Skip to main content Skip to footer
9 Awst 2023

Y Coleg Cymraeg yn cyflwyno pum gwobr ar faes yr Eisteddfod i fyfyrwyr a darlithwyr

ADD ALT HERE

Erthygl ar Pokémon yn cipio Gwobr Gwerddon

Ar brynhawn dydd Mercher 9 Awst ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, cyflwynwyd pum gwobr i fyfyrwyr a darlithwyr sydd wedi gwneud gwaith a chyfraniad rhagorol yn eu prifysgolion.

Yn ystod derbyniad blynyddol y Coleg, cyflwynwyd Gwobr Goffa Dr John Davies i Annell Dyfri o Brifysgol Caerdydd am gyflawni'r traethawd estynedig gorau yn y Gymraeg ar Hanes Cymru. Teitl ei thraethawd oedd ‘Degawd o drawsnewid (2010-2020) S4C: o’r llwyfan llinol i’r llwyfan digidol ac effaith hyn ar y Gymraeg’.

Meddai Annell, sydd bellach yn gweithio fel Newyddiadurwraig gyda BBC Cymru ar ôl astudio rhaglen M.A. mewn Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg am y wobr yma. Wnes i wir fwynhau ysgrifennu fy nhraethawd am y modd y mae darlledu cyfrwng Cymraeg wedi gorfod ymateb i‘r chwyldro digidol gan symud o’r llwyfan llinol i anwesu’r cyfleoedd newydd hyn. Mae’r effaith wedi bod yn gadarnhaol ar ddarlledu cyfrwng Cymraeg gyda chynulleidfaoedd ledled y byd bellach yn gallu mwynhau darpariaeth S4C yn ddigidol.   

“Mae’r ymchwil wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith presennol fel newyddiadurwraig cyfrwng Cymraeg. Hoffwn ddiolch yn fawr i’m tiwtor, yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, am ei gefnogaeth ac i’r Coleg Cymraeg am yr holl gyfleoedd dw i wedi eu derbyn fel myfyriwr a fel llysgennad. Mae ennill Gwobr Goffa Dr John Davies yn ddiweddglo arbennig i fy astudiaethau ac yn hwb aruthrol wrth i mi ddechrau ar fy ngyrfa.”

Annell Dyfri

Enillydd Gwobr Norah Isaac eleni yw Elin Bartlett sy’n astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r wobr yn gwobrwyo’r canlyniad gorau gan fyfyriwr israddedig yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.   

Mae Elin yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau iaith er mwyn cyfathrebu yn effeithiol yn ddwyieithog gyda’i chleifion. Meddai:

“Mae ennill y wobr yma yn golygu llawer i mi. Nid yn unig mae’n gydnabyddiaeth o fy ngwaith a fydd yn codi calon ac yn rhoi hwb ymlaen wrth i mi barhau gyda fy astudiaethau, ond mae’r dystysgrif yn rhoi tystiolaeth o lefel sgiliau iaith a’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol yn y gweithle sy’n bwysig iawn yn y maes Meddygaeth.”

Elin Bartlett

Enillydd Gwobr Gwerddon eleni yw Dr Geraint Palmer, darlithydd yn yr Ysgol Fathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Gwobr Gwerddon yn gwobrwyo’r erthygl orau a gyhoeddwyd ar e-gyfnodolyn academaidd, Gwerddon, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae ei erthygl, ‘Rhaglennu llinol aml amcan i ganfod y tîm Pokémon gorau, yn rhoi enghraifft o gymhwyso technegau ymchwil mathemateg i optimeiddio tîmau Pokémon. Wrth esbonio mwy am yr erthygl, dywedodd Geraint:   

“Yn yr erthygl hon cyflwynais rai technegau safonol er mwyn datrys problem hwyliog sydd yn cynnwys priodweddau cyfuniadol a stocastig, hynny yw dewis y tîm gorau o Pokémon. Defnyddiais raglennu llinol cyfanrifol aml amcan er mwyn dewis pa Pokémon sy'n ymddangos ar y tîm, a pha symudiadau sydd ganddynt. Mae gan dechnegau tebyg cymwysiadau mewn nifer fawr o ddiwydiannau, er enghraifft amserlennu llawdriniaethau, a rhagfynegi effaith staffio ar amseroedd aros.” 

Dr Geraint Palmer

Cyhoeddwyd hefyd mai Dr Rhian Hedd Meara, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe oedd enillydd Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan am ei hymroddiad wrth ddatblygu elfen sylweddol o'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes Daearyddiaeth yn y brifysgol a sicrhau bod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth.

Dr Rhian Hedd Meara

Cyflwynwyd Gwobr Goffa Gwyn Thomas i Roger Stone sydd wedi dilyn gradd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno am ytraethawd estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg fel pwnc academaidd.  Roedd y traethawd buddugol yn archwilio’r cysylltiad rhwng athroniaeth gymdeithasol Dafydd Nanmor yn y bymthegfed ganrif ac athroniaeth wleidyddol Saunders Lewis yn yr ugeinfed ganrif yng nghyd-destun sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925.

Roger Stone

Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews:

“Mae’r enillwyr yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn y prifysgolion a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny godi proffil y Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol”