Skip to main content Skip to footer
14 Mai 2024

Ymateb y Coleg Cymraeg i farwolaeth Owen John Thomas

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn nodi gyda thristwch y newyddion am farwolaeth y cyn-Aelod Cynulliad, Owen John Thomas a fu farw yn 84 oed.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:

“Fel ymgyrchydd ac athro, gwnaeth Owen John Thomas gyfraniad sylweddol i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd a thu hwnt a bu'n gefnogol iawn i ddatblygiad y Coleg Cymraeg. Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad rhwng 1999 a 2007, cyn sefydlu'r Coleg, bu Owen John ymysg cefnogwyr cryfaf yr ymgyrch i gynyddu cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion. Yn y cyfnod yma hefyd, gyda chefnogaeth wleidyddol y Cynulliad cymharol newydd ar y pryd, y sefydlwyd rhai cynlluniau sydd bellach yn rhan ganolog o waith y Coleg, gan gynnwys y cynllun ysgoloriaethau PhD.

Gweithiodd yn frwd dros yr iaith mewn sawl rôl, yn enwedig yng Nghaerdydd ble fu’n byw a gweithio gydol ei oes. Gellir tystio i’w angerdd dros lewyrch y Gymraeg yn ei filltir sgwâr yn ei ysgrif ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd rhwng c.1800 a 1914, a gyhoeddwyd yn y gyfrol gampus Iaith Carreg fy Aelwyd (GPC, 1998)

Mae ei waddol yn glir yng Nghaerdydd, yn genedlaethol, ac i ni yn y Coleg Cymraeg, a bydd ei waith yn parhau i feithrin y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg. Estynnwn ein cydymdeimlad fel Coleg i'w deulu a'i gyfeillion.”