Enillydd Gwobr Dathlu’r Darlithydd, Rhian Wyn Griffiths, a’r myfyriwr a’i henwebodd, Gronw Ifan, yn rhannu eu hangerdd dros feithrin y genhedlaeth nesaf o athrawon Cymraeg.
Wrth dderbyn ei gwobr yn noson wobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol llynedd, dywedodd Rhian:
“Does dim un swydd yn debyg i ddysgu. Does dim un swydd arall sy’n cyffwrdd â phobl yn yr un ffordd, sy’n newid bywydau, sy’n gwneud gwahaniaeth.”
Merch o Fae Colwyn ydy Rhian, ac mae wedi ymroi am yn agos at ddeg ar hugain o flynyddoedd hyd yn hyn i’r maes addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Bu’n athrawes ac yn bennaeth adran y Gymraeg yn Ysgol Llanhari, yn ddirprwy Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg am 17 o flynyddoedd, ac mae hi wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r iaith Gymraeg yn y sector addysg uwch, i bolisi cyhoeddus, ac i fywydau bobl ifanc yn ne ddwyrain Cymru.

Erbyn hyn, mae Rhian yn gweithio fel Uwch-ddarlithydd yn adran Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gwobrwywyd hi gan y Coleg Cymraeg am ei gwaith arbennig yn meithrin y genhedlaeth nesa o athrawon. Meddai:
“Mae dysgu yn rhoi pwrpas i mi. Mae bywyd yn gallu bod yn galed, ond mae bod yng nghwmni pobl ifanc o ddydd i ddydd yn codi calon.”
Mae Gwobr Dathlu'r Darlithydd yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol.
Dywedodd Gronw Ifan, un o’r myfyrwyr a enwebodd Rhian tra oedd yn hyfforddi fel athro, sydd erbyn hyn wedi derbyn swydd athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern:
“Roedd Rhian yn fentor i mi, roedd hi’n llawn egni a charisma yn darlithio, ond eto roedd hi’n famol ac eisiau i ni gyd i lwyddo.
“Mae pawb yn y sector addysg wedi clywed am Rhian Wyn Griffiths a’r effaith hir-dymor mae hi wedi ei gael ar ysgolion, staff, disgyblion, a myfyrwyr.
“Roeddwn i’n lwcus iawn i'w chael hi fel darlithydd, a byddaf yn sicr yn ceisio fy ngorau glas fel athro i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn fy swydd newydd, fel y gwnaeth hi wahaniaeth i mi.”
Dywedodd Rhian:
“Mae gweld cyn-fyfyrwyr yn ffynnu yn eu gyrfaoedd yn rhoi llawer o foddhad i mi. Mae gweld brwdfrydedd Gronw a’i angerdd tuag at ddysgu a thuag at yr iaith Gymraeg yn gysur bod y dyfodol mewn dwylo saff.”
Ychwanegodd Gronw:
“Mae’r diolch i Rhian a’i harweiniad arbennig. Os oes angen rhywun i arwain Cymru at filiwn o siaradwyr erbyn 2050, rhowch Rhian yn gapten y llong!”
Os ydych chi’n fyfyriwr ac yn awyddus i enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth arbennig i’ch bywyd yn y brifysgol, mae enwebiadau yn agor ar gyfer Gwobrau 2025 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar 31 Ionawr 2025.
Mae nifer o wobrau eraill wedi eu sefydlu mewn gwahanol feysydd ac mae cyfle gan fyfyrwyr, darlithwyr, a chyflogwyr (yn y maes prentisiaethau) i enwebu unigolion ar gyfer amrywiaeth o gategorïau.
I weld y rhestr lawn o gategorïau, y canllawiau, ac i ddod o hyd i'r ffurflen enwebu, ewch i'r adran 'Gwobrau' ar wefan y Coleg Cymraeg
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrau yn nhymor yr haf.
Ewch i gyfrifon Instagram, Tik Tok, Linked In neu Bluesky y Coleg Cymraeg i weld cynnwys ar y gwobrau, ac ewch i wefan y Coleg i ddarllen mwy.