Skip to main content Skip to footer
21 Mawrth 2023

Urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am gyfraniad oes at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg

ADD ALT HERE

Noson i urddo Cymrodyr ac anrhydeddu myfyrwyr am gyflawni PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg, gan gynnwys Dr Gareth Bonello a Dr Aneirin Karadog

Perfformiadau byw gan gôr Ysgol Hamadryad a’r cerddor Dr Gareth Bonello.

Ar nos Fawrth 21 Mawrth yn adeilad y Tramshed, Caerdydd, yn ystod degfed Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd yr ysgolhaig dylanwadol, yr Athro Sioned Davies, cyn-Gadeirydd y Coleg, Dr Haydn Edwards, a chyn Is-Gadeirydd y Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg, Delyth Murphy, yn cael eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd y Coleg am eu cyfraniad oes tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg.

Gwylio'r Cynulliad ar YouTube
Yr Athro Sioned Davies

Bydd yr Athro Sioned Davies yn derbyn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad dros bron 40 mlynedd i ddysgu ac ymchwilio fel academydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys 20 mlynedd yn bennaeth ar yr ysgol hyd ei hymddeoliad yn 2019.

Sioned oedd hefyd y fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â swydd athro prifysgol ym maes y Gymraeg. Meddai Sioned, sydd hefyd wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol am ei chyfieithiad Saesneg o’r Mabinogion,

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg am yr anrhydedd bersonol. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael cyfleoedd arbennig yn ystod fy ngyrfa, a heb gefnogaeth staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, byddai wedi bod yn anodd iawn cyflawni unrhyw beth. Edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio â’r Coleg a chyfrannu at y gwaith aruthrol sy’n cael ei wneud ganddynt.”

Bydd y gymrodoriaeth yn cydnabod ei blaengaredd academaidd a’i chyfraniad dros flynyddoedd lawer i Gymru, ac addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt.

Delyth Murphy

Hefyd ar y noson, bydd Delyth Murphy yn cael ei derbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am ei chyfraniad sylweddol tuag at addysg uwch tra’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu’r maes Ehangu Mynediad a Dysgu Gydol Oes. Cyflwynir y gymrodoriaeth i gydnabod ei hymrwymiad i wella profiad dysgwyr ac i ehangu cyfleoedd dysgu i bawb, o bob oedran a chefndir.

Meddai Delyth:   

“Gwaith tîm yw fy ngyrfa i wedi bod: tîm Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor, tîm y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a thîm bychan y Ganolfan Ehangu Mynediad yn y Brifysgol nes i mi ymddeol. Felly, gyda mawr ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr anrhydedd arbennig hon, hoffwn ei chyflwyno i’r holl rai y mae’n fraint i mi fod wedi bod yn rhan o’u taith drwy addysg.”

Dr Haydn Edwards, cyn-gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd y trydydd person i dderbyn cymrodoriaeth ar y noson. Bu’n rhan allweddol o sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a dyfernir y gymrodoriaeth am ei gyfraniad i ddatblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond hefyd i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Dr Haydn Edwards

Meddai Haydn:

"Profiad annisgwyl a braf iawn oedd cael fy ngwahodd i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyma sefydliad sydd wedi gwneud cymaint mewn amser cymharol fyr i drawsnewid addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion ac sydd nawr yn sefydlu patrwm cenedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Bu'n fraint cael bod o wasanaeth i'r Coleg fel Cadeirydd am gyfnod ac rwy'n trysori'r anrhydedd hon yn fawr iawn. Dymunaf bob llwyddiant i'r Coleg fel mae'n datblygu ymhellach".

Bydd y tri yn cael eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd fel rhan o Gynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg yn adeilad y Tramshed yng Nghaerdydd ar nos Fawrth, 21 Mawrth.

Anrhydeddu PhDs

Fel rhan o’r noson, bydd cyfle hefyd i anrhydeddu a chyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn eu plith mae’r cerddor enwog, Dr Gareth Bonello, sydd wedi cyflawni ei ddoethuriaeth mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn ymchwilio cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Cymru a chymuned Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India. Bydd Gareth hefyd yn perfformio ar y noson.

Meddai:

“Cefais brofiad ysbrydoledig a chyfoethog wrth astudio am fy noethuriaeth. Braint prin oedd cael yr amser a’r gefnogaeth i archwilio pwnc pwysig a hynod ddiddorol yn fanwl, felly dwi’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg. Mae cwblhau fy astudiaethau yn gamp yr wyf yn falch ohono ac rwyf wrth fy modd bod fy nghysylltiad â chymunedau Khasi wedi parhau i dyfu ers i mi raddio. Dwi’n obeithiol y bydd fy ngwaith yn gam bach positif sy’n helpu i ddod a llawer mwy o gydweithio rhwng artistiaid ac academyddion Cymraeg a Khasi yn y dyfodol.”

Bydd y bardd, cyflwynydd a’r cerddor, Dr Aneirin Karadog hefyd yn derbyn ei dystysgrif am gyflawni doethuriaeth yn y Gymraeg. Meddai:

“Byddaf yn fythol ddiolchgar i'r Coleg Cymraeg ac Adran Gymraeg, Prifysgol Abertawe, am y cyfle i ymgeisio am radd Doethur mewn ysgrifennu creadigol. Daeth y cyfle ynghlwm wrth gymaint o agweddau cadarnhaol, o ran cyfle i fynd yn ôl i'r byd academaidd. Roedd cael mynychu cyrsiau a chynadleddau fel rhan o'r Ysgoloriaeth a dderbyniais hefyd yn amhrisiadwy, o greu ffrindiau newydd i gael rhannu a dysgu am brosiectau ymchwil a holl waith arloesol y Coleg Cymraeg.”

Yn ogystal, bydd Dr Wyn Mason, sydd wedi bod yn gweithio fel ddramodydd llwyddiannus wrth astudio am ei ddoethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn derbyn ei dystysgrif:

“Ces i gyfle amhrisiadwy i ddatblygu fy sgiliau fel dramodydd ac awdur a llwyddais i sgwennu dwy ddrama lwyfan wrth astudio. Cafodd Gwlad yr Asyn ei lwyfannau gan Theatr Genedlaethol Cymru hyd yn oed, ac mae Os Nad Nawr wedi teithio Cymru. Diolch i gefnogaeth y Coleg Cymraeg, dwi nawr yn awdur proffesiynol.”

Bydd yr holl fyfyrwyr PhD yn cael ei anrhydeddu ar y noson, a bydd côr o’r ysgol gynradd Gymraeg leol, Ysgol Gynradd Hamadryad a Dr Gareth Bonello yn perfformio.

Wrth edrych ymlaen at ddegfed Cynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, meddai Cadeirydd y Coleg, Dr Aled Eirug:

“Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at y cyfle i ddod ynghyd i ddathlu llwyddiannau a chyfraniadau unigolion arbennig at y maes addysg uwch ac addysg bellach Cymraeg a dwyieithog.

“O ddathlu llwyddiant myfyrwyr sydd wedi cyflawni PhD drwy gyfrwng y Gymraeg o dan nawdd y Coleg, i gydnabod cyfraniad y rheiny sydd wedi bod yn arwain yn y maes addysg ôl-orfodol ers degawdau, mae’r Cynulliad eleni yn gyfle i ni ymfalchïo a diolch i aelodau o deulu’r Coleg am eu cyfraniad nodedig.”

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Llongyfarchiadau i bawb fydd yn cael eu hanrhydeddu yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg eleni. Mae’r dalent fydd o dan yr un tô yn y Tramshed yn aruthrol. Mae’r tri Chymrawd er Anrhydedd wedi cyfrannu’n allweddol i addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg ac wedi paratoi’r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesa o fyfyrwyr PhD talentog fydd hefyd yn derbyn eu tystysgrifau. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddathlu eu cyflwyniadau oll yn negfed Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg.”

Bydd y Cynulliad Blynyddol yn cael ei ffrydio’n fyw o’r Tramshed ar sianel You Tube y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 18:15, 21 Mawrth, ac mae croeso cynnes i bawb ymuno.