Cynhaliwyd digwyddiad i siaradwyr Cymraeg ifanc Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn y Senedd ar ddydd Llun 20 Mawrth wedi ei drefnu gan y Coleg Cymraeg a Choleg Caerdydd a’r Fro.
Roedd cyfle i’r dysgwyr oedd rhwng 16 a 19 oed glywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu cenedl wrth-hiliol ac i glywed profiadau a barn rhai o wynebau cyfarwydd Cymru gan gynnwys y newyddiadurwr, Iolo Cheung; y rapiwr, Sage Todz; y cyflwynydd teledu, Melanie Owen; y myfyriwr ôl-radd ac ymgyrchydd gwrth-hiliaeth, Emily Pemberton a Nooh Omar Ibrahim sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Amrywiaeth a Chynhwysiant gydag Urdd Gobaith Cymru.
Dywedodd Nooh oedd yn rhan o’r sgwrs banel,
“Dwi’n dod o Somalia ac wedi fy magu yn Butetown yng Nghaerdydd. Dwi’n awyddus i ddangos fod yr iaith Gymraeg yn bwysig pa bynnag gefndir i chi. Ers dechrau dysgu Cymraeg dwi wedi sylweddoli mae’r iaith yn clymu ni gyd at ein gilydd.”
Y cyflwynydd teledu a radio adnabyddus, Jason Mohammad, oedd yn cyflwyno’r digwyddiad ac roedd gan y dysgwyr yn y gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau a rhannu eu profiadau personol yn ogystal.
Dywedodd Jason wrth y dysgwyr,
“Mae bod yn y Senedd yma heddiw mor bwysig. Mae’n ddigon hawdd i ddweud bydd eich siawns o gael swydd neu gael mynediad i gwrs arbennig yn gwella os ydych chi’n siarad Cymraeg, ond i fod yn onest mae angen mwy o fodelau rôl mewn bywyd cyhoeddus sy’n adlewyrchu amrywiaeth er mwyn rhoi siawns cyfartal i bob person ifanc ym mhob cymuned yng Nghymru i fod yn llwyddiannus.”
Fel rhan o’r digwyddiad, lansiwyd Rhaglen Fentora’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, prosiect newydd er mwyn cynnig cefnogaeth i ddysgwyr ifanc 16 i 19 oed o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig gan fentor. I glywed mwy am y prosiect gellir cysylltu â’r Coleg drwy e-bostio gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk.
Noddwyd y digwyddiad gan yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Caerdydd a Phenarth, Vaughan Gething, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi.
Dywedodd,
“The Welsh language really does belong to all of us, whether you’re a fluent siaradwr like Jason Mohammad or a dysgwr like myself. The language and its culture is part of the story of Wales, as indeed are we. It’s important to rediscover more about our past and what we can do for our shared future and to recognise that we have always belonged here and we will do so in the future.”
Roedd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles hefyd yn bresennol.