Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Wrth ymateb i’r newyddion trist am farwolaeth Gareth Pierce, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:
“Mae’r newyddion am farwolaeth sydyn Cadeirydd Bwrdd y Coleg, Gareth Pierce, wedi ein tristhau’n ddirfawr. Ar ran staff ac aelodau Bwrdd y Coleg, hoffwn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at wraig Gareth, Lynwen, a’i feibion, Gwyn a Siôn, yn eu colled.
“Gwnaeth Gareth gyfraniad aruthrol i'r Coleg, yn enwedig dros y deunaw mis diwethaf a braint oedd ei adnabod. Roedd yn ŵr bonheddig a deallus a byddwn yn gweld eisiau ei gyngor a’i arweiniad doeth.”
Bydd cyfle maes o law i ddod at ein gilydd i gofio a dathlu cyfraniad Gareth i’r maes addysg yng Nghymru ac yn y cyfamser byddwn hefyd yn rhannu teyrnged lawn gyda chi.