Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi’r Llysgenhadon Ysgol cyntaf erioed mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru er mwyn helpu i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r 14 llysgennad o flwyddyn 12 a 13 sy’n ran o’r cynllun peilot eleni wedi’u lleoli mewn saith ysgol uwchradd ar draws Cymru. Byddant yn dechrau ar eu gwaith fis yma. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd codi ymwybyddiaeth o fanteision addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ymhlith eu cyd-ddisgyblion. Byddant yn eu hannog i ymaelodi â’r Coleg, ymgeisio am yr ysgoloriaethau, bod yn rhagweithiol ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu negeseuon pwysig gan y Coleg.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Er fod gan y Coleg Cymraeg gynllun llysgenhadon llwyddiannus iawn mewn prifysgolion sydd wedi ei sefydlu ers sawl blwyddyn, dyma’r tro cyntaf i ni gael Cynllun Llysgenhadon Ysgol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda llysgenhadon sy’n frwdfrydig am y Gymraeg fydd yn ysbrydoli eu cyfoedion yn yr ysgol i barhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol a thu hwnt.”
Gyda’r heriau diweddar sydd wedi wynebu pawb nid yw wedi bod yn bosib i staff y Coleg ymweld ag ysgolion i sgwrsio gyda disgyblion blwyddyn 12 a 13 wyneb yn wyneb yn ôl yr arfer. Yn ogystal â’r sesiynau digidol newydd, bydd y cynllun peilot yma yn ffordd o gynnal perthynas agos gyda’r disgyblion yn ogystal â rhoi profiadau a sgiliau gwerthfawr iddyn nhw. Bydd y Coleg yn cyd-weithio gyda disgyblion o Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol Maes y Gwendraeth, Ysgol y Preseli, Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Yn ôl Gwenno James sy’n lysgennad o Ysgol y Preseli: “Ron i isho bod yn un o Lysgenhadon Ysgol y Coleg Cymraeg oherwydd fy mod eisiau gweld mwy o bobl yn mwynhau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ysu i'w defnyddio o ddydd i ddydd. Dwi eisiau hysbysebu i bobl sut mae'r Gymraeg yn gallu agor cymaint o ddrysau i'r dyfodol gan fod cyflogwyr yn hoff o weithwyr dwyieithog. Dw i eisiau dangos hefyd sut mae addysg trwy'r Gymraeg yn mynd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pob un tu hwnt i'r ysgol a phrifysgol neu brentisiaeth yn y byd gwaith.”
Ac yn ôl Harvey Llewellyn-Griffiths sy’n lysgennad yn Ysgol Cwm Rhymni: “Dwi’n dod o gefndir di-Gymraeg ac mor falch wnes i gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn yr ysgol. Rydw i’n frwdfrydig i bobl astudio trwy’r Cymraeg os oes ganddyn nhw’r iaith yn barod. Mae bod yn lysgennad yn gyfle da i hysbysebu’r iaith ac i gael mwy o bobl i astudio trwy’r Cymraeg. Nid oes llawer o bobl yn gwybod am y fantesion o astudio trwy’r Gymraeg a chredaf os yw rhywun yn esbonio hyn iddyn nhw bydd mwy o bobl yn ystyried astudio trwy’r Cymraeg.”
Mae’r Coleg wedi penodi hyd at dri llysgennad o bob ysgol i ymgymyrd â’r rôl o fod yn Llysgennad Ysgol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/2021. Y gobaith yw ymestyn y cynllun i bob ysgol dros y ddwy flynedd nesa.