Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 22 o lysgenhadon newydd o ysgolion uwchradd a cholegau chweched dosbarth ar draws Cymru. Eu prif rôl bydd codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddisgyblion o fanteision addysg cyfrwng Cymraeg tu hwnt i’r ysgol, a’u hannog i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith gyda'r Coleg y mis yma.
Ymhlith y criw newydd eleni bydd Manon Kiff, un o ddisgynyddion o’r Cymry a symudodd i Batagonia yn y 19eg ganrif. Ar hyn o bryd, mae Manon yn astudio Lefel A Sbaeneg, Ffrangeg, Bioleg a Chemeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd, ac yn edrych ymlaen at hyrwyddo manteision amlieithrwydd wrth fod yn llysgennad.
Meddai Manon:
Manon Kiff, Ysgol Bro EdernSaesneg yw fy nhrydedd iaith ar ôl Sbaeneg a’r Gymraeg, ac felly rwy’n angerddol dros hanes amlddiwylliannol Cymru a sut mae’n ein clymu ni gyd at ein gilydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i fy rhieni fy mod i wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ac rwy’n bwriadu astudio Meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol y flwyddyn nesaf er mwyn bod yn feddyg yn y dyfodol.
Mae’r efeilliaid, Gwilym a Joseph Morgan, o Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, ysgol sy’n bennaf ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg, wedi dysgu Cymraeg ac yn falch iawn i gynrychioli siaradwyr Cymraeg newydd fel llysgenhadon y Coleg Cymraeg.
Meddai Gwilym, sydd hefyd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni,
Gwilym Morgan, Ysgol Uwchradd Esgob LlandafFel llysgennad rwy’n edrych ymlaen at helpu pobl eraill sydd wedi dysgu’r iaith er mwyn dangos y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt wrth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddaf yn ymgeisio i astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn bo hir, gan obeithio fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol.
Mae Mari Williams, sy’n astudio Lefel A yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug wedi ei hysbrydoli i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ar ôl mynd i gigiau Cymraeg.
Meddai:
Mari Williams, Ysgol Maes GarmonGan fy mod i’n byw reit agos i’r ffin, rwy’n caru annog pobl yn fy ardal i ddefnyddio’r Gymraeg. Dwi’n teimlo bod angen hysbysebu bod y Gymraeg yn iaith cŵl a blaengar i bobl ifanc tu hwnt i’r ysgol. Rwy’n edrych ymlaen felly at ddenu fy nghyd-ddisgyblion i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffyrdd creadigol.
Ers lansio’r cynllun Llysgenhadon Ysgol yn 2020, mae’r Coleg wedi penodi dros 70 o lysgenhadon ysgol. Yn ogystal â’i gwaith yn denu pobl ifanc i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd iddynt.
Cafodd Efa Maher a oedd yn llysgennad i’r Coleg llynedd yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd, brofiadau “anhygoel”.
Meddai:
“Cefais gyfleoedd anhygoel wrth fod yn llysgennad ysgol y Coleg Cymraeg llynedd. Rhai o’r uchafbwyntiau oedd cyflwyno artistiaid ar lwyfan yng Ngŵyl Triban yn Eisteddfod yr Urdd, a chyfweld a^ rhai o’r sêr mawr yn cynnwys Dafydd Iwan a Tara Bandito! Roedd y profiad yn bendant wedi datblygu fy hyder a’r sgil i feddwl ar fy nhraed”
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae’r cynllun llysgenhadon ysgol yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o ysgolion yn cysylltu gyda ni yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun. Mae’n braf ein bod bellach yn gwneud cyswllt gydag ysgol fel Ysgol Uwchradd yr Esgob Llandaf ac yn gallu cynnwys unigolion sydd wedi dysgu’r iaith fel Gwilym a Joseph yn rhan o’r cynllun. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r criw newydd i gyd ac yn gobeithio yn fawr y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn yr ysgol i barhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Llysgenhadon ysgol 2023-24:
- Gwilym Morgan, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf
- Joseph Morgan, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf
- Hollie Brown, Ysgol Gyfun Rhydywaun
- Mari Wilkins, Ysgol Gyfun Rhydywaun
- Freya Jenkins, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
- Gabriel Marcico, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
- Greta Williams, Ysgol Garth Olwg
- Mali Williams, Ysgol Garth Olwg
- Manon Kiff, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
- Ffion Monaghan, Ysgol Uwchradd Aberteifi
- Siwan Mair Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
- Enlli Fflur James, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
- Betsan Gwawr Lewis, Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth
- Steffan Thomas, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
- Ella Thomas, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
- Megan Mai Keyye, Ysgol Dyffryn Aman
- Mabli Grug Hampson, Ysgol Maes Garmon
- Mari Williams, Ysgol Maes Garmon
- Tesni Evans, Ysgol Dyffryn Conwy
- Elliw Mair Huws, Ysgol Uwchradd Bodedern
- Mai Owen, Ysgol Uwchradd Bodedern
- Elin Jen Griffith, Ysgol Dyffryn Nantlle.
I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg