Skip to main content Skip to footer
18 Ionawr 2022

Y ddraig amryliw – cynhadledd am Gymru a’r gymuned LHDTC+

ADD ALT HERE

Ar ddechrau mis Pride (mis Chwefror 2022), cynhelir cynhadledd ‘Y Ddraig Amryliw: Cymru ac LHDTC+’ i drafod agweddau ar y gymuned LHDTC+ yn y Gymru gyfoes a’i chynrychiolaeth yn y diwylliant Cymreig.

 

Cynhelir y gynhadledd ar-lein ar 3 Chwefror 2022. Fe’i trefnir gan Brifysgol Bangor dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n agored i’r cyhoedd.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dathlu ei ddengmlwyddiant eleni ac yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a dathliadau yn ystod y flwyddyn i nodi’r achlysur. Mae’r sefydliad hefyd newydd benodi Cydlynydd Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth, swydd newydd o fewn y Coleg, i edrych ar holl agweddau amrywiaeth a chydraddoldeb gan gynnwys ymwneud y gymuned LHDTC+ gydag addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog.

Bydd y gynhadledd ym mis Chwefror yn cynnwys cyfraniadau gan ysgolheigion o wahanol feysydd ac yn dangos pa mor eang y mae trafod a chydnabod pobl LHDTC+ wedi bod ym mywyd Cymru, nid yn unig heddiw, ond mewn hanes hefyd.

Meddai Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Crefydd a Hanes ym Mhrifysgol Bangor a threfnydd y digwyddiad:

Mae’r syniad bod profiadau pobl LHDTC+ ynghudd yn hanes Cymru a’r Gymraeg yn un cyffredin, ond mae cynhadledd Y Ddraig Amryliw yn ceisio cywiro hynny. Heb leihau’r profiad o erledigaeth a ddioddefodd llawer, mae modd inni gydnabod a hyd yn oed ddathlu cyfraniad ac amrywiaeth eang y bobl hynny i fywyd Cymru, ei llenyddiaeth, ei diwylliant, a’i hanes. A dyna ydi’r gobaith wrth gynnal cynhadledd o’r fath – cofio’r gorffennol, cydnabod y presennol, a dathlu’r dyfodol lliwgar y bydd Cymru’n rhan ohono.

Yn ôl Gwenllïan Owen, Rheolwr Academaidd y Coleg Cymraeg:

Mae’r Coleg yn falch iawn o noddi’r gynhadledd bwysig hon a hynny yn ystod blwyddyn o ddathlu dengmlwyddiant y Coleg. Mae’r ffaith bod materion sy’n ymwneud â holl agweddau ar fywyd, hanes a diwylliant Cymru yn cael eu trin a’u trafod drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig a dyma un o brif lwyddiannau’r Coleg dros y degawd.

“Mae cyfraniad y gymuned LHDTC+ i fywyd Cymru yn haeddu sylw ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed yr hyn sydd gan y cyfranwyr i’w rannu. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb i gymryd rhan felly hoffwn annog bawb sydd â diddordeb i gofrestru.”

Mae’r gynhadledd am ddim ac ar-lein rhwng 9.15am a 2.45pm ar ddydd Iau 3 Chwefror 2022. Y siaradwyr fydd:

  • Iestyn Wyn – Stonewall Cymru: 'Stonewall Cymru: Y daith at gydraddoldeb'
  • Norena Shopland – Hanesydd Annibynnol: 'Hyfforddiant Hanes LHDTC+, a pham rydym ei hangen'
  • Dr Rhian Hodges – Prifysgol Bangor: 'Y Gymuned LHDTC+, Cymdeithaseg a'r Gymru Gyfoes'
  • Dr Siwan M. Rosser – Prifysgol Caerdydd: 'Bywydau Amryliw ein Llyfrau Plant'
  • Dr Gareth Llŷr Evans – Prifysgol Aberystwyth: 'Theatr Aled Jones Williams a'r grefft cwiar o fethiant'

Bydd Dr Rhian Hodges o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, yn traddodi sgwrs am 'Y Gymuned LHDTC+, Cymdeithaseg a'r Gymru Gyfoes', gyda’r bwriad o archwilio sut sefyllfa sydd gan y gymuned arbennig hon yn y Gymru sydd ohoni. Ystyrir amryw gwestiynau pwysig yn ymwneud a hawliau a chynrychiolaeth, a chynigir sylwadau treiddgar am y berthynas rhwng y gymuned LHDTC+ a Chymru 2022.

‘Bywydau Amryliw ein Llyfrau Plant' a fydd yn mynd a bryd Dr Siwan M. Rosser, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. A hithau’n awdurdod nodedig yn y maes, bydd Dr Rosser yn cynnig mewnwelediad gofalus o lenyddiaeth Gymraeg ac yn ystyried yr agweddau LHDTC+ sydd yn bod, neu’n wir, sydd yn brin yn y llyfrau hynny sy’n rhan o wead llenyddol Cymru. Cynigir sylwadau diddorol iawn am hanes llenyddiaeth plant Cymru a’r heriau, y cyfleoedd ac, o bosibl, y dyletswyddau sy’n wynebu llenorion y Gymru gyfoes i fod yn fwy cynrychioladol.

Mae’r digwyddiad yn un o’r amrywiaeth o gynadleddau a gweithdai a drefnir eleni dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ymysg y digwyddiadau eraill mae Cynhadledd ar Farchnata yn y Gymraeg a gynhelir ar 23 Mehefin a Chynhadledd Wyddoniaeth yn yr haf.

Gellir cofrestru i ddod i’r gynhadledd ar wefan y Porth Adnoddau.