Skip to main content Skip to footer

Grantiau 

Cronfa Datblygiadau Strategol y Coleg 

Oes gennych chi syniad arloesol a fyddai’n cyfoethogi ein darpariaeth i fyfyrwyr? 

Mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig cyfres o wahanol grantiau sy’n cefnogi mentrau arloesol a chreadigol. 

Mae rhai yn grantiau i unigolion ac eraill yn fentrau sydd ag elfen o gydweithio.   

 

Y Gronfa Gydweithredol 

Mae’r Coleg fel arfer yn gwahodd ceisiadau i’w Gronfa Gydweithredol yn nhymor y gwanwyn. Mae’r Gronfa Gydweithredol yn cefnogi modiwlau, gweithgareddau a chynadleddau lle mae yna elfen o gydweithio. I wneud ymholiad am y Gronfa Gydweithredol ebostiwch prosiectau@colegcymraeg.ac.uk

Grantiau Bach  

A oes gennych chi brosiect unigol yr hoffech chi ei ddefnyddio i gyfoethogi’r ddarpariaeth addysg uwch o fewn eich sefydliad?  

A yw’n debygol o barhau am flwyddyn? A fyddai’n gallu arwain at gyhoeddi neu rannu arferion da?  
Mae’r Gronfa hon yn cefnogi mentrau arloesol a chreadigol gwerth hyd at £2,500 ac a fyddai, yn y pen draw, yn cyflawni’r amcanion uchod.   

Byddwn yn cyhoeddi o leiaf un cylch o grantiau bach fesul blwyddyn. Gall pob sefydliad gyflwyno hyd at bum cais.  I wneud ymholiad am y Grantiau Bach ebostiwch prosiectau@colegcymraeg.ac.uk .