Daeth pedwar partner ynghyd ar y Maes heddiw: y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru, Coleg y Cymoedd a ColegauCymru i godi ymwybyddiaeth am sut mae cydweithio ar draws y sector yn helpu i wella darpariaeth cymwysterau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg ôl-16, gyda ffocws penodol ar bynciau creadigol.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi nodi’r sector creadigol fel maes blaenoriaeth o ran darpariaeth Cymraeg, ac wedi cyflwyno adnoddau newydd i gefnogi dysgwyr.
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae’n bleser cynnal digwyddiad ar y cyd gyda’n partneriaid er mwyn llwyfannu’r gwaith da sy’n digwydd i gynyddu’r ddarpariaeth a’r cymwysterau Cymraeg a dwyieithog yn y maes diwydiannau creadigol. Fel un o feysydd blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau, dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Coleg wedi cefnogi darpariaeth mewn un ar ddeg coleg addysg bellach ac un darparwr prentisiaeth yn y maes diwydiannau creadigol ac yn falch iawn bod nifer o ddysgwyr wedi manteisio ar y cyfleoedd. Yn ogystal rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi comisiynu adnodd newydd, ‘Unedau Diwydiannau Creadigol’ i gefnogi’r ddarpariaeth, ac rydym yn edrych ymlaen i’w lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.”
Roedd y digwyddiad yn un o’r cynulliadau blynyddol a gafodd eu cynnal fel rhan o’r bartneriaeth strategol rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd bob blwyddyn yn cynnal digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ochr yn ochr â’r coleg lleol. Mae hyn yn rhoi cyfle i gydnabod yr ymdrechion parhaus i gynyddu cymwysterau Cymraeg, darpariaeth ac argaeledd adnoddau a staffio o fewn addysg bellach a dysgu yn seiliedig ar waith mewn meysydd blaenoriaeth allweddol.
Rhannodd Cymwysterau Cymru fanylion mewn adroddiad diweddar oedd yn datgan fod cymwysterau mewn pynciau celf, y creadigol a’r cyfryngau yn diwallu anghenion dysgwyr a’u bod ar gael yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Rhannodd eraill eu hymdrechion i hyrwyddo’r ddarpariaeth Gymraeg yn y meysydd hyn, gyda thrafodaeth banel yn cynnwys adborth gan ddysgwyr.
Dywedodd Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru:
“Mae gwaith adolygu wedi’i dargedu gan Cymwysterau Cymru yn edrych ar gymwysterau galwedigaethol mewn sectorau cyflogaeth allweddol yn eu tro, gan ystyried anghenion dysgwyr ochr yn ochr ag anghenion diwydiant a’r economi. Sefydlodd ein hadroddiad diweddar fod cymwysterau mewn pynciau creadigol yn cyfarch anghenion dysgwyr a’u bod ar gael yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd ein rhanddeiliaid a’n partneriaid yn rhan annatod o’r adolygiad hwn, ac felly rydym yn teimlo’n gyffrous o gael dathlu cryfderau’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector hwn yn y digwyddiad yma sydd ar y cyd, wrth i ni barhau â’n gwaith gyda’n gilydd i gryfhau’r ddarpariaeth.”
Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd:
“Nid mater o warchod ein treftadaeth ddiwylliannol yn unig yw hyrwyddo’r Gymraeg yn y sector celf a’r cyfryngau creadigol; mae’n ymwneud â chyfoethogi’r profiad addysgol i’n dysgwyr ac agor llwybrau newydd ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd. Trwy gofleidio addysg ddwyieithog, rydym yn grymuso ein dysgwyr i fynegi eu hunain yn llawn, gan sicrhau bod y diwylliant Cymraeg yn parhau i ffynnu yng Ngholeg y Cymoedd a’r gymuned ehangach.”
Dywedodd David Hagendyk, Prif Weithredwr, ColegauCymru:
“Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan yn y drafodaeth banel werthfawr hon. Ynghyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae ein colegau addysg bellach wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Er mwyn cyrraedd y targed yma, mae angen buddsoddiad i gefnogi datblygiad lefelau sgiliau Cymraeg ôl-16; darparu cyfleoedd sy’n annog dysgwyr i barhau i ddefnyddio’u Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol ac sy’n galluogi pawb i ddatblygu’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y gweithle yn eu cymunedau lleol. Mae’r sector addysg bellach yn galw am fwy o fuddsoddiad i helpu i adeiladu gweithlu dwyieithog cryf i helpu i gyflawni hyn.”