Skip to main content Skip to footer
10 Mai 2023

Ap arloesol i wella sgiliau Cymraeg yn y maes chwaraeon   

ADD ALT HERE

Mae ap newydd wedi ei greu i gefnogi pobl sy’n astudio neu’n gweithio yn y maes chwaraeon i wella eu hyder wrth siarad Cymraeg.

 Mae’r ap, ‘Chwaraeon Trwy'r Gymraeg’, sy’n bartneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Cambria, yn cefnogi dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw yn y dosbarth ac yn y gweithle, beth bynnag yw lefel eu sgiliau iaith ar hyn o bryd.

 Mae’r ap rhyngweithiol – y cyntaf o’i fath – yn cynnwys geirfa ac ymadroddion cyffredinol a themâu penodol i'w defnyddio gan ddysgwyr mewn colegau addysg bellach ac yn y pendraw gan weithwyr chwaraeon proffesiynol.

 Bydd yr ap yn cael ei lansio mewn digwyddiad duathlon Colegau Cymru ar ddydd Mercher 10 Mai ble bydd dros 400 o bobl ifanc o golegau addysg bellach a staff o saith coleg ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y digwyddiad ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin. Bydd siaradwyr ysbrydoledig gan gynnwys y cyn-chwaraewr rygbi i di^m y Gweilch, Ifan Phillips, a gollodd ei goes mewn damwain yn 2021, yn lansio’r ap ac yn annerch y dorf cyn y ras.

Ap yn ateb y galw 

 Mae’r eirfa sydd yn yr ap yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog ar y sgrin, ac yn ogystal â hynny mae'r defnyddiwr yn gallu gwrando ar ynganiad y gair sydd wedi ei recordio gan y gohebydd chwaraeon, Nicky John. Mae’r ap wedi ei rannu i unedau amrywiol ac yn darparu geirfa ac ymadroddion ar bynciau arbenigol yn cynnwys sgwrsio, rhannau o’r corff, cymalau, a chymorth cyntaf. 

Meddai Kyran Salmon, myfyriwr Lefel 3 Chwaraeon, Coleg Sir Benfro,

"I use the app as part of my coaching work and find it really useful. There is a good mix of everyday Welsh vocabulary and phrases and also more specialist terminology, so it’ll become even more helpful in the workplace when I start my career.”

Meddai Jonathan Kerry, darlithydd Chwaraeon yng Ngholeg Cambria sydd hefyd wedi bod yn rhan o dîm datblygu’r ap,

“Fel darlithydd, rwy’n cyfeirio myfyrwyr tuag at yr ap er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y pwnc Chwaraeon, yn y dosbarth ac ar leoliad. Mae'r ap yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y rhai sy’n rhugl yn y Gymraeg ond hefyd i’r rhai sydd yn awyddus i ail afael neu ddatblygu eu sgiliau iaith”

 

Mae’r digwyddiad yn rhan o Strategaeth Lles Actif ColegauCymru sy’n brosiect i wella iechyd a lles cymunedau colegau ledled Cymru. Y brif gynulleidfa fydd yn cymryd rhan yn y duathlon fydd dysgwyr rhwng 16-18 mlwydd oed a darlithwyr o golegau addysg bellach yng Nghymru. 

 

Dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru,

“Mae Aml chwaraeon Addysg Bellach ColegauCymru yn cynrychioli cyfeiriad newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol a digwyddiadau yn y sector addysg bellach. Mae’r fformat hwn yn darparu un o’r ychydig gyfleoedd lle gall dysgwyr a staff gystadlu ochr yn ochr â’i gilydd, ar lefel ddechreuwyr a mwy cystadleuol.

Rydym yn falch o gynnal digwyddiad cynhwysol sy’n helpu i wella lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac sy’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr nad ydynt efallai wedi cael llawer o gyfleoedd i elwa o fod yn actif.

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Triathlon Cymru, Coleg Sir Gâr, AoC Sport, Beicio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre. Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu am y tro cyntaf, Anabledd Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fel partneriaid digwyddiad.”

Mae modd i unrhyw un lawrlwytho’r ap yn rhad ac am ddim o Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg.