Skip to main content Skip to footer
12 Ionawr 2023

Y Coleg Cymraeg a CBAC yn cyhoeddi enillwyr cyntaf erioed bwrsariaeth Gareth Pierce

ADD ALT HERE

Cyhoeddir heddiw, dydd Iau 12 Ionawr, mai Lowri Haf Davies, Taylor-James Daughton, ac Alys Ffion Chisholm yw’r tri myfyriwr cyntaf erioed i dderbyn bwrsari gwerth £3,000 yr un er cof am Gareth Pierce, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyn Brif Weithredwr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), a fu farw ym mis Gorffennaf 2021.

 

Lansiwyd Bwrsari Gareth Pierce er cof amdano yn gynharach eleni ac fe’i gynigir i hyd at dri myfyriwr israddedig sy’n astudio o leiaf draean o’u cwrs gradd Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Taylor-James, o’r Barri, yn gobeithio gweithio fel athro Mathemateg yn y dyfodol, ac mae’n falch iawn i ennill y fwrsariaeth mewn pwnc y mae wrth ei fodd yn ei astudio.

Meddai: 

“Dwi’n gwerthfawrogi’r fwrsariaeth yn fawr, ac yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg a CBAC am y gydnabyddiaeth a’r arian. Dwi’n hapus fy mod i’n gallu astudio Mathemateg, sy’n bwnc mor ddefnyddiol, cyfredol, a ddiddorol trwy gyfrwng fy mamiaith. Dwi’n edrych ymlaen at weithio fel athro yn y dyfodol er mwyn rhannu fy mrwdfrydedd am Fathemateg ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesa i ddewis astudio’r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Roedd Lowri Haf Davies o Nantgaredig wrth ei bodd i glywed ei bod wedi ennill y fwrsariaeth, ac yn ddiolchgar i’w hysgol uwchradd am ei hannog i astudio Mathemateg yn y brifysgol: 

“Mae’n fraint derbyn bwrsariaeth Gareth Pierce, a byddaf yn defnyddio’r arian i brynu llyfrau a fydd o gymorth i mi ar fy nghwrs. Dwi wrth fy modd ar y cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn ddiolchgar i’r Adran Fathemateg yn Ysgol Bro Myrddin ble dechreuodd fy niddordeb yn y maes. Gobeithiaf gael gyrfa mewn ystadegau yn y dyfodol.” 

Meddai Alys Chisholm, o Gaernarfon, 

"Mae’n anrhydedd derbyn y bwrsari newydd hwn yn enw Gareth Pierce, ffigwr pwysig ym myd addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg a CBAC am yr arian a fydd yn ddefnyddiol iawn ac yn hwyluso fy nghyfnod yn y brifysgol dros y blynyddoedd nesa.” 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: 

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch y tri ar ennill Bwrsariaeth Gareth Pierce. Roedd Gareth yn ffigwr dylanwadol yn y maes addysg yng Nghymru a gwnaeth gyfraniad allweddol i’r Coleg, yn benodol o ran sicrhau cyllideb addas i ymestyn gwaith y Coleg i feysydd addysg bellach a phrentisiaethau. Roedd Gareth yn gyfaill ac yn gydweithiwr uchel ei barch ac roedd ei golli yn ergyd aruthrol yn enwedig i’w deulu, ond hefyd i’w gyfeillion mewn cymaint o gylchoedd yng Nghymru a thu hwnt.  Braint ar ran y Coleg yw i gefnogi’r fwrsariaeth er cof amdano a rydyn ni’n ddiolchgar iawn i deulu Gareth ac i CBAC hefyd am eu cefnogaeth hwythau. Dymunwn bob llwyddiant i Lowri, Taylor-James ac Alys yn y dyfodol. ” 

Meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: 

“Ar ran CBAC hoffwn longyfarch Lowri, Taylor-James ac Alys, derbynyddion cyntaf bwrsari Gareth Pierce. Roedd Gareth yn ffigwr arwyddocaol ym myd addysg Cymru, ac mae’r bwrsari hwn yn brawf o’i angerdd dros fathemateg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Dymuniadau gorau i’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau, a gobeithio y bydd y bwrsari yn eu galluogi nhw i ffynnu yn eu cyrsiau.”

Am fwy o wybodaeth am fwrsariaeth Gareth Pierce, ac i wirio pa gyrsiau sy’n gymwys, ewch i wefan y Coleg Cymraeg.