Skip to main content Skip to footer
10 Rhagfyr 2020

Ymddiriedolaeth William Salesbury yn lansio gwobrau newydd

ADD ALT HERE

Dyfernir Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury, gwerth £200, i ddysgwr neu brentis sy’n aelod cyfredol o’r Coleg sydd wedi gwneud cyfraniad i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth.

Mae Gwobr Meddygaeth William Salesbury, sydd hefyd yn werth £200, yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu gyfraniad i weithgareddau allgyrsiol cyfredol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth William Salesbury yn 2011 gan nifer o gyfeillion y Coleg Cymraeg o dan arweiniad y diweddar Dr Meredydd Evans. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ei hysbrydoli gan fywyd a gwaith Salesbury, yr ysgolhaig o’r unfed ganrif ar bymtheg oedd â diddordebau yn cwmpasu gwyddoniaeth, diwinyddiaeth, cyfraith, iaith, llenyddiaeth ac a’n hanogodd i ‘fynnu dysg yn eich iaith’.

Meddai Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Ann Beynon: “Ein braint ni fel Ymddiriedolaeth yw cael gweithio tuag at wireddu breuddwyd Merêd a chynnau fflam gweledigaeth Salesbury trwy ddangos ein cefnogaeth i’n Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Carwn ddiolch i’r Coleg am y cydweithrediad parod ac i’n holl gefnogwyr ledled Cymru a’r tu hwnt a gyfrannodd yn hael i’n coffrau gan ein galluogi i wneud cyfraniad ymarferol a pherthnasol i’r genhadaeth bwysig hon.”

Ac yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: “Rydym yn hynod o falch i fod yn gweithio gyda’r ymddiriedolaeth i gynnig y gwobrau newydd yma eleni ac yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth i waith y Coleg. Mae cymaint o waith ardderchog yn digwydd yn ein colegau addysg bellach, o fewn y darparwyr prentisiaethau ac yn y prifysgolion i gynnal ac annog bywyd a diwylliant Cymraeg ac mae’n bwysig iawn bod cyfle i wobrwyo’r rheiny sy’n ymroi i’r gwaith hwn. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnig gwobrau yn y categorïau hyn a dwi’n obeithiol ac yn hyderus y cewn ni ymateb cadarnhaol iawn i’r cais am enwebiadau.”

Gellid cyflwyno enwebiadau ar gyfer y Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau a’r Wobr Meddygaeth gan ddefnyddio ffurflen enwebu ar wefan y Coleg. Y dyddiad cau ar gyfer enwebu myfyriwr ar gyfer y Wobr Meddygaeth yw hanner dydd, dydd Llun 11 Ionawr 2021, a’r dyddiad cau ar gyfer enwebu dysgwr ar gyfer y Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau yw hanner dydd, dydd Llun 22 Mawrth 2021.