Skip to main content Skip to footer
8 Mawrth 2024

Rebecca Rees: Prifysgol Aberystwyth, Ennillydd Coron yr Eisteddfod Ryng-golegol 2024

ADD ALT HERE

Llwyddodd ein llysgennad, Rebecca Rees o Brifysgol Aberystwyth i gipio'r goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2024.

Y beirniad oedd Dr Miriam Elin Jones, darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gyda Rebecca a'i ffugenw - Awst yn dod i'r brig gyda dwy stori.

Dyma'r darn buddugol i chi ei fwynhau:

Y Goleudy

Pawb yn gadael, neb yn dod.


     Gwyliodd y ceir yn mynd mewn un llinell ddi-derfyn liwgar heibio ffenestr y siop tships, fel petai rhywun yn taflu dillad yn gyflym ar lein ddillad, un ar ôl y llall. Roedd hi’n nosi, yr haul yn toddi fel yr hufen ia ar y palmant o flaen drws y siop, yn rhedegog felyn dros wastadedd hir y gorwel. Ymddangosai’r gorwel yn aneglur, heno, fel petai fêl o niwl yn cwympo dros wyneb gwelw’r awyr. Dyna i ti olygfa brydferth: machlud mis Mehefin, pan mae’r awyr yn goleuo’n fanila a’n fefus a’n bubblegum, cyn i’r nos gamu ar ei hyd a’i phardduo fel ôl troed brwnt. Gyrrodd yr ymwelwyr i ffwrdd i’w pebyll a charafanau, wedi blino ar hyfrydwch yr olygfa.


     Tynnodd yr halen oddi ar y cownter a’i wthio dros y dibyn; byddai’n gallu ei ysgubo gyda gweddill y baw a fflwcs, wedyn. Gyda chlwtyn llaith fe sychodd y cownter pren a gwydr y cwpwrdd twym, ble cedwid y cig a physgod sawrus, seimllyd. Sychodd y wal teils gwyn a glas.


     Allan ar y stryd, gallai weld dwy ferch ifanc yn tynnu llun o’u hunain, ac yna’n ei ail-dynnu, cyn newid ongl a’i dynnu eto. Fel llwybrau, ymhelaethai craciau a holltiau main ar hyd y teils, yn fap o fân ddigwyddiadau di-gyffro’r siop pysgod a sglodion. Y tro hwnnw tarrodd Ed y llwy cyri sôs yn erbyn y wal yn ei feddwdod, ei wyneb yn wynnach na’r deilsen a’i lygaid yn goch gyda’r cyffur, ac yn fach, digon tebyg i rai gwylan filain. Golchodd y saim bant o’r teils gloyw, tawch y bwyd brasterog wedi’u hiro’n drwchus yn ystod y dydd. Edrychodd eto trwy’r ffenestr ond roedd y merched wedi symud ymlaen. 


     Cofiai am wyneb Mari y diwrnod cyntaf dechreuodd hi weithio yno, blynyddoedd yn ôl. Yn seimllyd â melltith y glasoed, gyda’r smotiau wedi’u taenu ar hyd ei thalcen fel sbrincls melys y siop hufen ia drws nesaf. Ochneidiodd. ‘Menyw Ed’, mab y siop tships, oedd hi o’r dechrau, ei phen yn plygu’n wanllyd dros y fatiau mawr o fraster berwedig, y gwres yn ei gwrido fel rhosyn cain. Llygaid fel llo bach yn codi’n eiddil pan siaradai ag unrhyw un, ei llais yn sibrydiad tawelach na swigod y pysgod celain a arnofiai ar wyneb dyfroedd cymylog yr olew. Pan weithiai hi’r til, adeg yr hafau prysur, porpoeth, câi’r cwsmeriaid waith i’w chlywed, a bois y gegin fwy o waith wrth geisio ymdopi â’r archebion wrth gadw camddeall ei hysgrifen traed brain ar y papurau bach brau, fel adennydd sigldi-gwt. Âi Ed yn genfigennus, hefyd, gan amau bod cymaint o gawlach gan fod cymaint o archebion, a phawb wedi dod i weld ei bishyn o fenyw ef. Gwywo yng ngwres y cefn, yn golchi llestri, bu ei dyletswydd oddi ar hynny.


     Nawr, aeth at y fatiau braster, a thynnu pob basged oddi ar eu bachynnau. Hwyliodd y cewyll gwifrog i mewn i’r cefn a’u hymdrochi â dŵr twym yn y sinc ddofn. Roedd hi’n dywyll yn y gegin gefn, dim un ffenestr, dim ond un bwlb noeth yn crogi o’r nenfwd isel. Diferodd ias oer i lawr ei gefn wrth olchi’r basgedi sglodion. Nadu di-anadl Mari a’i hwyneb wedi’i wasgu mewn poen, fel petai rhywun wedi sgrwnshio’r papur tships mewn pelen, wrth i’w dwylo chwyddo’n fenig cartwnaidd ym mherfedd un o’r fatiau braster, ac Ed yn cydio’n ei garddynau tenau fel molwsg, yn pallu deg â gollwng gafael. Y drewdod o gnawd yn llosgi yn waeth na phetai’r rhewgelloedd wedi dadmer a phydru’u cynnwys i gyd. Ni ysgrifennodd Mari byth eto yn ei llawysgrifen traed brain.

     Gadawodd y llestri i foddi yn ewyn persawrus y dŵr a mynd i ôl yr ysgub, pren y goes wedi creithio â blynyddoedd o ddefnydd a chamdriniaeth gan weithwyr niferus y sefydliad. Doedd o erioed wedi bod yn or-hoff o ysgubo, y gorchwyl yn ei ddiflasu wrth wthio tonnau o lwch a baw a darnau bwyd ar hyd y teils llwydaidd. Yna ymestyn y goes oddi dan y cypyrddau a’r cownter, yna symud yr oergell a’r rhewgell i wneud yr un peth, neu heblaw hynny câi gystudd gan Ed. Doedd o ddim yn ei fwrw, dim o gwbl, dim ond yn cwtogi cyflog y diwrnod hwnnw gan wenu trwy fwg ei sigaret, yn cael pleser mas o wneud i rywun deimlo’n fach, fach am anghofio gwneud rhywbeth mor ddibwys â brwshio tu ôl i ddrws. Ond roedd rhoi cystudd i Mari’n orchwyl gwahanol. Pan nad oedd Mari wedi sychu’r walydd yn ddigon da neu anghofio wacàu’r bin sbwriel, roedd hi’n ysglyfaeth anffodus yn ei bawenau creulon; yn sach flawd i’w bwrw a’i chleisio. Dyna pham dechreuodd o weithio’r shifftiau hwyrach, er mwyn clanhau, er mwyn arbed Mari; ond roedd y gwynt bob amser yn gafael ffordd i ysgwyddo’i ffordd drwyddo a rhwygo’r petalau oddi ar y rhosyn, a gadael ei phetalau’n ddagrau coch ar lawr.

Symudodd o ddim byd heno, dim ond casglu’r gwaethaf o’r bryntni a’i ddiosg yn y bin. Tagodd y sach ddu gyda chwlwm tynn ac aeth allan, croesi’r heol, at y biniau mawr diwydiannol glas. Cododd y clawr a thaflu’r sach i mewn i’w geg agored a’i gau â chlep. Uwch ei ben, roedd yr awyr gleisiog yn dylyfu’i gên, y sêr yn dechrau disgleirio’n wan, fel ewyn y môr yn tasgu a’n cael ei oleuo gan lafnau’r haul. O’r fan honno, gallai weld y llwybr arfordirol yn y pellter, yn ymlwybro i fyny trwy’r eithin a rhedyn, cyn diflannu dros y fryn i’r traeth nesaf. Hoffai pobol ei ofyn yn y siop, ar ôl iddo gadarnhau nad oeddynt eisiau halen, dim ond finegr, i ble’r âi’r llwybrau, i ba draethau?

     Gwallt melyn oedd gan Mari, mor felyn â’r eithin, a’r un mor sidanaidd â’r blodau bach brau. Gwelodd, yn llygaid ei gof, y cudynnau euraidd yn troelli o gwmpas ei hwyneb chwyslyd, yn gromfachau llachar i’w gwedd hardd. Er iddo’i hadnabod am flynyddoedd, ni rannodd y ddau mwy na dognau ysgafn o sgwrs erioed, yn llwyddo i gynnal ymgom mwy ystyriol trwy weithredoedd ac edrychiadau prin, cynnil. Ed oedd yn siarad drosti, ac amdani, yn ei rwgnach sychlyd o lais, fel petai wedi bod yn byw ar yr holl finegr ac halen yn y stordy am oes. Edrychai’r llwybr yn bell i ffwrdd, ond roedd yr eithin yn pefrio’n fwy na’r sêr, hyd yn oed.

     Eisteddodd ar y wal gerrig isel, godderbyn â’r siop, ei gefn yn fwy o gryman na’r lleuad, yn bachu saib am ennyd. Clywai’r strydoedd yn anadlu gyda gwres llethol y nos, a’n ochneidio â rhyddhad am eu bod bellach yn wag. Er iddo ddiolchi am y tawelwch ar ôl y diwrnod byddarol o sŵn a stêm a saim, teimlai’r llonyddwch yr un mor llethol. Y stryd yn sgerbwd heb bobol i’w llenwi â’u bywyd. Gallai weld o gwmpas y gornel, i fyny’r stryd nesaf, a’r llwybr i lawr i’r traeth, fel rhwydwaith o wythiennau corff marw, heb lif yr ymwelwyr i’w symud.

     Priododd Mari ac Ed, yn y capel bach uwchlaw’r pentref, yng nghanol yr Haf, felly doedd dim modd iddo fynd am fod y siop mor brysur; gallai ddim ond teimlo fel bod hynny’n fwriadol o ran Ed. Roedd Ed wedi’u gweld yn rhannu cwdyn o sglodion hallt ar ôl diwrnod hir yn gwerthu bwyd ac hwythau ddim wedi cael cyfle i fwyta’u hunain. Wrth dapian ludw ei fwgyn ar y bysedd euraidd, fe ddymunodd i ni dagu ar ein swper mewn tôn beryglus o serchog, cyn gwasgu’r bonyn fflamgoch ym mraich tenau Mari. Llewys hir oedd ganddi i’w ffrog briodas, i guddio’r glytwaith o gleisiau a briwiau a chreithiau. Doedd dim un llun yn dangos gwên.

     Roedd nos wedi disgyn yn drwchus o ddu, a’r aer fel triog. Cerddodd am yn ôl i’r siop er mwyn ei chau, ond taflodd olwg hiraethus at gyfeiriad y llwybr arfordirol, bellach ar goll yn anialwch y tywyllwch. Ai fel hyn oedd hi’n teimlo, yn byw a bod mewn lle mor gyfarwydd ond yn methu â gweld ymhellach na’i thrwyn? Yn mygu, yn ddall, fel petai wedi’i chaethiwo o dan garthen wlanog drom, wedi’i bwyso i lawr â meini mawr fel cerrig beddau, ond hefyd yn boenus o ysgafn, fel pluen, mor fregus â gwyfynen, â blodyn, ble byddai un chwythad o wynt yn ddigon i’w noethi a’i gadael yn amddifad o’i hunaniaeth ei hunan. Druan â Mari.

     Yn y siop, trodd y golau ymlaen, y stribedi cul o olau gwyn yn boenus ar ôl balm y nos. Aeth at y til a chyfri elw’r diwrnod, yn cyfri pob dalen o arian papur, ond doedd dim cymaint â beth byddai ‘slawer dydd; roedd pawb yn talu â’u ffoniau, erbyn hyn, neu gerdyn caled plastig. Y diwrnod hwnnw, blynyddoedd yn ôl, roedd y til wedi bod yn or-lawn, ac yntau wedi gorfod ei wacau a mynd i’r swyddfa i roi’r arian i gadw. Roedd hi wedi ceisio siarad â fe, ei bochau’n gou a gwelw, fel onnen bwdr, a’i llais mor denau â stêm y fatiau sglodion. Ym mrig prysurdeb y dydd, fe’i thawelodd yn fyr amynnedd, gan ei gorchymyn yn ôl i’r sinc i wneud ei gwaith. Doedd o erioed wedi bod yn gas fel hynny iddi, ac fe’i siomwyd, ei llygaid yn chwyddo. Ond doedd dim dagrau. Roedd yr haul wedi machlud, ond y lleuad heb ddyfod, felly doedd dim llanw na thrai i’w llygaid bellach, dim ond llonyddwch dŵr llyn.

     Rhoddodd yr arian i gadw yn y swyddfaond ar gamgymeriad fe fwrodd gwydryn gwag oddi ar y ddesg. Chwalodd yn grisialau miniog ar lawr. Roedd yn rhaid bod pethau wedi gwaethygu i Mari ar ôl priodi. Hwnnw oedd y tro diwethaf iddo fo’i gweld hi, ond doedd dim un môr yn mynd i allu golchi’r olwg ddolurus honno oddi ar ei gof. Pebai’n gant, byddai’n dihuno bob bore i’r ysbryd hwnnw o dorcalon a brâd ei ddychryn.

     Mae’n debyg iddi gerdded allan o’r siop, a chadw cerdded. Y ffedog wen wedi’i chlymu’n dynn o gwmpas ei chanol, a’i gwasg mor denau â choes yr ysgub erbyn hynny. Fel y frân, cerddodd yn syth i’w chyrchfan.

     Yn anffodus, doedd neb llawer ar y llwybr arfordirol y diwrnod hwnnw, dim ond Mari fach â’i meddyliau hallt. Yn dringo, dringo fel gwylan welw, i fyny trwy’r eithin bigog, a thros y bryn i’r tir neb. Yn ôl yr adroddiad heddlu, doedd dim modd dyfarnu ai dyrnau’r tonnau a chyllyll y graig achosodd y marciau a chleisio helaeth ar ei chorff, neu ymosodiad, trawma, blaenorol i’r digwyddiad.

     Gyda’r ysgub, fe glanhaodd y gwydr, a chodi’r darnau gyda brwsh a phan. Wrth wneud, fe astudiodd ei ddwylo, yn sych fel y papur lapiwyd y sglodion ynddo, a’n grychiog, y llinellau’n crwydro mewn llwybrau diddiwedd ar hyd ei gledrau ac i fyny’i fysedd. Hen ddwylo. Ni chafodd Mari greithio’i dwylo ag ôl ei henaint.

     Cododd a thaflu’r gwydr i ffwrdd, ond rhywsut, fe gydiodd darn o wydr yn ei groen a rhwygo cefn ei law. Blodeuodd deigryn o waed, cyn llefain i lawr ei law a rhedeg trwy lwybrau’i groen. Hedfanodd Mari, ond yn wahanol i aderyn, doedd hi ddim yn rhydd. Hedfannodd yn syth i mewn i’r haul, fel gwyfyn yn gweld glain berlaidd yn y nen, yn ymddiried yn ei disgleirdeb. Ond dim goleudy oedd Ed; llosgi a difa oedd ei fwriad ef, ei difetha i ddim. Yn haul, yn denu â’i brydferthwch – ond yn ei denu i’r düwch; fel haul y nos.

     Aeth at y drws, yn golygu mynd, cyn dychwelyd trannoeth i ailadrodd y diflastod prysur. Yn y ffenestr, roedd adlewyrchiad ei wyneb yn ei wylio. Gwallt gwyn a llygaid tywyll, yn ddau ogof o atgofion tywyllach. Ochneidiodd, wrth feddwl, er i’w fab edrych mor debyg iddo, roedd Ed yn perthyn i wahanol hil, un o ddiafoliaid a bwystfilod, lle llosgant yn nhân eu sigarennau.

Goleudy Gwag

“Gallwn i wedi dy garu.”

Chwyrliai’r gwynt y tonnau, ewinedd main yr ewyn yn crafu’r creigiau, y papur yn chwifio tra criai wagle’r nefoedd fel ceg fawr dywyll, yr aflefain yn adleisio’r anobaith mud a rewai Cwnstabl Carys Medi ar ddibyn y clogwyn. Y sêr wedi dianc o’r fan drosedd fel tramgwyddwyr euog, gan adael awel y môr i halltu’r clwyf yr holltai ei chalon.

“Ond mae dy anwybodaeth yn taflu halen ar y briw o hyd.”

Ysgeintiodd briwson o wydr ei hesgidiau trwm, adfeilion botel o wirod yn pefrio’n las yng ngolau cryf y car heddlu wrth iddo droelli fel lamp goleudy dros y môr rhyfelgar. Yn troelli mor wyllt a direolaeth â meddwl Carys, fel y golau a dywalltai tonnau glas dros y storom a gorddai brig y traeth caregog. Nid oedd glaw i guddio’i dagrau, na chymylau i rwymo archoll du yr awyr. Trywanodd udo’r gwynt y nos. Cofleidiadau’r môr yn cnoi ar heddwch ei hunllef, fel y geiriau olaf y clywodd Carys wrth ei merch.

     Mae’n deimlad atgas, ystyriodd Carys, y troi a throi a dim byd i arafu’r llithro anochel i lawr geudod corwynt mawr ble mae sgrechfeydd y gwynt yn eich mygu. Ai fel hyn teimlodd Efa yn ystod ei chwymp anochel dros y dibyn o iselder?

“Dim ond tegan newydd oeddwn i ti. Ond flinaist erbyn y diwedd gyda fi. Doli ddiraen wedi gweld dyddiau gwell a gafodd ei thaflu i’r sbwriel.”

I arbed ei hwyneb o grib y gwynt, cyfeiriodd Carys ei hwyneb tuag at ei char heddlu, a chafodd ei dallu gan y golau llachar. Doedd dim goleudy wedi bod i arwain Efa, dim ond un i’w llosgi.

     Cilwenodd toriadau dwfn ar groen gwyn garddynau Efa, gwaed yn eu glafoerio’n rhwdlyd yn llygaid meddwl Carys. Pob clwyf yn gwawdio Carys, yn dystiolaeth o’i methiant fel mam, fel swyddog heddlu, fel gwarchodwr. Syllodd ar y golau glas yn mynd mynd mynd, a sylwodd na fyddai hyd yn oed gras Duw wedi achub ei merch. Oherwydd roedd Efa wedi bod yn dioddef, adlewyrchodd Carys yn edifeiriol, ei chalon yn torri unwaith eto. Roedd y boen wedi bod yn amlwg yn y sachau duon y crogodd oddi tan lygaid crwn ei merch. Llygaid fel dau fôr, dau fôr nad oedd neb wedi croesi o’r blaen, dyna pha mor ddiniwed a chlir oedden nhw. Fel dau ddarn o fôr yng nghanol unman, llawn dirgel a chyfrinachedd. Nid fel y môr hwn, gyda’r creigiau danheddog yn hollti’r tonnau’n glwtyn rhacs, edefau’r ewyn yn creu cylymau anhrefnus ar wyneb dirboenus y môr.

“Does dim ffordd o bwytho’r rhwygiadau’n ôl gydag edau pan raflodd lafn miniog dy ddifaterwch fy synnwyr yn rhubannau.”

     Yr unig las gwelai Carys oedd glas llachar, artiffisial y golau heddlu, yn pefrio’n goeglyd dros ei hartaith, yn ymyrryd ar ei thrallod sur. Petai hi wedi sylwi ar lygaid Efa’n llwydo, y salwch yn gorffwys yn y rhychau o amgylch ei llygaid mawr, a fyddai noson Cwnstabl Medi wedi terfynu’n wahanol? Wedi terfynu gydag Efa’n llefain dros ei thorcalon cyntaf â bachgen ar ysgwydd Carys, yn hytrach na’r noson ei hun yn crio mewn ing am golled calon gyfan. Dwy galon, meddyliodd Carys yn ddifywyd, y gwacter yn ei bron oddi tan ei siaced ddu, wrth-fwled yn ei hatgoffa nad oedd wir ffordd o fyw heb gariad.

“Roedd dy chwerthin fel alaw, a dy wên yn berffaith. Ond dydyn nhw ddim yn foddion i’r creithiau sy’n gwingo o hyd.”

     Onid yw’r geiriau poenus hyn yn llawysgrifen ei merch ar bapur wedi’i staenio gan ddagrau yn destun o’i methiant? Oedd, roedd Efa bob amser wedi mwynhau barddoni, cofnodi’i meddyliau mewn penillion blodeuog, fel petai hi’n arddwr yn plannu hadau’i theimladau. Ond draen oedd wedi ffynnu allan o’r rhychau oedd hi wedi’u haredig.

“Roeddwn i’n ddigon da i bwyso arno, ond baich oeddwn i’n ddiweddar. Cadwynau fy nghariad yn dy garcharu i’r ferch anghywir. Ond rwy’n gwybod hynny nawr.”

Cariad. Carys. Dyna oedd gwreiddyn ei henw, yn enw’r Tad! Pigodd dafnau o ddagrau ei llygaid, a thynnodd ei llewys yn galed dros ei hwyneb, y croen yn llosgi mewn cywilydd ac oerfel. Roedd Efa wedi haeddu gwell, cydsyniodd yn swta iddi hi’i hun, gan geisio llyncu’i phoen fel petai mor syml â llyncu dŵr; ond mae llyncu’r gwir yn heriol. Roedd y drasiedi fel un talp mawr o rwystr, a’n ei thagu, er ni fyddai torri’r realiti’n dameidiau’n ei gwneud yn rhwyddach i’w threulio. Bydd malu’r noson ddychrynllyd honno mewn i friwson yn waeth fyth, achos yna fyddai Carys yn medru blasu pob elfen chwerw o’r pryd. Cariad. Pe bai wedi teimlo hwnnw’n fwy, a’i ddangos yn amlach, a fyddai hynny wedi bod yn ddigon i achub merch fach wedi’i brifo?

“Glas fy nhristwch a choch fy nghariad mewn pleth taclus. Ond doedden nhw ddim wedi llwyddo i’n huno, dim ond fy nghrogi.”

     Nid oedd Carys hyd yn oed wedi cwrdd â’r crwtyn ifanc o’r blaen, dim ond clywed rhyw enw’n cael ei blethu ag addoliant, a’i wedd yn cael ei gymharu ag angel. Gogwyddodd Carys ei phen i fyny, yn chwilota am seren i’w sicrhau bod ei merch wedi gafael ei lle yn y tywyllwch o’r diwedd. Ond roedd yr awyr yn wag, y tirlun yn noeth, y gorwel yn aneglur heibio dyrnau dinistriol y tonnau; y llanw a’r trai yn arwyddo dadfeiliad amser, ond roedd Carys o hyd yn byw’n y noson boenus honno .

     Ystyriai ei charwraeth bresennol, gan oedd hi’n ifanc o hyd, er yn rhiant i ferch un r bymtheg oed. Oedd yn rhiant. Sgathrodd gewin y gwynt lawr asgwrn ei chefn wrth i’r gwir ei tharo. Clywai sibrwd yr awel yn dweud enw ei chariad, a’r nefoedd melfed yn gynnes ar ei gwar fel braich ei sboner. Nid yr anialwch hynny oedd yn ei hwynebu hi, yr anobaith llwyr hynny o fethu â wynebu yfory heb sŵn ei lais i’w dihuno. Cariad gwahanol oedd yr un a swynodd ei merch fregus i gysur bachgen digon cras i’w chwalu. Cariad amgen roedd hi wedi gorfod medi ym merllan arall oherwydd roedd ei milltir sgwar hi ddim wedi cynnwys Carys Medi yn ystod y cyfnodau a gyfrai.

“Does dim hyd yn oed dy wên i lywio fy ffordd, nawr, ac felly rwy’n baglu o hyd dros anafiadau’r berthynas hon, pob crachen yn rhythu’n goch arnaf wrth i mi geisio gafael fy lle yn y duwch llethol sy’n tyfu allan o dwll fy nghalon. Bedd ein cariad.”

Teimlodd Carys roedd hi wedi bod yn meithrin gormod o berthynas gyda’i gwaith i ofalu am ei merch; a’r oedd hi wedi esgeuluso un ddyletswydd er mwyn cyflawni’r un arall? Neu’n waeth, a oedd hi wedi bod yn dilyn cariad arall yn hytrach na bodloni ar fod yn fam dda i Efa? Onid oedd y ddwy wedi bod yn hapus? Wedi dod i’r traeth hwn hyd yn oed, blynyddoedd yn gynt, yn ffrindiau gorau, gyda llaw Carys yn ddigon i Efa, y cyfan roedd Efa wedi angen ar gyfer cerdded ar drywydd enbydus bywyd. Pryd dechreuodd i gyllell, sisiwrn ewinedd, ellyn fod yn gymar iddi – pryd dechreuodd rhyw fachgen, hefyd?

“Heno, nawr, eto, rwy’n aredig y rhychau hyll sy’n croesi ar draws nadroedd fy nghwythiennau amryliw – glas a choch.”

Efa fach wedi gorfod medi ei chnawd i fedi unrhyw deimlad; crafiadau a grafai ar galon Carys.

“Rwy’n treiddio’r croen, tro ar ôl tro...”

Roedd y gwynt wedi marw, a llenwodd llais ei sboner ei chlustiau; ysodd i ag ef, i bwyso ar ei ysgwydd ... ysgwydd arall i gynnal ei baich. Ond roedd ei dwylo wedi fferru, dim wedi symud ers oriau, un llaw yn magu’r radio a ynghanodd yr argyfwng echddoe, tra roedd Cwnstabl Medi yn y cyfamser wedi bod yn rhoi dirwy cyflymu i ryw grwtyn anaeddfed yn y dref agosaf ... Roedd y radio’n angor i’w synnwyr, yn gadwyn frau y cysylltai gyda’i hangel annwyl. Byseddai’r llaw arall nodyn blêr roedd Carys wedi crafangu allan o berfedd y botel wirod – y tirnod estron cyntaf sylwodd Carys arno yng nghanol y tryblith hwnnw cyn i’w chyd-weithwyr ei herlid oddi yno. Ond doedd neb arall wedi sylwi ar y botel ddiymhongar.

     Y noson honno. Yr holl ffordd draw i’r traeth, rhedodd lif o atgofion trwy’i meddwl, pob un gydag Efa ac hithau ar y traeth hwnnw, yn mwynhau haul yr hafau hir gyda bwced a rhaw a digon o hwyl. Gwyliodd Carys yr un haul yn codi nawr, dros deilchion ei bywyd. Darn allan o ddyddiadur Efa oedd y neges yn y botel, gyda’r inc wedi rhedeg a’r papur wedi plygu’n anniben; rhacsodd Carys y botel i gyrraedd y papur gwerthfawr. Elfen arall o Efa oedd wedi gorfod cael ei niweidio i gyrraedd y craidd.

     Toddai’r awyr yn goch i mewn i lafn glas y môr llyfn, y wawr wedi cropian fel achlys oer dros ysgwyddau crynedig Carys, y gorwel yn glais. Yr un lliw oddi tan lygaid Efa pan lusgon nhw fabi Carys allan, ei gosod ar y traeth, ei lapio gyda blanced. Ei gwthio mewn i sach. Doedd dim ceir heddlu ar ôl i dystio’r olygfa hon, y gwasanaethau argyfwng wedi hen faglu o’r lle dwy noson ynghynt er mwyn gwneud y gwaith papur priodol. Petai’n fyd delfrydol, myfyriai Carys yn ddideimlad, yr unig orchwyl fyddai wedi bod gan hithau fyddai llenwi gwaith papur; nid y gorchwyl anorchfygol o fyw mewn byd heb ei merch fach. Fyddai hi ddim wedi dychwelyd yn oriau mân y bore i geisio gweld ysbryd ei merch, chwaith.

“Gwaed yn hedfan fel dagrau  wrth i fi sarnu fy hun yn glytwaith afiach, fel doli glwt sydd wedi gweld dyddiau gwell.”

     Llusgodd Carys ei llygaid lluddedig i weld y môr yn torri dros gerrig y traeth cul islaw; y tonnau’n llwydaidd yn yr hanner golau, fel llafnau miniog. Amrantiodd Carys, a gwelodd gorff ei merch yn cael ei chodi o ddyfnderoedd y dŵr garw y noson erchyll honno, yn edrych fel rhywun yn cael ei bedyddio: ei geni eto. Agorodd ei llygaid yn drwm, dagrau’n llaith ar ei hamrannau, a sathrodd y gwydr yn fân dan ei sawdl; fel hyn ymdriniodd Duw â’m Efa fach i, synfyfyriodd yn chwerw, y gwynt a’r môr a’r gwaed yn rhuo’n swnllyd yn ei phen, gan lethu’r ymyrriant oedd wedi bod yn chwarae’n ei chlustiau, fel ei radio heddlu, ers yr alwad dyngedfennol honno...

     Dychmygodd wyneb gwelw Efa ar lan y môr y noswaith honno, ei llygaid agored yn llaith gyda dagrau na fyddai’n tywallt i gusanu’i bochau marblaidd. Cododd yr hŵd yn llymsur i’w cheg, corff briwiedig Efa yn ddelw wedi serio o flaen ei llygaid, un gragen arall i’r tonnau falu –

“Roeddet ti’n fodlon fy agor i fyny, un betalen ar y tro, i fy ngweld i’n blodeuo’n lliwiau perta’r gwanwyn; fel glas clychau’r gog a choch y rhosod.”

     Ysgubodd yr awel dros y clogwyn, a cheisio plyfio’r nodyn allan o afael tynn Carys. Nid oedd hi wedi gorffen darllen geiriau olaf ei merch, eto.

“Ond pan oeddwn i’n dangos fy ngwir liwiau, dim ond sbwriel oeddwn. Er mwyn hepgor. Doli ail-law.”

     Saethodd teulu o wylanod i’r pellter, yn feflau du dros yr awyr welw, ac edifeiriodd Carys mai’r teuluoedd hapusaf oedd bob amser yn cael cam anffodus fel hwn; mai’r teuluoedd agosaf oedd yn chwalu. Roedd hi wedi gweld digon o fywydau domestig yn dymchwel i ddeall y gofod sydd ar ôl; y llanw byth yn dod ‘nôl i gwrdd â’r trai. Ond roedd ganamlaf rhyw ddrwg yn y caws yn rhywle ... O ie, cofiodd Carys, y dudalen frith yn crychu’n ei llaw, y bachgen di-enw hwnnw’n tywyllu’r bore oeraidd iddi. Angel penffordd, diafol pentân.

“Mae’r fflam wedi marw, a thithau wedi ymddeol fel fy ngoleudy. Y tywyllwch yw fy ffrind, nawr.”

     Dihangodd y dagrau, er ei hamharodrwydd ystyfnig i blygu dan ormes ei galar, ac wrth gwympo i’r gwlith, hedfannodd y nodyn ar adain finiog y gwynt – fel angel – a gydag un olwg ddifywyd ar y clogwyn serth, brysiodd Carys yn ôl i loches ei char heddlu. Nid oedd hi’n ddig am beidio â darllen y frawddeg olaf, oherwydd iddi glywed digon yn ei barn hi. Dim ond Dion, ei sboner, byddai’n gallu’i chysuro hi nawr, fel goleudy dibynadwy i’w thywys yn ôl trwy’r storom hinllefus hwn.

     Dim ond Dion, beth bynnag, oedd ar ôl.

“Rwy’n fyddar i fy llefain a’n ddall i fy ninistrio – fel oeddet ti, Dion annwyl.

 

Awst