Skip to main content Skip to footer
11 Hydref 2021

Penodi 18 o lysgenhadon ysgol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

ADD ALT HERE

Yn dilyn y cynllun peilot Llysgenhadon Ysgolion llynedd mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ehangu’r cynllun a phenodi mwy o lysgenhadon eleni mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru er mwyn helpu i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector ôl-orfodol.

 

Mae’r 18 llysgennad o flwyddyn 12 a 13 wedi’u lleoli mewn deg ysgol uwchradd ar draws Cymru. Byddant yn dechrau ar eu gwaith fis yma. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd codi ymwybyddiaeth o fanteision addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ymhlith eu cyd-ddisgyblion. Byddant yn eu hannog i ymaelodi â’r Coleg, ymgeisio am yr ysgoloriaethau, bod yn rhagweithiol ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu negeseuon pwysig gan y Coleg.

Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda llysgenhadon sy’n frwdfrydig am y Gymraeg fydd yn ysbrydoli eu cyfoedion yn yr ysgol i barhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol a thu hwnt. Mae’r cynllun yma yn ffordd o gynnal perthynas agos gyda’r disgyblion yn ogystal â rhoi profiadau a sgiliau gwerthfawr iddyn nhw.”

Bydd y Coleg yn cyd-weithio gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Nantlle, Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol David Hughes, Ysgol Bro Teifi, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Ysgol Bro Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Yn ôl Loti Glyn sy’n lysgennad o Ysgol Gwynllyw:

“Fe wnes i ymgeisio i fod yn Lysgennad Ysgol y Coleg Cymraeg gan fy mod eisiau hyrwyddo y cyfle i astudio yn y Gymraeg i ddisgyblion fy ysgol i. Mae fy ysgol wedi lleoli yn y de-ddwyrain gyda llawer o’r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Byddai’n rhoi cyfle i fi a fy nghyd-disgyblion nid yn unig i astudio yn Gymraeg ond hefyd i ddangos sut mae byw mewn cymdeithas Gymraeg yn gallu cael effaith hir-dymor ar sut mae rhywun yn dewis i fyw eu bywyd.”

Ac yn ôl Tesni Hughes sy’n lysgennad yn Ysgol David Hughes,

“Dwin teimlo’n gryf y dylie pobl ifanc Cymraeg gael gwneud eu cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg a chael yr un chwarae teg a phobl di-Gymraeg. Dwin teimlo bod siarad Cymraeg wedi agor llwyth o ddrysau i mi ac fe allith agor cymaint o ddrysau i llawer iawn o bobl eraill hefyd.”

Mae’r Coleg wedi penodi hyd at dri llysgennad o bob ysgol i ymgymryd â’r rôl o fod yn Llysgennad Ysgol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/2022.