Skip to main content Skip to footer
24 Mawrth 2023

Nofel graffig gan fyfyriwr PhD y Coleg wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2023

ADD ALT HERE

Mae Dr Wyn Mason, sydd wedi cwblhau PhD yn y Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau llyfrau plant, Tir na n-Og 2023 am ei nofel graffig, Gwlad yr Asyn.

Cafodd y rhestrau byr ar gyfer oedran uwchradd ac ar gyfer oed cynradd eu cyhoeddi yn fyw ar raglen Heno, S4C, nos Iau, Mawrth 23, ac roedd Dr Mason wrth ei fodd i glywed fod ei nofel graffig, sy’n seiliedig ar ei ddrama lwyfan o’r un enw, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori uwchradd.

Yn ystod yr un wythnos, yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg a gynhaliwyd yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar nos Fawrth 21 Mawrth, derbyniodd Wyn dystysgrif am gwblhau ei PhD yn y Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg.

Dywedodd, 

“Mae wedi bod yn wythnos brysur a chyffrous rhwng dathlu derbyn fy noethuriaeth dan nawdd y Coleg Cymraeg yn y Cynulliad blynyddol a chlywed fy mod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og. Llwyddais i ysgrifennu’r ddrama Gwlad yr Asyn, a gafodd ei lwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru, wrth astudio am fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Ges i gyfle amhrisiadwy i ddatblygu fy sgiliau fel dramodydd ac awdur wrth astudio a, diolch i gefnogaeth y Coleg Cymraeg, dw i nawr yn awdur proffesiynol.”

 

Llun Dr Wyn Mason

Perfformiwyd fersiwn lwyfan o Gwlad yr Asyn yn Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron llynedd. Ei ferch Efa Blosse-Mason sy’n animeiddwraig ac yn ddylunydd roddodd yr ysbrydoliaeth iddo i greu nofel graffig, a hi sy’n gyfrifol am ddyluniadau’r nofel.

Cyhoeddwyd y nofel gan Gwasg Carreg Gwalch yn Hydref 2022.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru ac maent yn dathlu’r straeon gorau o Gymru a’r straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2022. Bydd enillwyr y categorïau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Iau, Mehefin 1 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin. Mae’r rhestr fer gyflawn ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru

Gellir gwylio Dr Wyn Mason a gweddill y myfyrwyr PhD yn derbyn eu tystysgrifau yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ar dudalen You Tube y Coleg.

Clawr Gwlad yr Asyn