Skip to main content Skip to footer
19 Hydref 2021

Penodi llysgenhadon ôl-radd newydd i’r Coleg Cymraeg

ADD ALT HERE

Wedi cynllun peilot llwyddiannus llynedd, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2021/22 ac mae’r pwyslais ar gadw cysylltiad gyda myfyrwyr ôl-radd sy’n astudio tu allan i Gymru yn elfen hollbwysig eleni.

 

Eleni bydd 8 llysgennad yn mynd i’r afael a’u rôl newydd dros y misoedd nesaf, ac maent yn cynrychioli meysydd ymchwil amrywiol; o’r sefydliad darganfod meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd i’r Courtauld Institute of Art yn Llundain, ac o ymchwil mewn clefyd siwgwr yn ystod beichiogrwydd ym Mhrifysgol Leeds i Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor.  Mae mwy o wybodaeth am y llysgenhadon a’u meysydd ymchwil i’w weld ar wefan y Coleg.

Mae pump o’r llysgenhadon wedi’u lleoli mewn prifysgolion yng Nghymru a thri mewn prifysgolion yn Lloegr ac mae pob un yn awyddus i ddatblygu’r ymdeimlad o ‘gymuned’ ôl-radd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod bod denu myfyrwyr yn ôl i astudio neu weithio yng Nghymru yn flaenoriaeth ac felly mae’r Coleg yn falch iawn o allu cefnogi’r agenda hon drwy’r Cynllun Llysgenhadon Ol-radd.

Byddant yn cynrychioli ac yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd.  Bydd rhai o’r dyletswyddau ar-lein yn cynnwys hyrwyddo a chynnal digwyddiadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blog a chreu podlediadau sy’n trafod popeth yn ymwneud a bywyd myfyriwr ôl-radd.  Bydd y podlediadau’n cael eu hychwanegu at sianel ‘Sŵn y Stiwdants’. Yn ogystal, bydd y criw yn trefnu cystadleuaeth cyflwyno ymchwil a chwis Nadolig ym mis Rhagfyr ac yn cynnal cyfleoedd i fyfyrwyr ôl-radd ddod ynghyd i sgwrsio a chyfarfod yn ystod y flwyddyn.

Meddai Lois McGrath, Swyddog Datblygu Ymchwil a Hyfforddiant y Coleg Cymraeg: “Rydyn ni’n hynod o falch o benodiad y criw arbennig yma o lysgenhadon ôl-radd eleni ac edrychwn ymlaen yn arw at gydweithio â nhw yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r profiad o fod yn llysgennad yn mynd i gefnogi’r myfyrwyr i ychwanegu at eu proffil academaidd yn ogystal â chryfhau eu CV. Bydd y llysgenhadon yn chwarae rôl flaenllaw wrth annog a hyrwyddo ein Rhaglen Sgiliau Ymchwil – rhaglen sy’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr trwy gydol eu cyfnod ymchwil.  Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw un sy’n fyfyriwr ymchwil, ym mha bynnag brifysgol maen nhw’n astudio a beth bynnag yw’r maes ymchwil.  Mae croeso i bawb ac rydyn ni’n awyddus i rannu’r neges honno yn eang.”

Mae Bedwyr ab Ion Thomas yn un o lysgenhadon y Coleg o Brifysgol Caerdydd. Meddai: “Rwyf yn edrych ymlaen i gael dod â’r gymuned ôl-radd ynghyd, yn rhithiol ac wyneb yn wyneb. Credaf ei bod yn hollbwysig cael synnwyr o gymuned rhwng ymchwilwyr oherwydd gellir teimlo braidd yn unig ar adegau. Mae bod yn llysgennad ôl-radd yn fraint ac anrhydedd, ac yn ffordd wych o allu rhannu gweledigaeth y Coleg gan roi bri ar ymchwil ac addysg uwch!”

Dywedodd Rhodri Llŷr Evans, myfyriwr PhD mewn Cemeg ym Mhrifysgol Manceinion sydd hefyd yn lysgennad: “Gyda nifer o fyfyrwyr Cymraeg yn dewis astudio tu allan i Gymru, bydd atgyfnerthu’r gymuned ôl-radd Gymraeg yn ffordd hynod o effeithiol i ddenu gweithwyr medrus yn ôl i Gymru drwy greu rhwydwaith o gysylltiadau proffesiynol ymysg cyfoedion."