Skip to main content Skip to footer
27 Awst 2022

Y Coleg Cymraeg yn cydweithio â Heddlu Dyfed-Powys i ddatblygu llu dwyieithog y dyfodol

ADD ALT HERE

Bydd hyfforddiant academaidd ac ymarferol cyfrwng Cymraeg yn cael ei gynnig i swyddogion newydd, a rhai presennol, Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn partneriaeth newydd â’r Coleg Cymraeg. Dechreuodd y criw cyntaf yr hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2022. Wrth ymweld â’r criw cyntaf i dderbyn yr hyfforddiant ym mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: 

“Ry'n ni fel siaradwyr Cymraeg wedi bod yn rhy fodlon dros y blynyddoedd i dderbyn gwasanaeth drwy gyfrwng y Saesneg. Mae angen i ni newid hynny yn fewnol yn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o nifer fawr o’r cymunedau rydym yn eu plismona yn ardal Dyfed-Powys, ac mae’n bwysig dros ben ein bod yn dangos parch tuag at gymunedau Cymraeg a Chymreig drwy gynnig gwasanaeth plismona cwbl ddwyieithog iddyn nhw.” 

Mewn digwyddiad arbennig ym mhencadlys y llu yng Nghaerfyrddin, fe welodd cynrychiolwyr o’r gwasanaeth heddlu a phrif swyddogion y Coleg Cymraeg dros 35 o swyddogion dan hyfforddiant yn cychwyn ar eu hyfforddant, sydd wedi cael ei ddisgrifio gan Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fel cynllun “arloesol”: 

"Mae'n gyffrous iawn gweld Heddlu Dyfed-Powys yn camu ymlaen gyda darpariaeth Cymraeg a dwyieithog i'w recriwtiaid”, meddai.

“Mae datblygu gweithlu dwyieithog yn rhan allweddol o gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith. Mae’r Coleg wedi bod yn cefnogi datblygiad darpariaeth Gymraeg ar gyrsiau gradd Plismona i israddedigion ym Mhrifysgol De Cymru ers sawl blwyddyn ac yn falch iawn o fod yn cydweithio â Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol De Cymru i ehangu'r hyfforddiant dwyieithog sydd ar gael i'w heddweision dan hyfforddiant.  

“Mae agwedd rhagweithiol Heddlu Dyfed-Powys, y Prif Gwnstabl, a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn esiampl i'w dilyn gan eraill ar draws y sector cyhoeddus.” 

Fel rhan o’u hyfforddiant academaidd, bydd gan y myfyrwyr fynediad at adnoddau dysgu newydd cyfrwng Cymraeg, ac o hyn ymlaen bydd modd iddyn nhw gyflwyno eu gwaith a chynnal trafodaethau proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae deunyddiau dysgu wedi eu datblygu hefyd ar gyfer elfennau ymarferol yr hyfforddiant megis chwarae rôl, hyfforddiant gyrru a chyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd swyddogion dan hyfforddiant nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg, neu sy’n dysgu’r iaith, hefyd yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau iaith drwy senarios ymarferol a gweithdai ychwanegol, a bydd y swyddogion dan hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg yn fentoriaid iddynt. 

Dywedodd Dr Richard Lewis, y Prif Gwnstabl, bod manteision pellgyrhaeddol o weithio tuag at lu dwyieithog: 

"Dwi’n cofio fy amser i fel heddwas, pan o'n i'n gweithio ar y strydoedd, y byddwn i'n cael cymaint mwy o wybodaeth ac, ambell waith, y byddai pobl yn ymddiried ynof fi cymaint mwy fel heddwas petaen nhw'n ystyried ’mod i'n medru'r iaith. Bydd yna lu cyfan yn y dyfodol o bobl sydd yn gallu gwneud hynny a dwi'n gobeithio y bydd y gwasanaeth ry'n ni'n gallu ei gynnig i’r cyhoedd yn well, ac y bydd y wybodaeth ry’n ni’n ei chael ‘nôl o’r cymunedau yn well hefyd." 

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, mae’r cynllun hyfforddiant yn gam allweddol tuag at newid diwylliant o fewn y llu ac yn dangos ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys at yr iaith Gymraeg: 

"Ry'n ni’n ymateb i her Llywodraeth Cymru i gyfrannu at ei strategaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae yna gydnabyddiaeth bod blynyddoedd o waith caled o'n blaenau fel llu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn weledol i’r gymuned a hefyd yn fewnol, ond dwi'n gobeithio bod heddiw yn gam cyntaf ar y daith ac yn gam positif iawn i ni fel llu.  

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr arweiniad a’r gefnogaeth o ran datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac am gefnogi gweledigaeth y Prif Gwnstabl a minnau.” 

Bydd myfyrwyr sy’n cyflawni traean o’u cymhwyster academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.