Skip to main content Skip to footer
9 Awst 2023

Sefydlu Cronfa Llŷr er cof am Dr Llŷr Roberts

ADD ALT HERE

Mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor a theulu’r diweddar Dr Llŷr Roberts a fu farw ym mis Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu Cronfa Llŷr er cof amdano. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gefnogi myfyrwyr addysg uwch gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg. 

Roedd Llŷr yn un o’r darlithwyr cyntaf i gael ei benodi i swydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg, ac aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac i genhadaeth ehangach y Coleg dros y blynyddoedd, a hynny fel addysgwr, awdur a chyfathrebwr.

Fel darlithydd cyfrwng Cymraeg yn y maes Busnes, derbyniodd Llŷr ganmoliaeth genedlaethol am ei waith a llynedd fe enillodd wobr ‘Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol’ gan y Coleg am ddatblygu’r e-lyfr cyntaf yn y maes marchnata yn yr iaith Gymraeg. 

 

Yn ôl Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg oedd wedi cydweithio gyda Llŷr am dros ddegawd:

"Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i’w gydweithwyr ac i’w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl. 

"O fewn cymuned y Coleg roedd y newyddion am ei farwolaeth sydyn yn anodd iawn i'w ddirnad; mae nifer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr ond mae sefydlu’r gronfa hon yn rhoi cyfle i ni sianelu’r golled honno i rywbeth cadarnhaol fydd yn cefnogi myfyrwyr – dwi’n ffyddiog y byddai Llŷr wedi bod yn falch o hynny.

“Ryn ni’n ddyledus iawn i deulu Llŷr am eu cefnogaeth tuag at y Coleg ar adeg mor anodd a hefyd i Brifysgol Bangor a’r Eisteddfod Genedlaethol sydd hefyd wedi colli ffrind a chydweithiwr annwyl iawn.”

 

Meddai chwaer Llŷr, Lowri Gwyn:

“Fel teulu dymunwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am sefydlu cronfa i gofio Llŷr.

“Roedd Llŷr yn fab, brawd ac yncl annwyl ac arbennig iawn. Mae’n gysur gwybod bod ei gydweithwyr, ei fyfyrwyr a’i ffrindiau hefyd yn meddwl y byd ohono.”

Meddai Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor:

 

“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei ofal dros ei fyfyrwyr a’i sêl dros addysg Gymraeg yn amlwg i bawb. Mae’n briodol iawn felly bod y gronfa hon yn cefnogi’r hyn oedd mor agos at ei galon.”

 

Gellir trosglwyddo cyfraniadau i gyfrif banc y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

Cod didoli: 20-18-54

Rhif cyfrif: 43768945

Nodwch “Cronfa Llŷr” fel cyfeirnod wrth wneud cyfraniad.

Byddwn yn ddiolchgar os medrwch ddanfon e-bost at Emyr James, Prif Swyddog Cyllid y Coleg (e.james@colegcymraeg.ac.uk) i dynnu ein sylw at eich cyfraniad.

Dylid anfon sieciau yn daladwy i’r ‘Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ drwy law Emyr James at Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.