Skip to main content Skip to footer
15 Ionawr 2024

Y Coleg Cymraeg a CBAC yn cyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Gareth Pierce

ADD ALT HERE

Cyhoeddir heddiw, dydd Llun, 15 Ionawr, mai Efa Maher o Brifysgol Caerdydd, Elen Davies o Brifysgol Aberystwyth, a Steffan Môn, Prifysgol Caerdydd yw’r tri myfyriwr fydd yn derbyn bwrsari gwerth £3,000 yr un sy’n cael ei gynnig i hyd at dri myfyriwr is-raddedig sy’n astudio o leiaf draean o’u cwrs gradd Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd y bwrsari ei sefydlu yn 2022 er cof am Gareth Pierce, a bu’n Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyn Brif Weithredwr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) cyn iddo farw yn 2021.

Mae Efa Maher o Gasnewydd yn frwdfrydig iawn dros yr iaith Gymraeg ac yn falch iawn ei bod yn gallu astudio traean o’i chwrs ‘Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth’ trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Meddai:

Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hynod bwysig i fi, nid yn unig i gadw a chynnal fy sgiliau ieithyddol, ond hefyd o ran fy hunaniaeth. Mae Mathemateg fel pwnc yn cynnig posibiliadau eang o ran gyrfa felly bydd adeiladu terminoleg yn y ddwy iaith yn ddefnyddiol pan fyddaf yn gweithio yn y maes yn y dyfodol. Rwyf mor ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg ac i CBAC am y fwrsariaeth yma

Efa Maher, Prifysgol Caerdydd

Syrthiodd Steffan Môn, 28, o Gaerdydd mewn cariad gyda Mathemateg yn ei 20au ar ôl gwylio fideos You Tube a darllen llyfrau am Fathemateg yn ei amser hamdden. Meddai:

 Roeddwn i’n ofn Mathemateg yn yr Ysgol, ac ond yn y blynyddoedd diwethaf fe wnes i ail-gydio yn y pwnc a sylweddoli gymaint rwyf yn ei hoffi. Cefais fy nghymhwyster lefel A mewn Mathemateg yn y Brifysgol Agored llynedd, ac erbyn hyn rwy’n astudio Mathemateg yn y brifysgol. Yn dilyn fy ngradd rwy’n gobeithio mynd ymlaen i astudio doethuriaeth er mwyn bod yn ddarlithydd Mathemateg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol. Gobeithio mae fy stori i yn helpu eraill i beidio rhoi’r gorau iddi ac i ddangos nid pawb sy’n dangos dawn mewn pwnc yn yr ysgol, nac yn barod am y brifysgol yn syth ar ôl ysgol. Does dim ffiniau nac amserlen i addysg, mae’n weithred gydol oes. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg a CBAC am y fwrsariaeth.

Steffan Môn, Prifysgol Caerdydd

Roedd Elen Davies o Gastell Nedd wrth ei bodd i glywed ei bod wedi ennill y fwrsariaeth, ac yn ddiolchgar i’w athrawes yn ei hysgol gynradd, Ysgol Gymraeg Ystalyfera am fagu ei diddordeb yn y pwnc Mathemateg. Meddai:

Mae fy niddordeb mewn Mathemateg wedi cychwyn yn ifanc iawn diolch i brwdfrydedd a creadigrwydd fy athrawes a oedd yn trin y pwnc fel gwneud celf. Mae’n fraint astudio Mathemateg yn y brifysgol ac rwy’n gwerthfawrogi bwrsariaeth Gareth Pierce yn fawr. Dwi wrth fy modd a’r cwrs, ac yn edrych ymlaen i weithio fel athrawes Mathemateg yn y dyfodol. 

Elen Davies, Prifysgol Aberystwyth

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: 

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Efa, Steffan ac Elen ar ennill Bwrsariaeth Gareth Pierce. Braint yw cefnogi’r fwrsariaeth yma er cof am gyfaill, cydweithiwr, a ffigwr dylanwadol yn y maes addysg yng Nghymru a gwnaeth gyfraniad allweddol i’r Coleg. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i deulu Gareth ac i CBAC hefyd am eu cefnogaeth hwythau. Dymunwn bob llwyddiant i'r tri yn y dyfodol.”

 

Meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: 

“Ar ran CBAC hoffwn longyfarch Efa, Elen a Steffan, yr ail grŵp i dderbyn bwrsari Gareth Pierce. Mae poblogrwydd bwrsari Gareth yn parhau i dyfu ac mae’n adlewyrchu ei angerdd dros Fathemateg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pob hwyl i'r myfyrwyr gyda'u hastudiaethau, a gobeithio y bydd y bwrsari'n golygu eu bod yn gallu ffynnu yn eu cyrsiau perthnasol.”

 

Am fwy o wybodaeth am fwrsariaeth Gareth Pierce, ac i wirio pa gyrsiau sy’n gymwys, ewch i wefan y Coleg Cymraeg.