Skip to main content Skip to footer
19 Gorffennaf 2022

Y Coleg a cymwysterau Cymru yn dathlu cynnydd mewn darpariaeth, adnoddau a chymwysterau amaeth Cymraeg a dwyieithog ar faes y sioe frenhinol

ADD ALT HERE

Melanie Owen, cyflwynwraig rhaglen Ffermio, S4C, i arwain digwyddiad arbennig gyda darlithwyr amaeth o’r prifysgolion a’r colegau addysg bellach.

 

Bydd cyflwynwraig rhaglen Ffermio, S4C, Melanie Owen, yn arwain digwyddiad ar y cyd rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes y Sioe Frenhinol heddiw (ddydd Mawrth 19 Gorffennaf) i ddathlu’r cynnydd diweddar mewn cymwysterau, darpariaeth ac adnoddau amaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol.  

Ar 18 Gorffennaf cyhoeddwyd adolygiad sector cam 2 gan Cymwysterau Cymru o gymwysterau Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, sy’n nodi mai’r blaenoriaethau ydy sicrhau bod y cymwysterau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog ar gyfer y dyfodol a sicrhau llwybrau dilyniant clir i mewn i gyflogaeth. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:

“Rydyn ni wedi lansio adroddiad trylwyr lle rydyn ni’n amlinellu’r camau rydyn ni wedi eu cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd gan ein hadolygiad ac i gryfhau’r cymwysterau presennol sydd ar gael yng Nghymru.

“Heddiw, yn Sioe Frenhinol Cymru, mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydyn ni wedi cael y cyfle i ddathlu’r llwybrau a’r dilyniant sy’n cefnogi dysgwyr ôl-16 i barhau â’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae’r Coleg Cymraeg yn croesawu’r adolygiad a’r ffaith fod Cymwysterau Cymru yn ymrwymo i weithio gyda chyrff dyfarnu i gael datrysiadau tymor byr a thymor hir i’r her o ddatblygu cymwysterau galwedigaethol dwyieithog yn y maes amaeth ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid yng Nghymru.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:

“Rydym yn croesawu’r adolygiad yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddisgyblion, dysgwyr a myfyrwyr sydd am astudio amaeth a meysydd cyswllt eraill trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.

“Mae’n hollbwysig bod y Coleg a Cymwysterau Cymru yn parhau i gydweithio er mwyn ymateb i’r bylchau mewn cymwysterau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn y sector ôl-16.”

Ar ddiwedd 2021, lansiwyd dros 60 o adnoddau Cymraeg a dwyieithog gan y Coleg ar gyfer y maes amaeth yn y sector ôl-16. Mae’r adnoddau newydd hyn wedi bod yn hynod o boblogaidd ac yn cynnwys adnoddau ar Iechyd Anifeiliaid FfermGofal Anifeiliaid a Prentis-iaith ar Lefel Dealltwriaeth. Cyhoeddwyd yr adnoddau ar y Porth Adnoddau, gwefan adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn cefnogi darlithwyr ac ymarferwyr mewn colegau addysg bellach a hyfforddwyr yn y maes prentisiaethau. 

Ychwanegodd Dr Matthews:

“Amaeth yw un o brif feysydd blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymraeg gan ei fod yn faes sy’n denu cynifer o siaradwyr Cymraeg. Mae sicrhau dyfodol llewyrchus i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig ac yn y cadarnleoedd Cymraeg yn elfen allweddol o gyflawni nodau ac amcanion strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r Coleg wedi bod yn cefnogi darpariaeth lefel gradd mewn amaeth ers rhai blynyddoedd bellach ond ry’n ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r ddarpariaeth yn y sector ôl-16 hefyd, a ble well i ddod i ddathlu’r cynnydd diweddar nac i’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

“Blaenoriaeth y Coleg dros y blynyddoedd i ddod yw adeiladu capasiti digonol ar draws astudiaethau ar dir sy’n cynnwys amaethyddiaeth, gofal anifeiliaid a garddwriaeth. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod cyflenwad digonol o bobl ifanc sy’n hyderus eu Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru yn mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant.” 

Yn ôl Iwan Thomas, darlithydd mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr a fydd hefyd yn siarad yn y digwyddiad: 

“Mae’r adnoddau amaeth dwyieithog a ddatblygwyd a diweddarwyd gan y Coleg yn wych ac yn ddefnyddiol i bawb beth bynnag eu sgiliau Cymraeg, nid yn unig yn y wers, ond hefyd pan fyddant yn mentro i weithio yn y diwydiant amaeth yn y pen draw. Fel rhywun sy’n gweithio gyda dysgwyr mewn coleg addysg bellach, dwi hefyd yn croesawu’r cyrsiau Cymraeg a dwyieithog lefel 3 mewn amaethyddiaeth a gofal anifeiliaid yn sgil adolygiad Cymwysterau Cymru.”

Fel rhan o’r digwyddiad bydd y Coleg Cymraeg hefyd yn dathlu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ym maes amaethyddiaeth yn y sector addysg uwch, gan gynnwys darpariaeth mewn Milfeddygaeth ers agor Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2021. 

Yn ôl Dr Ioan Matthews:  

“Rydym yn falch iawn o weld carfan newydd o filfeddygon y dyfodol yn cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn astudio rhan o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn dilyn cefnogaeth gan y Coleg. Y gobaith yw y bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cyrsiau yn aros yng Nghymru i weithio ar ôl iddynt raddio.” 

Yn ôl Dr Manod Williams, sy’n ddarlithydd mewn Biomilfeddygaeth a Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Diolch i’r Coleg Cymraeg, dwi wedi medru aros yng Nghymru i addysgu’r genhedlaeth nesa o wyddonwyr anifeiliaid ac amaethwyr drwy gyfrwng y Gymraeg – wedi’r cyfan mae cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i’r sector.”

Y gyflwynwraig Melanie Owen, a fagwyd ar fferm ei theulu yn ardal Aberystwyth, sy’n arwain y digwyddiad. Mae Melanie yn croesawu’r cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael ym maes amaethyddiaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn gobeithio bydd y maes yn denu mwy o amrywiaeth. 

Meddai Melanie:  

“Mae’r adnoddau, y ddarpariaeth a'r cymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog newydd yma yn gyffrous iawn, a dwi wir yn gobeithio bydd y ddarpariaeth yn sbarduno cenedlaethau newydd o bobl i ystyried gyrfa yn y maes amaeth, nid yn unig pobl o rannau gwledig Cymru, ond o bob rhan o Gymru. Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod y maes amaeth yn agored i bawb.” 

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Cyswllt:

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Nadine Kurton, Swyddog Cyfathrebu, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 07792 538239 neu e-bostiwch n.kurton@colegcymraeg.ac.uk

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth â phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau er mwyn adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol o’r radd flaenaf.

Er mwyn darganfod mwy am y Coleg ewch i: www.colegcymraeg.ac.uk.