Skip to main content Skip to footer
17 Mehefin 2021

Prifysgolion Cymru yn uno I lansio hwb cymorth I fyfyrwyr sy’n mynd I’r brifysgol

ADD ALT HERE

Heddiw (13/05/21) bydd Llywodraeth Cymru a phob un o'r naw prifysgol yng Nghymru yn lansio adnodd ar y cyd gan ddod â chyfoeth o ddeunyddiau ynghyd a fydd yn helpu myfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf i fod yn ‘Barod ar gyfer Prifysgol – yr hwb cyntaf o'i fath yn y DU.

 

Mae’r Coleg Cymraeg yn falch o fod wedi cyfrannu at ddatblygu’r platfform newydd dwyieithog. Mae’r hwb yn cynnwys adnoddau defnyddiol ar gyfer myfyrwyr sy’n gobeithio astudio yn y brifysgol gan gynnwys adnoddau penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n ystyried astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i fyfyrwyr; i'r rhai sy'n mentro i'r brifysgol eleni gall fod yn amser pryderus, tra bydd gan rieni, gofalwyr a'r rhai sy'n cynghori gwestiynau eu hunain am yr hyn a ddaw yn sgil bywyd prifysgol. Ond mae prifysgolion Cymru wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu paratoi a dod o hyd i gefnogaeth cyn iddynt ddechrau ar eu cyrsiau hyd yn oed.

Mae Hwb Barod ar gyfer Prifysgol - platfform dwyieithog sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad am ddim i'r rhai sy'n astudio yn y pandemig a thu hwnt - yn cynnig cyngor iechyd a lles fel sut i osgoi straen yn yr oes ddigidol, awgrymiadau ymwybyddiaeth ofalgar a sgiliau astudio ymarferol fel rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau.

Bydd y porth hawdd ei ddefnyddio hefyd yn darparu gwybodaeth i feysydd penodol o astudiaeth academaidd a mewnwelediad i fywyd myfyrwyr, o deithiau rhithwir ar y campws, a chefnogaeth cyfoed-i-gyfoed i'r rhai sydd eisoes yn byw mewn llety myfyrwyr, i ddarlithoedd blasu ac awgrymiadau astudio.

Gyda’r gwasanaeth derbyniadau UCAS yn adrodd am gynnydd o 17% mewn ceisiadau i brifysgolion Cymru eleni a dros 130,000 o fyfyrwyr eisoes yn astudio ym mhrifysgolion Cymru, mae’r Hwb yn gobeithio gwneud gwahaniaeth mawr.

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru: “Mae cychwyn prifysgol yn drawsnewidiad pwysig ym mywyd myfyrwyr. Ar gyfer carfan myfyrwyr Blwyddyn 13 eleni, mae'n ddealladwy y bydd pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eu profiad dysgu.

“Dyma pam mae prifysgolion Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Barod ar gyfer Prifysgol, gan gynorthwyo dysgwyr i ddeall mwy am astudio a bywyd prifysgol, a magu hyder ar gyfer y trawsnewid i addysg uwch. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu myfyrwyr i wneud y mwyaf o'r nifer fawr o gyfleoedd y bydd eu profiad prifysgol yn eu cynnig.

“Lles myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth ac mae prifysgolion Cymru wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr trwy gydol eu profiad prifysgol, eu paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus a darparu’r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu a chyflawni eu nodau.”

Mae Hwb Barod ar gyfer Prifysgol yn cael ei gynnal gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ar y platfform OpenLearn ac mae ganddo gyngor ar iechyd meddwl, awgrymiadau ar gyfer lleihau straen a chefnogaeth ymarferol ar gyfer lles myfyrwyr.

Dywedodd Gwenllïan Owen, Rheolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac aelod o’r grŵp llywio ar gyfer y prosiect:

“Mae cydweithio gyda’r Brifysgol Agored a gyda phartneriaid o brifysgolion a cholegau Cymru wedi bod yn bleser. Mae’r hwb yn cynnig cyngor arbenigol i fyfyrwyr ac yn eu cefnogi i gymryd y cam nesaf tuag at astudio yn y brifysgol.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Louise Casella:

“Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi gallu datblygu’r adnodd hwn gyda’r prifysgolion eraill yng Nghymru i gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n trosglwyddo i astudio mewn prifysgol ar yr adeg anodd hon. Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru rydym yn gwybod nad oes myfyriwr 'nodweddiadol' a gobeithiwn y gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd ei gamau nesaf mewn addysg uwch ddefnyddio Hwb Barod ar gyfer Prifysgol lle bynnag a phryd bynnag sy'n gweddu orau iddynt a'u helpu i deimlo'n dawel eu meddwl a'u cefnogi .

“Rydym wedi gweld twf sylweddol yn nifer defnyddwyr ein platfform am ddim OpenLearn ers dechrau’r cyfnod clo ac mae'n wych gallu ychwanegu'r adnodd rhagorol hwn at yr amrywiaeth helaeth o ddysgu am ddim sydd eisoes ar y wefan.”