymraeg ail iaith mewn ysgol cyfrwng Saesneg sydd yn profi heriau wrth geisio cynnal y ddarpariaeth. Meddai Alison:
“Fel athrawon Cymraeg ail iaith, rydyn ni'n gweithio mor galed gyda disgyblion uwchradd sy'n gorfod astudio'r pwnc ar gyfer TGAU, i sicrhau ein bod yn ceisio magu agweddau positif ac atgyfnerthu pwrpas dysgu'r iaith Gymraeg, yn ogystal ag annog disgyblion i gyrraedd safon uchel ar gyfer eu harholiadau. Wedyn, pan fydd y disgyblion sydd wedi mwynhau dysgu'r iaith yn dewis ei hastudio ar gyfer Safon Uwch, mae cyfyngiadau arian neu staffio yn yr ysgol yn golygu bod y cwrs ddim yn gallu rhedeg. Pa fath o neges mae hyn yn rhoi o ran pwysigrwydd yr iaith? Sut mae hyn yn helpu cyrraedd targed y llywodraeth erbyn 2050? O ble fydd athrawon Cymraeg y dyfodol yn dod?
“Yr unig ffordd ymlaen yw cefnogi ysgolion i redeg Safon Uwch faint bynnag o fyfyrwyr sy'n dewis parhau gyda Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith neu Safon Uwch Cymraeg.”
Mewn ymateb i’r argyfwng, yn ei faniffesto ar gyfer Etholiad 2026 mae’r Coleg yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i roi statws arbennig i'r Gymraeg fel pwnc er mwyn ei warchod ar bob lefel yn y sector trydyddol. Creda’r Coleg y dylai bob dysgwr sy’n dymuno gwneud gael cyfle i feistroli’r Gymraeg ac astudio’r pwnc hyd Lefel A a gradd.
Nid problem i ysgolion sy’n addysgu Cymraeg Ail Iaith yn unig yw’r niferoedd isel, ac o ganlyniad, y diffyg cyllid digonol i allu cynnal y cwrs. Yn ôl Manon James, rhiant sydd â phlentyn yn gobeithio astudio Cymraeg iaith gyntaf ym mlwyddyn 12 ym mis Medi mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Meddai Manon:
"Mae ansicrwydd a fydd yr ysgol yn cynnig y pwnc ym mis Medi. Ryn ni wedi deall mai dim ond llond dwrn oedd wedi dangos diddordeb, bod y gweddill wedi tynnu mas a bod angen chwech i allu gwneud y pwnc."
Bydd y digwyddiad yn yr Eisteddfod gyfle i drafod yr heriau a’r datrysiadau posib yng nghwmni Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg; Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg; Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth y Gymraeg, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd; Stephen Rule, ‘Doctor Cymraeg’, sy’n athro Cymraeg yn Ysgol Maelor, Wrecsam; ac Eleri Gwyn, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.
Meddai Dr Ioan Matthews, a fydd yn cadeirio’r drafodaeth:
“Mae’r cwymp yn y niferoedd sy’n astudio’r Gymraeg fel pwnc yn y sector drydyddol dros y degawd diwethaf yn bryderus tu hwnt ac mae cynnal y ddarpariaeth ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn arbennig o heriol.
“Yn y pen draw, bydd hyn yn cyfrannu at y prinder gweithlu addysg dwyieithog ac felly’n milwrio yn erbyn nod Deddf y Gymraeg ac Addysg o sicrhau bod pob dysgwr yn gadael addysg statudol yn siarad Cymraeg.
“Mae’n rhaid i'r Llywodraeth nesaf sicrhau bod cyfle i bob person ifanc feistroli’r Gymraeg drwy roi statws arbennig i'r Gymraeg fel pwnc. Byddai hyn yn ddatganiad clir o’r bri a’r statws sydd i'n hiaith genedlaethol, byddai’n sicrhau bod gan ddigon o weithwyr mewn meysydd allweddol y sgiliau uchel sydd eu hangen a byddai’n golygu fod ymchwil academaidd ar y Gymraeg yn parhau i fod yn ddisgyblaeth fywiog sy’n cyfoethogi’n dealltwriaeth o’r Gymraeg a Chymru.
“Edrychwn ymlaen at y digwyddiad yn yr Eisteddfod er mwyn nid yn unig cydnabod yr heriau, ond hefyd trafod y syniadau a’r datrysiadau sydd angen i'r Llywodraeth nesaf ymrwymo iddynt.”
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am 13:00 dydd Mawrth, 5 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, ac mae croeso cynnes i bawb.
Bydd y Coleg yn cynnal nifer o ddigwyddiadau amrywiol trwy gydol yr wythnos ar faes yr Eisteddfod. Gellir mynd i wefan y Coleg i ddarllen ei raglen o ddigwyddiadau.