Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 29 o lysgenhadon newydd o ysgolion uwchradd ar draws Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25
Rôl y llysgenhadon ydy codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddisgyblion a phobl ifanc o fanteision parhau gyda’u Cymraeg ar ôl gadel yr ysgol
Ymhlith y criw newydd eleni y mae Rhys Matthews, disgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, sydd hefyd yn aelod o fand, Taran. Ar hyn o bryd, mae Rhys yn astudio ei lefel A mewn Cymraeg, Hanes a Mathemateg, ac yn edrych ymlaen at hyrwyddo pwysigrwydd cerddoriaeth Cymraeg wrth fod yn lysgennad.
Meddai:
“Mae cerddoriaeth yn agor y drws i bobl ifanc werthfawrogi ac i ddefnyddio eu Cymraeg tu hwnt i’r ysgol.
“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn lysgennad y Coleg er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith byw a chyffrous, sy’n agor cymaint o ddrysau.”
Meddai Rhodd Auronwen Jones o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, sy’n aelod balch o gôr, ‘Côr Ni’ yn Wrecsam a gafodd ei sefydlu’n ddiweddar ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025:
“Mae nifer o bobl yn meddwl nad oes llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn Wrecsam, ond mae cymdeithas Cymraeg anhygoel yma!
"Rwy'n gyffrous i fod yn lysgennad ysgol y Coleg eleni i hyrwyddo'r Gymraeg yn fy ardal i, ac yn enwedig yn yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesa."
Ychwanegodd Jacob Simmonds, disgybl yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, sydd yn awyddus i weithio gyda phlant ag anghenion arbennig yn y dyfodol:
“Mae gweithio yn y maes addysg a maes gofal o ddiddordeb mawr i mi, ac rwy’n teimlo fydd y Gymraeg yn ddefnyddiol tu hwnt wrth gyfathrebu gyda phlant.
"Dwi wedi cael fy magu mewn cartref di-Gymraeg felly rwy'n gwerthfawrogi fy addysg Gymraeg a'r cyfleoedd sydd yn agored i mi. Fel llysgennad y Coleg, byddaf yn hyrwyddo sut mae;r Gymraeg yn fanteisiol yn y byd gwaith nesa ymlaen."
Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, a byddant datblygu sgiliau amrywiol wrth gynrychioli’r Coleg Cymraeg a’u hysgolion mewn digwyddiadau gan gynnwys rhai o wyliau mwyaf Cymru, ac wrth greu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata'r Coleg Cymraeg:
“Mae’r cynllun llysgenhadon ysgol yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o ysgolion erbyn hyn yn cysylltu gyda ni yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r criw newydd i gyd ac yn gobeithio yn fawr y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn yr ysgol i barhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”
I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg