Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn nodi gyda thristwch y newyddion am farwolaeth un o gymrodyr y Coleg, yr Athro Brynley Roberts. Bu’r Athro Roberts yn ysgolhaig disglair a wnaeth gyfraniad enfawr i’w maes, ac yn Llyfrgellydd Genedlaethol a bu’r Coleg Cymraeg yn falch iawn o ddyfarnu cymrodoriaeth er anrhydedd iddo yn 2017.
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg: ‘Estynnwn pob cymdeimlad i deulu Bryn Roberts – a hynny gan gofio ei gyfraniad enfawr i ddysg yn y Gymraeg a’i waith fel Llyfrgellydd Genedlaethol. Roedd yn cyfuno disgleirdeb ac hynawsedd, bob tro yn barod ei gymwynas, ac yn gefnogol eithriadol i academyddion ifanc a myfyrwyr ar draws y cenedlaethau. Coffa da iawn amdano.’