Enillydd Gwobr Bafta Cymru sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiolchgar i addysg uwch cyfrwng Cymraeg am agor drysau.
Yn ogystal â chael ei gwobrwyo am dderbyn y marc terfynol uchaf ar raglen Cysylltiadau Rhyngwladol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, dros y tair blynedd diwethaf, mae Emily Pemberton, 21, o Grangetown wedi cael llwyddiant y tu hwnt i’r brifysgol hefyd gan gynnwys derbyn Gwobr Bafta Cymru am gyfrannu at raglen S4C, 'Pawb a’i Farn: Black Lives Matter'.
Mewn fideo ar dudalen YouTube y Coleg Cymraeg sy'n trafod manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, dywedodd Emily y byddai ei llwybr mewn bywyd wedi bod yn wahanol iawn pe na bai ei mam wedi penderfynu ei hanfon i ysgol Gymraeg. Ers gadael Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, mae Emily wedi parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac mae hi’n awyddus iawn i annog pobl eraill i fanteisio ar yr un cyfleoedd a dderbyniodd hi.
Islaw, mae Emily yn adlewyrchu ar ei chyfnod yn y brifysgol a’r ffaith y bu i un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar yr Unol Daleithiau, sef llofruddiaeth George Floyd, ac adfywiad y mudiad Black Lives Matter, ddigwydd pan yr oedd hi yn ei blwyddyn gyntaf. Mae’n siarad yn agored iawn am effaith emosiynol y digwyddiad erchyll hwn a sut y gwnaeth hyn sbarduno pwnc ei thraethawd hir.
Cwestiwn ac Ateb:
Sut brofiad oedd byw drwy adfywiad Black Lives Matter?
Nid yw’r profiad wedi bod yn hawdd oherwydd mae gweld a darllen sgyrsiau am hiliaeth bob dydd wedi bod yn anodd ar lefel emosiynol. Yn bersonol, mae wedi bod yn un o gyfnodau mwyaf anodd fy mywyd ond, ar yr un pryd, dwi wedi cael nerth gan y dorf o bobl ar draws y byd oedd yn protestio. Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl ifanc allan ar y strydoedd yn sefyll ar eu traed i ddweud digon yw digon.
Pam oeddet ti’n awyddus i ysgrifennu am y pwnc ar gyfer dy draethawd hir?
Dwi wedi bod â diddordeb enfawr yn y mudiad Black Lives Matter ers protestiadau Ferguson yn 2014. Mae rhai yn meddwl bod y mudiad yn un newydd a gafodd ei sefydlu yn 2020, ond mae wedi bodoli ers blynyddoedd, a dim ond nawr mae pobl wedi dechrau cymryd sylw. Roeddwn yn awyddus i wneud archwiliad i’r protestiadau a ddigwyddodd yng Nghymru yn benodol oherwydd roedd gymaint o sylw, positif a negyddol. Roeddwn yn awyddus i ddadansoddi sut y mae mudiad Black Lives Matter yn cyd-fynd â’r strwythurau yn gyffredinol yng Nghymru, yn ogystal ag edrych i’r dyfodol.
Disgrifia dy fagwraeth
Cefais fy magu yn Grangetown yng Nghaerdydd, a chefais i blentyndod hapus iawn yn llawn ffrindiau da. Roeddwn wastad yn brysur yn gwneud gwahanol hobïau, a dwi dal i fod yn brysur heddiw!
Pam ges di dy ddenu i aros yng Nghaerdydd i astudio yn y brifysgol, ac i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Dwi’n gartrefol yng Nghaerdydd a doedd dim awydd gen i fynd yn rhy bell achos mae gymaint o bethau i’w gwneud yn y ddinas. Hefyd, mae’r brifysgol yn un dda. Ar y dechrau, nid oeddwn 100% yn siŵr os oeddwn am barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ond dwi mor falch y gwnes i! Erbyn y flwyddyn olaf, astudiais i 50% o’r modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg ac erbyn hyn dwi’n gwneud gradd meistr yn astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ac yn gwneud ymchwil i’r brifysgol.
Pa gyfleoedd ychwanegol wyt ti wedi eu derbyn tra’n astudio yn y brifysgol?
Dwi wedi cael llawer o gyfleoedd y tu hwnt i’r brifysgol yn cynnwys gweithio'n rhan amser i Mudiad Meithrin, a chwmni Deryn yn gwneud gwaith monitro gwleidyddol. Yn ogystal â hyn, dwi wedi bod yn rhan o dîm cynhyrchu ac yn gyfrannydd ar raglenni S4C, 'Terfysg yn y Bae', a 'Pawb a’i Farn: Black Lives Matter', a ennillodd Wobr Bafta Cymru y llynedd. Roeddwn mor falch fod y pwnc pwysig wedi derbyn cydnabyddiaeth yng Nghymru, a braint oedd derbyn y wobr ar y noson a oedd yn golygu llawer i fy nghymuned i. Dwi mor ddiolchgar am y cyfleoedd dwi wedi'u derbyn hyd yn hyn a dwi’n dechrau sylweddoli bod pob dim dwi wedi ei gyflawni wedi digwydd drwy’r Gymraeg. Rwy’n gweithio drwy’r Gymraeg, yn cymdeithasu drwy’r Gymraeg, ac yn astudio drwy’r Gymraeg. Mae’n glir iawn bod fy llwybr i mewn bywyd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn wahanol iawn i fy ffrindiau i sydd ddim yn medru’r iaith.
Beth sydd yn dy ysbrydoli di?
Y gymuned yn Grangetown.
Beth yw dy uchelgais i’r dyfodol?
Hoffwn wneud ychydig mwy o ymchwil ar hil a lliw croen yng Nghymru. Ond fy nyhead mwyaf yw bod yn hapus ac yn iach.
Beth sydd yn dy wneud yn hapus?
Coffi du a siocled da.
Beth sydd yn dy wneud yn grac?
Pobl sy’n cerdded yn araf!
Beth yw’r wlad orau rwyt ti wedi teithio iddi?
Ghana.
Oes gen ti gyngor i ddisgyblion ysgol sy’n ystyried astudio eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg?
Cer amdani a phaid â gorfeddwl y peth! Gei di ddigonedd o gyfleoedd, a’r sgìl gwerthfawr o allu trafod dy bwnc arbenigol yn ddwyieithog. Dwi’n edrych ymlaen i’r dyfodol i fyw bywyd dwyieithog a hoffwn barhau i brofi fod unrhywbeth yn bosib drwy siarad Cymraeg.
Gwyliwch fideo o Emily ym mhrotestiadau Black Lives Matter yng Nghaerdydd yn 2020 pan oedd hi yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.