Skip to main content Skip to footer
25 Mawrth 2025

Y Coleg Cymraeg yn talu teyrnged i’r Athro Geraint H. Jenkins am ei gyfraniad oes at addysg cyfrwng Cymraeg

ADD ALT HERE

Ar nos Fawrth 25 Mawrth yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y Coleg yn talu teyrnged i’r Athro Geraint H. Jenkins a fu farw ym mis Ionawr, am ei gefnogaeth ddiflino a’i gyfraniad cyfoethog at addysg prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y Coleg hefyd yn urddo dau gymrawd er anrhydedd ar y noson, sef Yr Athro Emeritws Eleri Pryse a David Jones.

Derbyniodd yr Athro Geraint H. Jenkins wahoddiad gan y Coleg ychydig cyn y Nadolig i gael ei urddo yn Gymrawd er Anrhydedd yng Nghynulliad y Coleg eleni. Er yn drist iawn na fydd Geraint yno i dderbyn yr anrhydedd, bydd y Coleg yn nodi ac yn dathlu ei gyfraniad at ysgolheictod yng Nghymru yng nghwmni ei deulu a’i gyfeillion.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg,

“Roedd Geraint yn un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru. Buodd yn gyn-bennaeth ac yn arweinydd ysbrydoledig yr adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

“Roedd yn frwd iawn ei gefnogaeth i addysg prifysgol ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, yn awdur nifer o gyfrolau, yn olygydd y gyfres ddylanwadol Cof Cenedl, ac yn un a roddai pwys mawr ar annog a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

“Mae’n gadael bwlch mawr ym mywyd deallusol Cymru.”

Hefyd ar y noson bydd yr Athro Emeritws Eleri Pryse a David Jones yn cael eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd y Coleg am eu cyfraniad at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.

Yr Athro Geraint H. Jenkins

Bydd Yr Athro Emeritws Eleri Pryse o Aberystwyth yn derbyn y gymrodoriaeth am ei blaengaredd academaidd yn ogystal â’i chyfraniad at addysgu Ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1989. Fe’i chyflwynir ar y noson gan Yr Athro Huw Morgan, Adran Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth.

Meddai:

“Gwerthfawrogaf yn fawr yr anrhydedd hon gan y Coleg Cymraeg - gwahoddiad annisgwyl iawn i mi.  Bu’n fraint a mwynhad i gydweithio gyda myfyrwyr a chyd-ddarlithwyr o brifysgolion ar draws Cymru a chyda staff y Coleg i ymestyn darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg i’r gwyddorau. 

“Rhaid yw cydnabod rôl a chefnogaeth hanfodol y Coleg Cymraeg i dwf gwyddoniaeth drwy’r Gymraeg.”

 

Hefyd ar y noson, bydd David Jones yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am ei gyfraniad blaenllaw at addysg ôl-16 yng Nghymru ac yn benodol pan wnaeth y Coleg ymestyn ei gyfrifoldebau i feysydd addysg bellach a phrentisiaethau yn 2017. Fel Cadeirydd Cymwysterau Cymru ers 2019, mae David wedi mynd ati i annog twf cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg, a datblygu partneriaeth strategol gyda'r Coleg. Cyflwynir David ar y noson gan Llinos Roberts, Is Gadeirydd Bwrdd y Coleg Cymraeg a Phennaeth Cyfathrebu a’r Gymraeg, Coleg Cambria. Meddai David:

"Rwy'n teimlo balchder mawr wrth dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Coleg.  Fel Cymro a Chardi, a fagwyd yng Nghiliau Aeron yng Ngheredigion, mae'n bleser arbennig hefyd derbyn yr anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

“Mae cymaint o ddysgwyr a sefydliadau yn elwa o waith gwych y Coleg, ac roeddwn yn falch iawn o fod wedi cyfrannu rhan fach i'r sefydliad yn ystod fy nghyfnod fel Prif Weithredwr Coleg Cambria.  

“Drwy bartneriaethau ledled Cymru, gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i wella ac ehangu cyfleoedd dysgu Cymraeg i ddysgwyr o bob oed, ac i gefnogi gwaith ehangach y Coleg ar draws Cymru."

 

Fel rhan o’r noson, bydd cyfle hefyd i gyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyfle hefyd i ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu’r cynllun. 

Wrth edrych ymlaen at Gynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ychwanegodd Gadeirydd y Coleg, Dr Aled Eirug:

“Mae’r Athro Geraint H. Jenkins wedi cyfrannu’n eithriadol at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg ac wedi braenaru'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesa o staff a myfyrwyr PhD fydd yn derbyn eu tystysgrifau ar y noson.

“Bydd hi’n fraint talu teyrnged iddo yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg eleni yng nghwmni ei deulu a’i gyfeillion.”