Skip to main content Skip to footer

Cynllun Academaidd Addysg Uwch

Cynllun Academaidd Addysg Uwch

Y Cynllun Academaidd sy’n cyflwyno blaenoriaethau’r Coleg ar gyfer cefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg. 

Pan sefydlwyd y Coleg ddegawd yn ôl, nod y Cynllun Academaidd cyntaf oedd sicrhau bod gan fyfyrwyr hawl i gael addysg uwch yn Gymraeg. Ers hynny, mae’r Coleg wedi cefnogi prifysgolion a cholegau addysg bellach sy’n cynnig cyrsiau ar lefel addysg uwch, i gynyddu’r cyfleoedd astudio sydd ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Drwy ariannu swyddi darlithio, creu adnoddau dysgu, a chynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr, mae nifer y cyrsiau y mae modd astudio rhan ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu’n sylweddol. 

Erbyn ail Gynllun Academaidd y Coleg yn 2017, roedd y pwyslais ar ddyfnhau y profiad dysgu i fyfyrwyr a sicrhau bod modd astudio’n helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd hynny, bellach mae modd astudio hyd at 1/3 o gynllun gradd yn y mwyafrif o bynciau prifysgol mewn o leiaf un sefydliad yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Cynllun Academaidd Addysg Uwch 2022 

Ers 2022, mae gan y Coleg Gynllun Academaidd newydd. Bydd gwaith y Coleg dros y 5-10 mlynedd nesaf yn cael ei lywio gan y cynllun.  

Mae 3 thema i’r Cynllun Academaidd: 

  • diogelu
  • dyfnhau
  • ymestyn 

Diogelu - hawl myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 

Bydd y Coleg yn gwarchod yr hyn sydd wedi cael ei feithrin dros y degawd cyntaf ac yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau bod modd i fyfyrwyr astudio pob pwnc yn helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn o leiaf un o sefydliadau Cymru. 

 

Dyfnhau - a helaethu profiad dysgu cyfrwng Cymraeg 

Byddwn yn gweithio gyda darparwyr i gynnig isafswm o 20 credyd o ddysgu cyfrwng Cymraeg ym mhob blwyddyn, fel bod myfyrwyr yn gallu cynnal a datblygu eu sgiliau iaith, a’u hyder yn eu sgiliau iaith, wrth iddyn nhw astudio mewn addysg uwch.  

Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi adrannau sy’n cynnig 1/3 neu fwy o’u cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gofyn i’r rheiny sy’n derbyn cyllid ar gyfer cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg i droi mwy o fyfyrwyr sy'n gallu siarad Cymraeg tuag at astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Ymestyn - rhoi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr 

Mae’r Coleg eisiau sicrhau bod gan bob myfyriwr y cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, lle bynnag y maen nhw’n astudio a beth bynnag yw eu pwnc. Hon yw blaenoriaeth fwyaf uchelgeisiol y Coleg ac mae’n gofyn bod y Coleg a’r darparwyr yn denu cynulleidfaoedd newydd at astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel addysg uwch.  

Mae hynny’n cynnwys myfyrwyr mewn adrannau lle nad oes dewis cyfrwng Cymraeg iddyn nhw ar hyn o bryd, myfyrwyr sy’n dewis peidio ag astudio oherwydd nad ydyn nhw’n hyderus yn y Gymraeg, a myfyrwyr nad oes ganddynt unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen cyflwyno dulliau arloesol newydd o ddysgu a rhannu arbenigedd ar draws darparwyr. 

Rhoi’r Cynllun Academaidd ar waith 

Mae gan y Coleg sawl cronfa ariannol i gefnogi prifysgolion a cholegau addysg bellach sy’n darparu cyrsiau addysg uwch. Bob blwyddyn, bydd y Coleg yn rhoi nifer o grantiau i gefnogi pethau fel creu adnoddau, dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau, ymchwil a theithiau astudio. Ond bydd y mwyafrif o’r gefnogaeth ariannol yn dod drwy’r Grantiau Pynciol a'r Grantiau Sbarduno. 

Mae’r grantiau hyn yn cael eu rhoi i sefydliadau sy’n darparu cyrsiau gradd lle y mae modd i fyfyrwyr astudio tipyn o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhaid bod y sefydliad yn cynnig dau beth er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant: 40 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob blwyddyn astudio (sef 33% o gwrs gradd), neu 80 credyd neu fwy ym mhob blwyddyn astudio (sef 67% o gwrs gradd). Ar gyfer darparu 40 credyd, mae disgwyl bod gan adran o leiaf 2 aelod staff cyfwerth ag amser llawn sy'n cyfrannu at y dysgu, ac o leiaf 4 aelod o staff ar gyfer darparu 80 credyd. 

Bydd cost cynnal y ddarpariaeth yn cael ei rhannu rhwng y Coleg a’r darparwr. Mae’r ffordd y mae’r gost yn cael ei rhannu yn cael ei benderfynu ar sail categori y pwnc, ac mae 4 categori: 

  • Pynciau blaenoriaeth: lle mae galw amlwg gan gyflogwyr a/neu yn sgil polisi cyhoeddus am raddedigion dwyieithog e.e. pynciau iechyd a gofal; 
  • Pynciau datblygu: lle mae nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd yn gymharol fach, ond lle mae potensial a’r awydd i ddatblygu; 
  • Pynciau datblygedig: lle mae’r ddarpariaeth a nifer y myfyrwyr yn iach, ond lle nad yw’r ddarpariaeth eto yn gynaliadwy;  
  • Pynciau aeddfed: lle mae addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi’i wreiddio, y capasiti staffio yn gadarn, a niferoedd y myfyrwyr fel arfer yn ddigonol ar lefel genedlaethol i gynnal y ddarpariaeth heb lawer o gymorth ariannol ychwanegol. 

Mae’r model grantiau pynciol hefyd yn gwobrwyo adrannau am faint o fyfyrwyr sydd ganddynt yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn annog adrannau i anelu’n uwch. 

Diben y grantiau hyn yw cefnogi sefydliadau i greu darpariaeth newydd yn y Gymraeg lle nad oes capasiti staffio ar hyn o bryd. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ariannu swydd, a bydd y sefydliad yn rhannu rhywfaint o’r gost hon hefyd. Fel arfer, bydd y swyddi hyn ar gyfer darlithwyr a fydd yn gyfrifol am greu a chyflwyno modiwlau a chyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg newydd i fyfyrwyr. Bydd deiliaid y swyddi hefyd yn gallu hyrwyddo’r ddarpariaeth newydd ymhlith darpar-fyfyrwyr, a dod o hyd i staff eraill a fyddai’n gallu cyfrannu at y dysgu cyfrwng Cymraeg maes o law. 

Mae’r rhain yn grantiau newydd gan y Coleg, a byddant yn cael eu defnyddio i gefnogi creu darpariaeth sy’n gallu pontio ar draws pynciau. Drwy greu modiwlau sy’n gallu cael eu cynnig mewn nifer o gyrsiau gradd, mae modd creu darpariaeth newydd mewn adrannau lle na fu dewis cyfrwng Cymraeg o’r blaen, ac yn gallu tynnu rhagor o fyfyrwyr at ei gilydd mewn dosbarthiadau dysgu cynaliadwy. 

Mae’r grantiau hyn yn cael eu cynllunio’n ofalus rhwng y Coleg a rheolwyr cyfrwng Cymraeg yn y sefydliadau, ac yn mynd ochr yn ochr â blaenoriaethau’r Cynllun Academaidd Addysg Uwch.